Cofair: welsh_skills_speak
Cymhwysedd: Person
Math: Deillio newidyn
Diffiniad
Mae hyn yn dosbarthu person fel rhywun sy'n gallu siarad Cymraeg os gwnaeth dicio "Siarad Cymraeg" yn holiadur y cyfrifiad. Mae'n bosibl hefyd y bydd wedi ticio un neu fwy o'r canlynol:
- deall Cymraeg llafar
- darllen Cymraeg
- ysgrifennu Cymraeg
Mewn canlyniadau sy'n dosbarthu pobl yn ôl sgiliau Cymraeg, gall person ymddangos mewn mwy nag un categori gan ddibynnu ar ba gyfuniad o sgiliau sydd ganddo.
Dosbarthiad
Cyfanswm nifer y categorïau: 3
Cod | Enw |
---|---|
1 | Yn gallu siarad Cymraeg |
0 | Methu â siarad Cymraeg |
-8 | Ddim yn gymwys* |
*Myfyrwyr a phlant ysgol sy’n byw i ffwrdd o'r cartref yn ystod y tymor, pobl nad ydynt yn byw yng Nghymru, a phlant 2 oed neu'n iau.
Cefndir
Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).
Cymharedd â Chyfrifiad 2011
Cymaradwy iawn
Beth yw ystyr cymaradwy iawn?
Mae newidyn sy’n gymaradwy iawn yn golygu y gellir ei gymharu’n uniongyrchol â’r newidyn o Gyfrifiad 2011. Gall y cwestiynau a’r opsiynau y gallai pobl ddewis fod ychydig yn wahanol, er enghraifft efallai bod trefn yr opsiynau wedi’u newid, ond mae’r data a gesglir yr un peth.
Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban
Gwlad-benodol
Beth yw ystyr gwlad-benodol?
Dim ond ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr y mae'r newidyn hwn wedi cael ei gynhyrchu.
Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).
Data Cyfrifiad 2021 sy’n defnyddio’r newidyn hwn
Rydym yn defnyddio newidynnau o ddata Cyfrifiad 2021 i ddangos canfyddiadau mewn gwahanol ffyrdd.
Gallwch chi:
- gael y set ddata gallu i siarad Cymraeg (yn Saesneg)
- weld data gallu i siarad Cymraeg ar fap (yn Saesneg)
- ddarllen sut mae ardal wedi newid mewn 10 mlynedd (yn Saesneg)
Fel arall, gallwch hefyd greu set ddata wedi’i deilwra (yn Saesneg).
Setiau data eraill sy’n defnyddio’r newidyn hwn
- Sgiliau Cymraeg (siarad) fesul blwyddyn o oed (yn Saesneg)
- Y gallu i siarad Cymraeg yn ôl diwydiant (yn Saesneg)
- Y gallu i siarad Cymraeg yn ôl hunaniaeth genedlaethol ac oedran (yn Saesneg)
- Y gallu i siarad Cymraeg yn ôl Dosbarthiad Economaidd-gymdeithasol Ystadegau Gwladol (NS-SEC) (yn Saesneg)
- Y gallu i siarad Cymraeg yn ôl galwedigaeth (yn Saesneg)
- Y gallu i siarad Cymraeg yn ôl deiliadaeth - Person Cyswllt y Cartref (yn Saesneg)
- Y gallu i siarad Cymraeg yn ôl wedi gweithio erioed (yn Saesneg)
- Iechyd cyffredinol yn ôl y gallu i siarad Cymraeg ac oedran (yn Saesneg)
- Anabledd yn ôl y gallu i siarad Cymraeg ac oedran (yn Saesneg)
- Math o deulu yn ôl gallu rhieni i siarad Cymraeg, oedran a gallu plentyn dibynnol i siarad Cymraeg (yn Saesneg)
- Gallu i siarad Cymraeg (plwyfi) (yn Saesneg)
- Y boblogaeth y tu allan i'r tymor yn ôl sgiliau Cymraeg (siarad) (yn Saesneg)
- Y boblogaeth diwrnod gwaith yn ôl sgiliau Cymraeg (siarad) (yn Saesneg)
- Poblogaeth gweithle yn ôl sgiliau Cymraeg (siarad) (yn Saesneg)