Cofair: welsh_skills_write
Cymhwysedd: Person
Math: Deillio newidyn

Diffiniad

Mae hyn yn dosbarthu person fel rhywun sy'n gallu ysgrifennu Cymraeg os gwnaeth dicio "Ysgrifennu Cymraeg" yn holiadur y cyfrifiad. Mae'n bosibl hefyd y bydd wedi ticio un neu fwy o'r canlynol:

  • deall Cymraeg llafar
  • siarad Cymraeg
  • darllen Cymraeg

Mewn canlyniadau sy'n dosbarthu pobl yn ôl sgiliau Cymraeg, gall person ymddangos mewn mwy nag un categori gan ddibynnu ar ba gyfuniad o sgiliau sydd ganddo.

Dosbarthiad

Cyfanswm nifer y categorïau: 3

Cod Enw
1 Yn gallu ysgrifennu Cymraeg
0 Methu ag ysgrifennu Cymraeg
-8 Ddim yn gymwys*

*Myfyrwyr a phlant ysgol sy’n byw i ffwrdd o'r cartref yn ystod y tymor, pobl nad ydynt yn byw yng Nghymru, a phlant 2 oed neu'n iau.

Cefndir

Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cymharedd â Chyfrifiad 2011

Cymaradwy iawn

Beth yw ystyr cymaradwy iawn?

Mae newidyn sy’n gymaradwy iawn yn golygu y gellir ei gymharu’n uniongyrchol â’r newidyn o Gyfrifiad 2011. Gall y cwestiynau a’r opsiynau y gallai pobl ddewis fod ychydig yn wahanol, er enghraifft efallai bod trefn yr opsiynau wedi’u newid, ond mae’r data a gesglir yr un peth.

Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban

Gwlad-benodol

Beth yw ystyr gwlad-benodol?

Dim ond ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr y mae'r newidyn hwn wedi cael ei gynhyrchu.

Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).

Data Cyfrifiad 2021 sy’n defnyddio’r newidyn hwn

Rydym yn defnyddio newidynnau o ddata Cyfrifiad 2021 i ddangos canfyddiadau mewn gwahanol ffyrdd.

Gallwch chi:

Fel arall, gallwch hefyd greu set ddata wedi’i deilwra (yn Saesneg).

Setiau data eraill sy’n defnyddio’r newidyn hwn