Cofair: living_arrangements
Cymhwysedd: Person
Math: Deillio newidyn

Diffiniad

Mae'r dosbarthiad “trefniadau byw” yn cyfuno ymatebion i'r cwestiwn ynghylch statws priodasol a phartneriaeth sifil â gwybodaeth am b'un a yw person yn byw fel cwpwl ai peidio. Dim ond i bobl sy'n aelodau o gartrefi y mae'r pwnc hwn yn gymwys. Mae trefniadau byw yn wahanol i statws priodasol a phartneriaeth sifil oherwydd bod cyd-fyw yn cael blaenoriaeth o flaen categorïau eraill. Er enghraifft, os bydd person wedi ysgaru ac yn cyd-fyw, yna mewn canlyniadau ar gyfer trefniadau byw, caiff ei ddosbarthu fel rhywun sy'n cyd-fyw.

Dosbarthiad

Cyfanswm nifer y categorïau: 11

Cod Enw
1 Yn byw mewn cwpl o’r rhyw arall: Yn briod neu mewn partneriaeth sifil
2 Yn byw mewn cwpl o’r un rhyw: Yn briod neu mewn partneriaeth sifil
3 Byw mewn cwpl: Wedi gwahanu, ond yn dal yn briod neu mewn partneriaeth sifil
4 Yn byw fel cwpwl o'r rhyw arall: Cyd-fyw
5 Yn byw fel cwpwl o'r un rhyw: Cyd-fyw
6 Ddim yn byw fel cwpwl: Sengl (erioed wedi priodi na chofrestru partneriaeth sifil)
7 Ddim yn byw fel cwpwl: Yn briod neu mewn partneriaeth sifil gofrestredig
8 Ddim yn byw fel cwpwl: Wedi gwahanu (gan gynnwys y rhai sy'n briod neu mewn partneriaeth sifil)
9 Ddim yn byw fel cwpwl: Wedi ysgaru neu wedi bod mewn partneriaeth sifil sydd bellach wedi’i diddymu’n gyfreithiol
10 Ddim yn byw fel cwpwl: Gweddw neu wedi colli partner sifil drwy farwolaeth
-8 Ddim yn gymwys*

*Myfyrwyr a phlant ysgol yn eu cyfeiriad y tu allan i'r tymor, mudwyr byrdymor, pobl sy'n byw mewn sefydliadau cymunedol a phlant 15 oed neu'n iau.

Gweld pob dosbarthiad trefniadau byw.

Cefndir

Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cymharedd â Chyfrifiad 2011

Cymaradwy yn fras

Mae hyn yn deillio o'r newidyn statws partneriaeth gyfreithiol. Rydym wedi cynnwys categorïau newydd i adlewyrchu'r ffaith y gall pobl bellach briodi rhywun o'r un rhyw ac y gall cyplau o'r naill ryw fod mewn partneriaeth sifil. Yng Nghyfrifiad 2011, roedd pobl a oedd wedi priodi neu wedi gwahanu wedi'u grwpio mewn un categori. Yng Nghyfrifiad 2021, mae hyn wedi'i rannu'n ddau gategori.

Beth yw ystyr cymaradwy yn fras?

Mae newidyn sy’n gymaradwy yn fras yn golygu y gellir ei gymharu’n gyffredinol â’r un newidyn a ddefnyddiwyd yng Nghyfrifiad 2011. Fodd bynnag, efallai bod newidiadau wedi'u gwneud i'r cwestiwn neu'r opsiynau y gallai pobl ddewis ohonynt neu sut mae atebion ysgrifenedig yn cael eu dosbarthu.

Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban

Cymaradwy yn fras

Mae'r newidyn a gynhyrchwyd ar gyfer Cymru a Lloegr yn gwahaniaethu rhwng cyplau o'r un rhyw ac o'r naill ryw sy'n byw gyda'i gilydd.

Beth yw ystyr cymaradwy yn fras?

Mae newidyn sy'n gymaradwy yn fras yn golygu y gall allbynnau o Gyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr gael eu cymharu'n gyffredinol â'r Alban a Gogledd Iwerddon. Gall gwahaniaethau o ran y ffordd y cafodd y data eu casglu neu eu cyflwyno olygu bod llai o allu i gysoni allbynnau yn llawn, ond byddem yn disgwyl gallu eu cysoni rywfaint o hyd.

Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).

Data Cyfrifiad 2021 sy’n defnyddio’r newidyn hwn

Rydym yn defnyddio newidynnau o ddata Cyfrifiad 2021 i ddangos canfyddiadau mewn gwahanol ffyrdd.

Gallwch chi:

Fel arall, gallwch hefyd greu set ddata wedi’i deilwra (yn Saesneg).

Setiau data eraill sy’n defnyddio’r newidyn hwn