Cofair: hh_multi_ethnic_group
Cymhwysedd: Cartref
Math: Deillio newidyn

Diffiniad

Mae'n dosbarthu cartrefi yn ôl p'un a yw'r aelodau yn ystyried eu bod yn dod o'r un grwpiau ethnig neu rai gwahanol.

Grwpiau ethnig unigol neu amlethnig yn y cartref. Os oes grwpiau amlethnig yn bresennol, mae hyn yn nodi p'un a yw grwpiau ethnig yn amrywio rhwng cenedlaethau neu rhwng partneriaethau yn y cartref.

Dosbarthiad

Cyfanswm nifer y categorïau: 6

Cod Enw
1 Cartref un person
2 Mae pob aelod o'r cartref yn perthyn i'r un grŵp ethnig
3 Mae'r grwpiau ethnig yn amrywio rhwng y cenedlaethau ond nid o fewn partneriaethau
4 Mae'r grwpiau ethnig yn amrywio rhwng partneriaethau
5 Unrhyw gyfuniad arall o hunaniaethau amlethnig
-8 Ddim yn gymwys*

*Cartrefi heb unrhyw breswylwyr arferol.

Cefndir

Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cymharedd â Chyfrifiad 2011

Cymaradwy iawn

Beth yw ystyr cymaradwy iawn?

Mae newidyn sy’n gymaradwy iawn yn golygu y gellir ei gymharu’n uniongyrchol â’r newidyn o Gyfrifiad 2011. Gall y cwestiynau a’r opsiynau y gallai pobl ddewis fod ychydig yn wahanol, er enghraifft efallai bod trefn yr opsiynau wedi’u newid, ond mae’r data a gesglir yr un peth.

Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban

Cymaradwy iawn

Beth yw ystyr cymaradwy iawn?

Mae newidyn sy'n gymaradwy iawn yn golygu y gellir ei gymharu'n uniongyrchol â'r newidyn o'r Alban a Gogledd Iwerddon. Efallai fod y cwestiynau a'r opsiynau y gallai pobl ddewis ohonynt ychydig yn wahanol, er enghraifft gall yr opsiynau fod mewn trefn wahanol, ond mae'r data a gaiff eu casglu yr un peth.

Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).

Data Cyfrifiad 2021 sy’n defnyddio’r newidyn hwn

Rydym yn defnyddio newidynnau o ddata Cyfrifiad 2021 i ddangos canfyddiadau mewn gwahanol ffyrdd.

Gallwch chi:

Fel arall, gallwch hefyd greu set ddata wedi’i deilwra (yn Saesneg).