Cofair: welsh_speaking_dependent_child
Cymhwysedd: Person
Math: Deillio newidyn

Diffiniad

Yn nodi a yw plentyn dibynnol 3 oed a throsodd sy'n byw mewn teulu yn siarad Cymraeg ac yn ei gategoreiddio yn ôl grŵp oedran.

Dosbarthiad

Cyfanswm nifer y categorïau: 9

Cod Enw
1 Gall plentyn dibynnol siarad Cymraeg: 3 i 4 oed
2 Gall plentyn dibynnol siarad Cymraeg: 5 i 11 oed
3 Gall plentyn dibynnol siarad Cymraeg: 12 i 15 oed
4 Gall plentyn dibynnol siarad Cymraeg: 16 i 18 oed
5 Ni all plentyn dibynnol siarad Cymraeg: 3 i 4 oed
6 Ni all plentyn dibynnol siarad Cymraeg: 5 i 11 oed
7 Ni all plentyn dibynnol siarad Cymraeg: 12 i 15 oed
8 Ni all plentyn dibynnol siarad Cymraeg: 16 i 18 oed
-8 Ddim yn gymwys*

*Myfyrwyr a phlant ysgol sy’n byw i ffwrdd o'r cartref yn ystod y tymor, pobl sy'n byw mewn sefydliadau cymunedol, pobl nad ydynt yn blant dibynnol, a phobl nad ydynt yn byw yng Nghymru.

Gweld pob dosbarthiad gallu plant dibynnol i siarad Cymraeg.

Cefndir

Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cymharedd â Chyfrifiad 2011

Cymaradwy iawn

Beth yw ystyr cymaradwy iawn?

Mae newidyn sy’n gymaradwy iawn yn golygu y gellir ei gymharu’n uniongyrchol â’r newidyn o Gyfrifiad 2011. Gall y cwestiynau a’r opsiynau y gallai pobl ddewis fod ychydig yn wahanol, er enghraifft efallai bod trefn yr opsiynau wedi’u newid, ond mae’r data a gesglir yr un peth.

Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban

Gwlad-benodol

Beth yw ystyr gwlad-benodol?

Dim ond ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr y mae'r newidyn hwn wedi cael ei gynhyrchu.

Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).

Data Cyfrifiad 2021 sy’n defnyddio’r newidyn hwn

Gallwch greu set ddata wedi’i deilwra (yn Saesneg).

Setiau data eraill sy’n defnyddio’r newidyn hwn