Cofair: hh_families_type
Cymhwysedd: Cartref
Math: Deillio newidyn

Diffiniad

Yn dosbarthu cartrefi mewn ffordd wahanol i'r dosbarthiad "cyfansoddiad y cartref" a gaiff ei ddefnyddio yn y rhan fwyaf o ganlyniadau safonol y cyfrifiad.

Caiff y math o deulu sy'n bresennol ei ystyried yn gartref. Fodd bynnag, caiff cartrefi sy'n cynnwys mwy nag un teulu eu categoreiddio gan ddefnyddio'r drefn blaenoriaeth hon:

  • teulu pâr priod
  • teulu cwpwl partneriaeth sifil
  • teulu cwpwl sy'n cyd-fyw
  • teulu un rhiant

O fewn math o deulu, bydd teulu â phlant dibynnol yn cael blaenoriaeth.

Y diffiniadau amgen a gaiff eu defnyddio mewn tablau sy'n defnyddio'r dosbarthiad hwn yw:

  • cartref pâr priod
  • cartref cwpwl partneriaeth sifil o'r un rhyw
  • cartref cwpwl sy'n cyd-fyw
  • cartref un rhiant

Dosbarthiad

Cyfanswm nifer y categorïau: 6

Cod Enw
1 Cartref un person
2 Cartref pâr priod neu gwpwl partneriaeth sifil
3 Cartref cwpwl sy'n cyd-fyw
4 Cartref un rhiant
5 Cartref â sawl person
-8 Ddim yn gymwys*

*Cartrefi heb unrhyw breswylwyr arferol.

Gweld pob dosbarthiad math o gartref.

Cefndir

Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cymharedd â Chyfrifiad 2011

Cymaradwy yn fras

Rydym wedi ychwanegu categorïau partneriaeth sifil o'r naill ryw a phriodas o'r un rhyw at y newidyn sydd bellach ar gael ers 2011. Gellir lleihau'r rhain i bartneriaeth sifil a phriodas, yr un peth â newidyn 2011. Mae cyplau sy'n cyd-fyw (oedolion nad ydynt wedi priodi nac mewn partneriaeth sifil) yn cynnwys cyplau o'r un rhyw ac o'r naill ryw yn 2011 a 2021.

Beth yw ystyr cymaradwy yn fras?

Mae newidyn sy’n gymaradwy yn fras yn golygu y gellir ei gymharu’n gyffredinol â’r un newidyn a ddefnyddiwyd yng Nghyfrifiad 2011. Fodd bynnag, efallai bod newidiadau wedi'u gwneud i'r cwestiwn neu'r opsiynau y gallai pobl ddewis ohonynt neu sut mae atebion ysgrifenedig yn cael eu dosbarthu.

Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban

Ddim yn gymaradwy

Nid yw'r newidyn hwn yn gymaradwy am nad yw'r data ar gael ar gyfer pob gwlad.

Beth yw ystyr ddim yn gymaradwy?

Mae newidyn nad yw'n gymaradwy (neu sydd ‘ddim yn gymaradwy’) yn golygu na ellir ei gymharu ar gyfer Cymru, Lloegr, yr Alban na Gogledd Iwerddon.

Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).

Data Cyfrifiad 2021 sy’n defnyddio’r newidyn hwn

Gallwch greu set ddata wedi’i deilwra (yn Saesneg).

Setiau data eraill sy’n defnyddio’r newidyn hwn