Cymhwysedd: Cartref
Math: Deillio newidyn

Trosolwg

Mae gan newidyn sawl prif iaith yn y cartref dau o ddosbarthiadau y gellir eu defnyddio wrth ddadansoddi data Cyfrifiad 2021.

Pan gaiff data eu didoli, byddwn yn grwpio categorïau am yr un pwnc gyda'i gilydd. “Dosbarthiad” yw'r enw am grŵp o gategorïau. Mae'n bosibl cael mwy nag un dosbarthiad am yr un pwnc ac mae pob un yn wahanol. Dylech ddewis yr un sydd fwyaf addas ar gyfer eich ymchwil a'ch dadansoddiad.

Dosbarthiad sawl prif iaith yn y cartref

Cofair: hh_multi_language

Cyfanswm nifer y categorïau: 6

Cod Enw
1 Cartref un person
2 Mae gan bob aelod o'r cartref yr un brif iaith
3 Mae'r brif iaith yn amrywio rhwng y cenedlaethau, ond nid o fewn partneriaethau
4 Mae'r brif iaith yn amrywio rhwng partneriaethau
5 Unrhyw gyfuniad arall o brif ieithoedd lluosog
-8 Ddim yn gymwys*

*Cartrefi heb unrhyw breswylwyr arferol.

Dosbarthiad 3a sawl prif iaith yn y cartref

Cofair: hh_multi_language_3a

Cyfanswm nifer y categorïau: 3

Cod Enw
1 Mae gan bob aelod o'r cartref yr un brif iaith
2 Mae gan aelodau'r cartref brif ieithoedd gwahanol
-8 Ddim yn gymwys*

*Cartrefi heb unrhyw breswylwyr arferol.