Cofair: hh_deprivation_education
Cymhwysedd: Cartref
Math: Deillio newidyn

Diffiniad

Caiff cartref ei ystyried yn ddifreintiedig o ran addysg os nad oes gan neb addysg lefel 2 o leiaf ac os nad yw neb sy'n 16 i 18 oed yn fyfyriwr amser llawn.

Dosbarthiad

Cyfanswm nifer y categorïau: 3

Cod Enw
0 Nid yw'r cartref yn ddifreintiedig o ran addysg
1 Mae'r cartref yn ddifreintiedig o ran addysg
-8 Ddim yn gymwys*

*Cartrefi heb unrhyw breswylwyr arferol.

Cefndir

Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cymharedd â Chyfrifiad 2011

Ddim yn gymaradwy

Mae'r categorïau ar gyfer y newidyn hwn yr un peth â'r rhai ar gyfer Cyfrifiad 2011. Fodd bynnag, mae'r newidyn hwn yn seiliedig ar sut yr ymatebodd pobl i'r cwestiynau am gymwysterau a gafodd eu diwygio yng Nghyfrifiad 2021 a'u rhannu er mwyn grwpio cymwysterau gwahanol gyda'i gilydd. Gofynnwyd i bobl a oedd naill ai'n meddu ar gymwysterau nad oeddent wedi'u rhestru yn yr holiadur neu gymwysterau heb fod o'r Deyrnas Unedig ddyfalu eu cymhwyster cyfatebol modern yn y Deyrnas Unedig. Dim ond yr opsiwn i ddewis "unrhyw gymwysterau eraill, heb wybod beth sy’n cyfateb iddynt" neu "cymhwyster tramor" a roddwyd iddynt os gwnaethant roi ateb negyddol i'r holl gwestiynau eraill am gymwysterau. Mae hyn yn golygu y bu gostyngiad yn nifer y bobl sydd â lefel uchaf o gymhwyster anhysbys, sef categori a gaiff ei ystyried yn ddifreintiedig ym manyleb y newidyn hwn. Mae hyn yn golygu na fydd rhai pobl yn cael eu hystyried yn ddifreintiedig o ran addysg yng Nghyfrifiad 2021 yr ystyriwyd eu bod yn ddifreintiedig yng Nghyfrifiad 2011, er bod ganddynt yr un cymwysterau.

Beth yw ystyr ddim yn gymaradwy?

Mae newidyn sydd ddim yn gymaradwy yn golygu na ellir ei gymharu â newidyn o Gyfrifiad 2011.

Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban

Cymaradwy iawn

Beth yw ystyr cymaradwy iawn?

Mae newidyn sy'n gymaradwy iawn yn golygu y gellir ei gymharu'n uniongyrchol â'r newidyn o'r Alban a Gogledd Iwerddon. Efallai fod y cwestiynau a'r opsiynau y gallai pobl ddewis ohonynt ychydig yn wahanol, er enghraifft gall yr opsiynau fod mewn trefn wahanol, ond mae'r data a gaiff eu casglu yr un peth.

Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).

Data Cyfrifiad 2021 sy’n defnyddio’r newidyn hwn

Gallwch greu set ddata wedi’i deilwra (yn Saesneg).