Cofair: religion_tb
Cymhwysedd: Person
Math: Deillio newidyn

Diffiniad

Y grefydd y mae pobl yn cysylltu neu'n uniaethu â hi. Nid oes rhaid iddynt ei harfer na chredu ynddi.

Roedd y cwestiwn hwn yn wirfoddol ac yn dosbarthu pobl a oedd yn uniaethu ag un o 8 opsiwn ymateb, gan gynnwys "Dim crefydd", ochr yn ochr â'r rhai a ddewisodd beidio ag ateb y cwestiwn hwn.

Dosbarthiad

Cyfanswm nifer y categorïau: 10

Cod Enw
1 Dim crefydd
2 Cristnogaeth
3 Bwdhaeth
4 Hindŵaeth
5 Iddewiaeth
6 Islam
7 Siciaeth
8 Crefydd arall
9 Heb ateb
-8 Ddim yn gymwys*

*Myfyrwyr a phlant ysgol sy’n byw i ffwrdd o'r cartref yn ystod y tymor.

Gweld pob dosbarthiad crefydd.

Ansawdd gwybodaeth

Mae rhai materion ansawdd yn y data a allai effeithio ar sut rydych chi’n defnyddio’r data.

Cefndir

Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cymharedd â Chyfrifiad 2011

Cymaradwy yn fras

Fel arfer, gellir cymharu'r newidyn deilliedig hwn â'r un newidyn a ddefnyddiwyd yng Nghyfrifiad 2011, ond mae rhai problemau o ran ansawdd y data.

Beth yw ystyr cymaradwy yn fras?

Mae newidyn sy’n gymaradwy yn fras yn golygu y gellir ei gymharu’n gyffredinol â’r un newidyn a ddefnyddiwyd yng Nghyfrifiad 2011. Fodd bynnag, efallai bod newidiadau wedi'u gwneud i'r cwestiwn neu'r opsiynau y gallai pobl ddewis ohonynt neu sut mae atebion ysgrifenedig yn cael eu dosbarthu.

Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban

Cymaradwy yn fras

Mae'r crefyddau sydd wedi'u cynnwys yn y newidyn ar gyfer Cymru a Lloegr yn wahanol i'r rhai sydd wedi'u cynnwys yn y newidynnau a gynhyrchwyd gan yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Beth yw ystyr cymaradwy yn fras?

Mae newidyn sy'n gymaradwy yn fras yn golygu y gall allbynnau o Gyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr gael eu cymharu'n gyffredinol â'r Alban a Gogledd Iwerddon. Gall gwahaniaethau o ran y ffordd y cafodd y data eu casglu neu eu cyflwyno olygu bod llai o allu i gysoni allbynnau yn llawn, ond byddem yn disgwyl gallu eu cysoni rywfaint o hyd.

Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).

Data Cyfrifiad 2021 sy’n defnyddio’r newidyn hwn

Rydym yn defnyddio newidynnau o ddata Cyfrifiad 2021 i ddangos canfyddiadau mewn gwahanol ffyrdd.

Gallwch chi:

Fel arall, gallwch hefyd greu set ddata wedi’i deilwra (yn Saesneg).

Setiau data eraill sy’n defnyddio’r newidyn hwn