Cofair: sex
Cymhwysedd: Person
Math: Newidyn safonol

Diffiniad

Y rhyw a gofnodwyd gan y person a oedd yn cwblhau'r cyfrifiad yw hyn. Yr opsiynau oedd “Benyw” a “Gwryw”.

Dosbarthiad

Cyfanswm nifer y categorïau: 2

Cod Enw
1 Benyw
2 Gwryw

Cwestiwn a ofynnwyd

Beth yw eich rhyw?

  • Benyw
  • Gwryw

Yng Nghyfrifiad 2021, ymddangosodd “benyw” gyntaf yn y rhestr o opsiynau y gallai pobl ddewis ohonynt. Yng Nghyfrifiad 2011, ymddangosodd yn ail.

Cefndir

Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Pam rydym ni’n gofyn y cwestiwn hwn

Caiff yr ateb ei ddefnyddio er mwyn deall tueddiadau yn y boblogaeth. Mae'n helpu cymunedau lleol drwy alluogi elusennau, sefydliadau a llywodraeth leol a chanolog i ddeall pa wasanaethau y gallai fod eu hangen ar bobl.

Mae'r wybodaeth hon yn helpu i fonitro cydraddoldeb rhwng grwpiau o bobl o rywiau gwahanol mewn ardaloedd lleol. Bydd atebion yn helpu cyrff cyhoeddus i nodi achosion o wahaniaethu neu allgáu cymdeithasol ar sail rhyw a gweithio i'w hatal rhag digwydd.

Dechreuodd y cyfrifiad ofyn y cwestiwn hwn yn 1801.

Cymharedd â Chyfrifiad 2011

Cymaradwy iawn

Beth yw ystyr cymaradwy iawn?

Mae newidyn sy’n gymaradwy iawn yn golygu y gellir ei gymharu’n uniongyrchol â’r newidyn o Gyfrifiad 2011. Gall y cwestiynau a’r opsiynau y gallai pobl ddewis fod ychydig yn wahanol, er enghraifft efallai bod trefn yr opsiynau wedi’u newid, ond mae’r data a gesglir yr un peth.

Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban

Cymaradwy iawn

Beth yw ystyr cymaradwy iawn?

Mae newidyn sy'n gymaradwy iawn yn golygu y gellir ei gymharu'n uniongyrchol â'r newidyn o'r Alban a Gogledd Iwerddon. Efallai fod y cwestiynau a'r opsiynau y gallai pobl ddewis ohonynt ychydig yn wahanol, er enghraifft gall yr opsiynau fod mewn trefn wahanol, ond mae'r data a gaiff eu casglu yr un peth.

Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).

Data Cyfrifiad 2021 sy’n defnyddio’r newidyn hwn

Rydym yn defnyddio newidynnau o ddata Cyfrifiad 2021 i ddangos canfyddiadau mewn gwahanol ffyrdd.

Gallwch chi:

Fel arall, gallwch hefyd greu set ddata wedi’i deilwra (yn Saesneg).

Setiau data eraill sy’n defnyddio’r newidyn hwn