Cofair: accom_by_dwelling_type
Cymhwysedd: Annedd
Math: Deillio newidyn

Diffiniad

Yn dosbarthu anheddau yn ôl y math o gartref. Er enghraifft, tai, fflatiau neu gartrefi symudol a dros dro.

Dosbarthiad

Cyfanswm nifer y categorïau: 9

Cod Enw
1 Annedd heb ei rhannu: Tŷ neu fyngalo cyfan ar wahân
2 Annedd heb ei rhannu: Tŷ neu fyngalo semi
3 Annedd heb ei rhannu: Tŷ neu fyngalo mewn teras
4 Annedd heb ei rhannu: Mewn bloc o fflatiau neu denement a adeiladwyd yn bwrpasol
5 Annedd heb ei rhannu: Yn rhan o dŷ wedi’i addasu neu dŷ sy’n cael ei rannu, gan gynnwys fflatiau un ystafell
6 Annedd heb ei rhannu: Yn rhan o adeilad arall wedi’i addasu, er enghraifft, hen ysgol, eglwys neu warws
7 Annedd heb ei rhannu: Mewn adeilad masnachol, er enghraifft, mewn adeilad o swyddfeydd, gwesty, neu uwchben siop
8 Annedd heb ei rhannu: Carafán neu fath arall o gartref symudol neu dros dro
9 Annedd sy'n cael ei rhannu

Gweld pob dosbarthiad cartref yn ôl math o annedd.

Cefndir

Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cymharedd â Chyfrifiad 2011

Cymaradwy yn fras

Rydym wedi ychwanegu categori arall sef “yn rhan o adeilad arall wedi’i addasu (er enghraifft hen ysgol, eglwys neu warws)”. Mae hyn yn golygu bod rhai newidiadau i'r ffordd y gwnaeth pobl a oedd yn byw mewn fflatiau ateb y cwestiwn wrth gymharu'r newidyn hwn â'r un yng Nghyfrifiad 2011.

Beth yw ystyr cymaradwy yn fras?

Mae newidyn sy’n gymaradwy yn fras yn golygu y gellir ei gymharu’n gyffredinol â’r un newidyn a ddefnyddiwyd yng Nghyfrifiad 2011. Fodd bynnag, efallai bod newidiadau wedi'u gwneud i'r cwestiwn neu'r opsiynau y gallai pobl ddewis ohonynt neu sut mae atebion ysgrifenedig yn cael eu dosbarthu.

Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban

Ddim yn gymaradwy

Nid yw'r newidyn hwn yn gymaradwy am nad yw'r data ar gael ar gyfer pob gwlad.

Beth yw ystyr ddim yn gymaradwy?

Mae newidyn nad yw'n gymaradwy (neu sydd ‘ddim yn gymaradwy’) yn golygu na ellir ei gymharu ar gyfer Cymru, Lloegr, yr Alban na Gogledd Iwerddon.

Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).

Data Cyfrifiad 2021 sy’n defnyddio’r newidyn hwn

Gallwch greu set ddata wedi’i deilwra (yn Saesneg).

Setiau data eraill sy’n defnyddio’r newidyn hwn