Cofair: national_identity_detailed
Cymhwysedd: Person
Math: Deillio newidyn

Diffiniad

Hunaniaeth genedlaethol unigolyn yw'r ffordd y mae'r unigolyn hwnnw yn asesu ei hunaniaeth ei hun, gallai olygu'r wlad neu'r gwledydd lle mae'n teimlo ei fod yn perthyn, neu sy'n teimlo fel cartref iddo. Nid yw'n dibynnu ar grŵp ethnig na dinasyddiaeth.

Gallai ymatebwyr ddewis mwy nag un hunaniaeth genedlaethol.

Dosbarthiad

Cyfanswm nifer y categorïau: 73

Cod Enw
1 Hunaniaeth y Deyrnas Unedig: Hunaniaeth Brydeinig yn unig
2 Hunaniaeth y Deyrnas Unedig: Hunaniaeth Seisnig yn unig
3 Hunaniaeth y Deyrnas Unedig: Hunaniaeth Seisnig a Phrydeinig yn unig
4 Hunaniaeth y Deyrnas Unedig: Hunaniaeth Gymreig yn unig
5 Hunaniaeth y Deyrnas Unedig: Hunaniaeth Gymreig a Phrydeinig yn unig
6 Hunaniaeth y Deyrnas Unedig: Hunaniaeth Albanaidd yn unig
7 Hunaniaeth y Deyrnas Unedig: Hunaniaeth Albanaidd a Phrydeinig yn unig
8 Hunaniaeth y Deyrnas Unedig: Hunaniaeth Gwyddelig Gogledd Iwerddon yn unig
9 Hunaniaeth y Deyrnas Unedig: Hunaniaeth Gwyddelig Gogledd Iwerddon a Phrydeinig yn unig
10 Hunaniaeth y Deyrnas Unedig: Hunaniaeth Gernywaidd yn unig
11 Hunaniaeth y Deyrnas Unedig: Hunaniaeth Gernywaidd a Phrydeinig yn unig
12 Hunaniaeth y Deyrnas Unedig: Unrhyw gyfuniad arall o hunaniaethau'r Deyrnas Unedig (y DU yn unig)
13 Hunaniaeth y Deyrnas Unedig: Hunaniaeth arall ac o leiaf un hunaniaeth yn y Deyrnas Unedig
14 Hunaniaeth arall yn unig: Un o Ynys Guernsey
15 Hunaniaeth arall yn unig: Un o Ynys Jersey
16 Hunaniaeth arall yn unig: Ynys Manaw (Manawaidd)
17 Hunaniaeth arall yn unig: Un o Ynysoedd y Sianel heb ei nodi fel arall
18 Hunaniaeth arall yn unig: Hunaniaeth Wyddelig yn unig
19 Hunaniaeth arall yn unig: Gwyddelig ac o leiaf un o hunaniaethau'r Deyrnas Unedig
20 Hunaniaeth arall yn unig: Ewropeaidd: Gwledydd yr Undeb Ewropeaidd: Ffrengig
21 Hunaniaeth arall yn unig: Ewropeaidd: Gwledydd yr Undeb Ewropeaidd: Almaenig
22 Hunaniaeth arall yn unig: Ewropeaidd: Gwledydd yr Undeb Ewropeaidd: Eidalaidd
23 Hunaniaeth arall yn unig: Ewropeaidd: Gwledydd yr Undeb Ewropeaidd: Portiwgeaidd
24 Hunaniaeth arall yn unig: Ewropeaidd: Gwledydd yr Undeb Ewropeaidd: Sbaenaidd (gan gynnwys un o'r Ynysoedd Dedwydd)
25 Hunaniaeth arall yn unig: Ewropeaidd: Gwledydd yr Undeb Ewropeaidd: Aelod-wladwriaethau eraill ym mis Mawrth 2001
26 Hunaniaeth arall yn unig: Ewropeaidd: Gwledydd yr Undeb Ewropeaidd: Lithwanaidd
27 Hunaniaeth arall yn unig: Ewropeaidd: Gwledydd yr Undeb Ewropeaidd: Pwylaidd
28 Hunaniaeth arall yn unig: Ewropeaidd: Gwledydd yr Undeb Ewropeaidd: Rwmanaidd
29 Hunaniaeth arall yn unig: Ewropeaidd: Gwledydd yr Undeb Ewropeaidd: Aelod-wladwriaethau eraill
30 Hunaniaeth arall yn unig: Ewropeaidd: Gwledydd nad ydynt yn yr Undeb Ewropeaidd: Twrcaidd
31 Hunaniaeth arall yn unig: Ewropeaidd: Gwledydd nad ydynt yn yr Undeb Ewropeaidd: Ewropeaidd Arall
32 Hunaniaeth arall yn unig: Affricanaidd: Gogledd Affricanaidd
33 Hunaniaeth arall yn unig: Affricanaidd: Canol a Gorllewin Affricanaidd: Ghanaidd
34 Hunaniaeth arall yn unig: Affricanaidd: Canol a Gorllewin Affricanaidd: Nigeriaidd
35 Hunaniaeth arall yn unig: Affricanaidd: Canol a Gorllewin Affricanaidd: Canol a Gorllewin Affricanaidd arall
