Cofair: welsh_skills_understand
Cymhwysedd: Person
Math: Deillio newidyn
Diffiniad
Mae hyn yn dosbarthu person fel rhywun sy'n gallu deall Cymraeg llafar os gwnaeth dicio "Deall Cymraeg llafar" yn holiadur y cyfrifiad. Mae'n bosibl hefyd y bydd wedi ticio un neu fwy o'r canlynol:
- siarad Cymraeg
- darllen Cymraeg
- ysgrifennu Cymraeg
Mewn canlyniadau sy'n dosbarthu pobl yn ôl sgiliau Cymraeg, gall person ymddangos mewn mwy nag un categori gan ddibynnu ar ba gyfuniad o sgiliau sydd ganddo.
Dosbarthiad
Cyfanswm nifer y categorïau: 3
Cod | Enw |
---|---|
1 | Yn gallu deall Cymraeg llafar |
0 | Methu â deall Cymraeg llafar |
-8 | Ddim yn gymwys* |
*Myfyrwyr a phlant ysgol sy’n byw i ffwrdd o'r cartref yn ystod y tymor, pobl nad ydynt yn byw yng Nghymru, a phlant 2 oed neu'n iau.
Cefndir
Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).
Cymharedd â Chyfrifiad 2011
Cymaradwy iawn
Beth yw ystyr cymaradwy iawn?
Mae newidyn sy’n gymaradwy iawn yn golygu y gellir ei gymharu’n uniongyrchol â’r newidyn o Gyfrifiad 2011. Gall y cwestiynau a’r opsiynau y gallai pobl ddewis fod ychydig yn wahanol, er enghraifft efallai bod trefn yr opsiynau wedi’u newid, ond mae’r data a gesglir yr un peth.
Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban
Gwlad-benodol
Beth yw ystyr gwlad-benodol?
Dim ond ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr y mae'r newidyn hwn wedi cael ei gynhyrchu.
Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).
Data Cyfrifiad 2021 sy’n defnyddio’r newidyn hwn
Rydym yn defnyddio newidynnau o ddata Cyfrifiad 2021 i ddangos canfyddiadau mewn gwahanol ffyrdd.
Gallwch chi:
Fel arall, gallwch hefyd greu set ddata wedi’i deilwra (yn Saesneg).