Cofair: hh_welsh_speaking_adults
Cymhwysedd: Cartref
Math: Deillio newidyn
Diffiniad
Nifer yr oedolion (16 oed a throsodd) sy'n gallu siarad Cymraeg mewn cartrefi yng Nghymru.
Dosbarthiad
Cyfanswm nifer y categorïau: 3
Cod | Enw |
---|---|
0 | Dim oedolion sy'n siarad Cymraeg yn y cartref |
1 | O leiaf un oedolyn sy'n siarad Cymraeg yn y cartref |
-8 | Ddim yn gymwys* |
*Cartrefi heb unrhyw breswylwyr arferol, a chartrefi yn Lloegr.
Cefndir
Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).
Cymharedd â Chyfrifiad 2011
Cymaradwy iawn
Beth yw ystyr cymaradwy iawn?
Mae newidyn sy’n gymaradwy iawn yn golygu y gellir ei gymharu’n uniongyrchol â’r newidyn o Gyfrifiad 2011. Gall y cwestiynau a’r opsiynau y gallai pobl ddewis fod ychydig yn wahanol, er enghraifft efallai bod trefn yr opsiynau wedi’u newid, ond mae’r data a gesglir yr un peth.
Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban
Gwlad-benodol
Beth yw ystyr gwlad-benodol?
Dim ond ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr y mae'r newidyn hwn wedi cael ei gynhyrchu.
Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).