36 Hunaniaeth arall yn unig: Affricanaidd: De a Dwyrain Affricanaidd: Kenyaidd
37 Hunaniaeth arall yn unig: Affricanaidd: De a Dwyrain Affricanaidd: Somalaidd
38 Hunaniaeth arall yn unig: Affricanaidd: De a Dwyrain Affricanaidd: De Affricanaidd
39 Hunaniaeth arall yn unig: Affricanaidd: De a Dwyrain Affricanaidd: Zimbabweaidd
40 Hunaniaeth arall yn unig: Affricanaidd: De a Dwyrain Affricanaidd: De a Dwyrain Affricanaidd arall
41 Hunaniaeth arall yn unig: Dwyrain Canol ac Asiaidd: Dwyrain Canol: Cwrdaidd
42 Hunaniaeth arall yn unig: Dwyrain Canol ac Asiaidd: Dwyrain Canol: Iranaidd
43 Hunaniaeth arall yn unig: Dwyrain Canol ac Asiaidd: Dwyrain Canol: Iracaidd
44 Hunaniaeth arall yn unig: Dwyrain Canol ac Asiaidd: Dwyrain Canol: Dwyrain Canol arall
45 Hunaniaeth arall yn unig: Dwyrain Canol ac Asiaidd: Dwyrain Asiaidd: Tsieineaidd
46 Hunaniaeth arall yn unig: Dwyrain Canol ac Asiaidd: Dwyrain Asiaidd: Tsieineaidd Hong Kong
47 Hunaniaeth arall yn unig: Dwyrain Canol ac Asiaidd: Dwyrain Asiaidd: Japaneaidd
48 Hunaniaeth arall yn unig: Dwyrain Canol ac Asiaidd: Dwyrain Asiaidd: Dwyrain Asiaidd Arall
49 Hunaniaeth arall yn unig: Dwyrain Canol ac Asiaidd: De Asiaidd: Affganaidd
50 Hunaniaeth arall yn unig: Dwyrain Canol ac Asiaidd: De Asiaidd: Bangladeshaidd
51 Hunaniaeth arall yn unig: Dwyrain Canol ac Asiaidd: De Asiaidd: Indiaidd
52 Hunaniaeth arall yn unig: Dwyrain Canol ac Asiaidd: De Asiaidd: Pacistanaidd
53 Hunaniaeth arall yn unig: Dwyrain Canol ac Asiaidd: De Asiaidd: Sri Lankaidd
54 Hunaniaeth arall yn unig: Dwyrain Canol ac Asiaidd: De Asiaidd: De Asiaidd arall
55 Hunaniaeth arall yn unig: Dwyrain Canol ac Asiaidd: Asiaidd De-ddwyreiniol: Ffilipinaidd
56 Hunaniaeth arall yn unig: Dwyrain Canol ac Asiaidd: Asiaidd De-ddwyreiniol: Malaysiaidd
57 Hunaniaeth arall yn unig: Dwyrain Canol ac Asiaidd: Asiaidd De-ddwyreiniol: Un o Singapore
58 Hunaniaeth arall yn unig: Dwyrain Canol ac Asiaidd: Asiaidd De-ddwyreiniol: Asiaidd De-ddwyreiniol arall
59 Hunaniaeth arall yn unig: Dwyrain Canol ac Asiaidd: Canol Asiaidd
60 Hunaniaeth arall yn unig: Dwyrain Canol ac Asiaidd: Asiaidd heb ei nodi fel arall
61 Hunaniaeth arall yn unig: Americanaidd a Charibïaidd: Gogledd Americanaidd: Canadaidd
62 Hunaniaeth arall yn unig: Americanaidd a Charibïaidd: Gogledd Americanaidd: Dinesydd yr Unol Daleithiau
63 Hunaniaeth arall yn unig: Americanaidd a Charibïaidd: Gogledd Americanaidd: Gogledd Americanaidd arall
64 Hunaniaeth arall yn unig: Americanaidd a Charibïaidd: Un o Ganolbarth America
65 Hunaniaeth arall yn unig: Americanaidd a Charibïaidd: De Americanaidd
66 Hunaniaeth arall yn unig: Americanaidd a Charibïaidd: Caribïaidd: Jamaicaidd
67 Hunaniaeth arall yn unig: Americanaidd a Charibïaidd: Caribïaidd: Caribïaidd Arall
68 Hunaniaeth arall yn unig: Antarticaidd ac Oceanian: Awstralasiaidd: Awstralaidd
69 Hunaniaeth arall yn unig: Antarticaidd ac Oceanian: Awstralasiaidd: O Seland Newydd
70 Hunaniaeth arall yn unig: Antarticaidd ac Oceanian: Awstralasiaidd: Awstralasiaidd Arall
71 Hunaniaeth arall yn unig: Antarticaidd ac Oceanian: Oceanian Arall
72 Hunaniaeth arall yn unig: Arall
-8 Ddim yn gymwys*

