Cofair: hh_multi_ethnic_combination
Cymhwysedd: Cartref
Math: Deillio newidyn

Diffiniad

Yn dosbarthu cartrefi yn ôl p'un a oes gan aelodau'r cartref yr un categori grŵp ethnig neu p'un a oes cyfuniadau o gategorïau lluosog yn y cartref. Caiff y rhain eu dosbarthu yn ôl yr opsiynau blwch ticio sydd ar gael yn y cwestiwn grŵp ethnig ar ffurflen y cyfrifiad.

Dosbarthiad

Cyfanswm nifer y categorïau: 8

Cod Enw
1 Grwpiau ethnig Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig yn unig yn y cartref
2 Grwpiau ethnig Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd yn unig yn y cartref
3 Grwpiau ethnig Cymysg neu Amlethnig yn unig yn y cartref
4 Grwpiau ethnig Gwyn yn unig yn y cartref
5 Grwpiau ethnig Arall yn unig yn y cartref
6 Cyfuniad o ddau grŵp ethnig yn y cartref
7 Cyfuniad o dri neu fwy o grwpiau ethnig yn y cartref
-8 Ddim yn gymwys*

*Cartrefi heb unrhyw breswylwyr arferol.

Cefndir

Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cymharedd â Chyfrifiad 2011

Ddim yn gymaradwy

Mae'r newidyn hwn yn newydd ar gyfer Cyfrifiad 2021 ac felly ni ellir cymharu â Chyfrifiad 2011.

Beth yw ystyr ddim yn gymaradwy?

Mae newidyn sydd ddim yn gymaradwy yn golygu na ellir ei gymharu â newidyn o Gyfrifiad 2011.

Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban

Gwlad-benodol

Beth yw ystyr gwlad-benodol?

Dim ond ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr y mae'r newidyn hwn wedi cael ei gynhyrchu.

Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).

Data Cyfrifiad 2021 sy’n defnyddio’r newidyn hwn

Gallwch greu set ddata wedi’i deilwra (yn Saesneg).