Cofair: hh_not_limited
Cymhwysedd: Cartref
Math: Deillio newidyn

Diffiniad

Nifer y bobl yn y cartref a asesodd nad oedd ganddynt gyflwr na salwch corfforol neu feddyliol hirdymor nad ydynt yn cyfyngu ar eu gweithgareddau pob dydd. Ni chaiff y bobl hyn eu hystyried yn anabl yn unol â diffiniad y Ddeddf Cydraddoldeb (2010) o anabledd.

Dosbarthiad

Cyfanswm nifer y categorïau: 4

Cod Enw
0 Neb yn y cartref â chyflwr iechyd corfforol na meddyliol hirdymor nad yw'n cyfyngu arnynt
1 1 person yn y cartref â chyflwr iechyd corfforol neu feddyliol hirdymor nad yw'n cyfyngu arno
2 2 neu fwy o bobl yn y cartref â chyflwr iechyd corfforol neu feddyliol hirdymor nad yw'n cyfyngu arnynt
-8 Ddim yn gymwys*

*Cartrefi heb unrhyw breswylwyr arferol.

Cefndir

Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cymharedd â Chyfrifiad 2011

Ddim yn gymaradwy

Mae'r newidyn hwn yn newydd ar gyfer Cyfrifiad 2021 ac felly ni ellir cymharu â Chyfrifiad 2011.

Beth yw ystyr ddim yn gymaradwy?

Mae newidyn sydd ddim yn gymaradwy yn golygu na ellir ei gymharu â newidyn o Gyfrifiad 2011.

Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban

Ddim yn gymaradwy

Nid yw'r newidyn hwn yn gymaradwy am nad yw'r data ar gael ar gyfer pob gwlad.

Beth yw ystyr ddim yn gymaradwy?

Mae newidyn nad yw'n gymaradwy (neu sydd ‘ddim yn gymaradwy’) yn golygu na ellir ei gymharu ar gyfer Cymru, Lloegr, yr Alban na Gogledd Iwerddon.

Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).

Data Cyfrifiad 2021 sy’n defnyddio’r newidyn hwn

Gallwch greu set ddata wedi’i deilwra (yn Saesneg).