*Myfyrwyr a phlant ysgol sy’n byw i ffwrdd o'r cartref yn ystod y tymor.

Ansawdd gwybodaeth

Mae’n bosibl bod y cynnydd ers Cyfrifiad 2011 yn nifer y bobl sy’n nodi eu bod nhw’n “Brydeiniwr/Brydeinwraig” a’r gostyngiad yn nifer y bobl sy’n nodi eu bod nhw’n “Sais/Saesnes” yn adlewyrchu’n rhannol y gwir newidiadau mewn hunanganfyddiad. Mae hefyd yn debygol o adlewyrchu bod “Prydeiniwr/Prydeinwraig” wedi cymryd lle “Sais/Saesnes” fel yr opsiwn ymateb cyntaf yn y rhestr ar yr holiadur yn Lloegr.

Darllenwch fwy yn ein methodoleg ar wybodaeth am ansawdd data grŵp ethnig, hunaniaeth genedlaethol, iaith a chrefydd o Gyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cefndir

Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cymharedd â Chyfrifiad 2011

Cymaradwy yn fras

Yn y newidyn hwn rydym wedi cyfuno'r Deyrnas Unedig a chategori hunaniaethau eraill o fewn un categori. Nid yw'r isgyfansymiau wedi'u cynnwys chwaith.

Beth yw ystyr cymaradwy yn fras?

Mae newidyn sy’n gymaradwy yn fras yn golygu y gellir ei gymharu’n gyffredinol â’r un newidyn a ddefnyddiwyd yng Nghyfrifiad 2011. Fodd bynnag, efallai bod newidiadau wedi'u gwneud i'r cwestiwn neu'r opsiynau y gallai pobl ddewis ohonynt neu sut mae atebion ysgrifenedig yn cael eu dosbarthu.

Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban

Ddim yn gymaradwy

Nid yw'r newidyn hwn yn gymaradwy am nad yw'r data ar gael ar gyfer pob gwlad.

Beth yw ystyr ddim yn gymaradwy?

Mae newidyn nad yw'n gymaradwy (neu sydd ‘ddim yn gymaradwy’) yn golygu na ellir ei gymharu ar gyfer Cymru, Lloegr, yr Alban na Gogledd Iwerddon.

Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).

Data Cyfrifiad 2021 sy’n defnyddio’r newidyn hwn

Rydym yn defnyddio newidynnau o ddata Cyfrifiad 2021 i ddangos canfyddiadau mewn gwahanol ffyrdd.

Gallwch chi:

Fel arall, gallwch hefyd greu set ddata wedi’i deilwra (yn Saesneg).