Cofair: hh_disabled
Cymhwysedd: Cartref
Math: Deillio newidyn

Diffiniad

Nifer y bobl mewn cartref a asesodd fod cyflwr neu salwch corfforol neu feddyliol hirdymor yn cyfyngu ar eu gweithgareddau pob dydd ac a gaiff eu hystyried yn anabl. Mae'r diffiniad hwn o berson anabl yn cyrraedd y safon wedi'i chysoni ar gyfer mesur anabledd ac mae'n unol â'r Ddeddf Cydraddoldeb (2010).

Dosbarthiad

Cyfanswm nifer y categorïau: 4

Cod Enw
0 Neb yn y cartref yn anabl o dan y Ddeddf Cydraddoldeb
1 1 person yn y cartref yn anabl o dan y Ddeddf Cydraddoldeb
2 2 neu fwy o bobl yn y cartref yn anabl o dan y Ddeddf Cydraddoldeb
-8 Ddim yn gymwys*

*Cartrefi heb unrhyw breswylwyr arferol.

Gweld pob dosbarthiad nifer y bobl anabl yn y cartref.

Cefndir

Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cymharedd â Chyfrifiad 2011

Cymaradwy yn fras

Mae pob categori yn y newidyn hwn yn cyfeirio at nifer y bobl anabl yn y cartref. Yng Nghyfrifiad 2011, roedd pob categori yn cyfeirio at nifer y bobl yn y cartref oedd â phroblem iechyd neu anabledd hirdymor.

Beth yw ystyr cymaradwy yn fras?

Mae newidyn sy’n gymaradwy yn fras yn golygu y gellir ei gymharu’n gyffredinol â’r un newidyn a ddefnyddiwyd yng Nghyfrifiad 2011. Fodd bynnag, efallai bod newidiadau wedi'u gwneud i'r cwestiwn neu'r opsiynau y gallai pobl ddewis ohonynt neu sut mae atebion ysgrifenedig yn cael eu dosbarthu.

Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban

Cymaradwy iawn

Beth yw ystyr cymaradwy iawn?

Mae newidyn sy'n gymaradwy iawn yn golygu y gellir ei gymharu'n uniongyrchol â'r newidyn o'r Alban a Gogledd Iwerddon. Efallai fod y cwestiynau a'r opsiynau y gallai pobl ddewis ohonynt ychydig yn wahanol, er enghraifft gall yr opsiynau fod mewn trefn wahanol, ond mae'r data a gaiff eu casglu yr un peth.

Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).

Data Cyfrifiad 2021 sy’n defnyddio’r newidyn hwn

Rydym yn defnyddio newidynnau o ddata Cyfrifiad 2021 i ddangos canfyddiadau mewn gwahanol ffyrdd.

Gallwch chi:

Fel arall, gallwch hefyd greu set ddata wedi’i deilwra (yn Saesneg).

Setiau data eraill sy’n defnyddio’r newidyn hwn