Cofair: hh_carers
Cymhwysedd: Cartref
Math: Deillio newidyn
Diffiniad
Gall gofalwr di-dâl ofalu am unrhyw un, cynnig help neu gefnogaeth i unrhyw un sydd â chyflwr neu salwch corfforol neu feddyliol hirdymor, neu broblemau sy’n gysylltiedig â henaint.
Nid yw hyn yn cynnwys unrhyw weithgareddau fel rhan o waith am dâl.
Gall yr help hwn fod yng nghartref y gofalwr neu'r tu allan iddo.
Dosbarthiad
Cyfanswm nifer y categorïau: 6
Cod | Enw |
---|---|
0 | Nid oes unrhyw ofalwyr di-dâl yn y cartref |
1 | 1 gofalwr di-dâl yn y cartref |
2 | 2 ofalwr di-dâl yn y cartref |
3 | 3 gofalwr di-dâl yn y cartref |
4 | 4 neu fwy o ofalwyr di-dâl yn y cartref |
-8 | Ddim yn gymwys* |
*Cartrefi heb unrhyw breswylwyr arferol.
Ansawdd gwybodaeth
Ni wnaethom ofyn i bobl o dan 5 oed a oeddent yn darparu gofal di-dâl, felly mae’r newidyn hwn yn cyfrif preswylwyr arferol 5 oed a throsodd.
Cefndir
Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).
Cymharedd â Chyfrifiad 2011
Cymaradwy iawn
Beth yw ystyr cymaradwy iawn?
Mae newidyn sy’n gymaradwy iawn yn golygu y gellir ei gymharu’n uniongyrchol â’r newidyn o Gyfrifiad 2011. Gall y cwestiynau a’r opsiynau y gallai pobl ddewis fod ychydig yn wahanol, er enghraifft efallai bod trefn yr opsiynau wedi’u newid, ond mae’r data a gesglir yr un peth.
Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban
Cymaradwy iawn
Beth yw ystyr cymaradwy iawn?
Mae newidyn sy'n gymaradwy iawn yn golygu y gellir ei gymharu'n uniongyrchol â'r newidyn o'r Alban a Gogledd Iwerddon. Efallai fod y cwestiynau a'r opsiynau y gallai pobl ddewis ohonynt ychydig yn wahanol, er enghraifft gall yr opsiynau fod mewn trefn wahanol, ond mae'r data a gaiff eu casglu yr un peth.
Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).