Cofair: hh_lifestage
Cymhwysedd: Cartref
Math: Deillio newidyn

Diffiniad

Mae cyfnod bywyd y cartref yn dosbarthu cartrefi yn ôl:

  • oedran Person Cyswllt y Cartref
  • p'un a yw Person Cyswllt y Cartref mewn cartref un person neu ddau berson
  • p'un a oes plant dibynnol ar gyfer cartrefi sy'n cynnwys dau berson neu fwy

Dosbarthiad

Cyfanswm nifer y categorïau: 13

Cod Enw
1 Mae person cyswllt y cartref yn 34 oed neu'n iau: Cartref un person
2 Mae person cyswllt y cartref yn 34 oed neu'n iau: Cartref dau berson neu fwy: Dim plant dibynnol
3 Mae person cyswllt y cartref yn 34 oed neu'n iau: Cartref dau berson neu fwy: Plant dibynnol
4 Mae person cyswllt y cartref yn 35 i 54 oed: Cartref un person
5 Mae person cyswllt y cartref yn 35 i 54 oed: Cartref dau berson neu fwy: Dim plant dibynnol
6 Mae person cyswllt y cartref yn 35 i 54 oed: Cartref dau berson neu fwy: Plant dibynnol
7 Mae person cyswllt y cartref yn 55 i 65 oed: Cartref un person
8 Mae person cyswllt y cartref yn 55 i 65 oed: Cartref dau berson neu fwy: Dim plant dibynnol
9 Mae person cyswllt y cartref yn 55 i 65 oed: Cartref dau berson neu fwy: Plant dibynnol
10 Mae person cyswllt y cartref yn 66 oed neu drosodd: Cartref un person
11 Mae person cyswllt y cartref yn 66 oed neu drosodd: Cartref dau berson neu fwy: Dim plant dibynnol
12 Mae person cyswllt y cartref yn 66 oed neu drosodd: Cartref dau berson neu fwy: Plant dibynnol
-8 Ddim yn gymwys*

*Cartrefi heb unrhyw breswylwyr arferol.

Cefndir

Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cymharedd â Chyfrifiad 2011

Cymaradwy yn fras

Rydym wedi rhannu oedran y categori “Person Cyswllt y Cartref” yn fandiau oedran llai.

Beth yw ystyr cymaradwy yn fras?

Mae newidyn sy’n gymaradwy yn fras yn golygu y gellir ei gymharu’n gyffredinol â’r un newidyn a ddefnyddiwyd yng Nghyfrifiad 2011. Fodd bynnag, efallai bod newidiadau wedi'u gwneud i'r cwestiwn neu'r opsiynau y gallai pobl ddewis ohonynt neu sut mae atebion ysgrifenedig yn cael eu dosbarthu.

Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban

Cymaradwy iawn

Beth yw ystyr cymaradwy iawn?

Mae newidyn sy'n gymaradwy iawn yn golygu y gellir ei gymharu'n uniongyrchol â'r newidyn o'r Alban a Gogledd Iwerddon. Efallai fod y cwestiynau a'r opsiynau y gallai pobl ddewis ohonynt ychydig yn wahanol, er enghraifft gall yr opsiynau fod mewn trefn wahanol, ond mae'r data a gaiff eu casglu yr un peth.

Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).

Data Cyfrifiad 2021 sy’n defnyddio’r newidyn hwn

Gallwch greu set ddata wedi’i deilwra (yn Saesneg).