Cofair: hh_language
Cymhwysedd: Cartref
Math: Deillio newidyn

Diffiniad

Mae iaith y cartref yn dosbarthu cartrefi drwy gyfuno oedolion a phlant (3 i 15 oed) mewn cartref sy'n siarad Saesneg (Cymraeg neu Saesneg yng Nghymru) fel prif iaith.

Dosbarthiad

Cyfanswm nifer y categorïau: 5

Cod Enw
1 Mae gan bob oedolyn yn y cartref Gymraeg neu Saesneg yn brif iaith
2 Mae gan o leiaf un ond nid pob oedolyn yn y cartref Gymraeg neu Saesneg yn brif iaith
3 Nid oes gan unrhyw oedolion yn y cartref, ond mae gan o leiaf un person 3 i 15 oed, Gymraeg neu Saesneg yn brif iaith
4 Nid oes gan neb yn y cartref Gymraeg neu Saesneg yn brif iaith
-8 Ddim yn gymwys*

*Cartrefi heb unrhyw breswylwyr arferol.

Cefndir

Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cymharedd â Chyfrifiad 2011

Cymaradwy iawn

Beth yw ystyr cymaradwy iawn?

Mae newidyn sy’n gymaradwy iawn yn golygu y gellir ei gymharu’n uniongyrchol â’r newidyn o Gyfrifiad 2011. Gall y cwestiynau a’r opsiynau y gallai pobl ddewis fod ychydig yn wahanol, er enghraifft efallai bod trefn yr opsiynau wedi’u newid, ond mae’r data a gesglir yr un peth.

Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban

Ddim yn gymaradwy

Nid yw'r newidyn hwn yn gymaradwy am nad yw'r data ar gael ar gyfer pob gwlad.

Beth yw ystyr ddim yn gymaradwy?

Mae newidyn nad yw'n gymaradwy (neu sydd ‘ddim yn gymaradwy’) yn golygu na ellir ei gymharu ar gyfer Cymru, Lloegr, yr Alban na Gogledd Iwerddon.

Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).

Data Cyfrifiad 2021 sy’n defnyddio’r newidyn hwn

Rydym yn defnyddio newidynnau o ddata Cyfrifiad 2021 i ddangos canfyddiadau mewn gwahanol ffyrdd.

Gallwch chi:

Fel arall, gallwch hefyd greu set ddata wedi’i deilwra (yn Saesneg).