Cofair: hh_no_condition
Cymhwysedd: Cartref
Math: Deillio newidyn
Diffiniad
Nifer y bobl yn y cartref a asesodd nad oedd ganddynt gyflwr na salwch corfforol neu feddyliol hirdymor a oedd wedi para neu oedd yn debygol o bara 12 mis neu fwy. Ni chaiff y bobl hyn eu hystyried yn anabl yn unol â diffiniad y Ddeddf Cydraddoldeb (2010) o anabledd.
Dosbarthiad
Cyfanswm nifer y categorïau: 4
Cod | Enw |
---|---|
0 | Pob person yn y cartref â chyflwr iechyd neu anabledd hirdymor |
1 | 1 person yn y cartref heb gyflwr iechyd nac anabledd hirdymor |
2 | 2 neu fwy o bobl yn y cartref heb gyflwr iechyd nac anabledd hirdymor |
-8 | Ddim yn gymwys* |
*Cartrefi heb unrhyw breswylwyr arferol.
Cefndir
Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).
Cymharedd â Chyfrifiad 2011
Ddim yn gymaradwy
Mae'r newidyn hwn yn newydd ar gyfer Cyfrifiad 2021 ac felly ni ellir cymharu â Chyfrifiad 2011.
Beth yw ystyr ddim yn gymaradwy?
Mae newidyn sydd ddim yn gymaradwy yn golygu na ellir ei gymharu â newidyn o Gyfrifiad 2011.
Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban
Ddim yn gymaradwy
Nid yw'r newidyn hwn yn gymaradwy am nad yw'r data ar gael ar gyfer pob gwlad.
Beth yw ystyr ddim yn gymaradwy?
Mae newidyn nad yw'n gymaradwy (neu sydd ‘ddim yn gymaradwy’) yn golygu na ellir ei gymharu ar gyfer Cymru, Lloegr, yr Alban na Gogledd Iwerddon.
Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).