Cofair: hh_deprivation
Cymhwysedd: Cartref
Math: Deillio newidyn
Diffiniad
Mae'r dimensiynau amddifadedd a gaiff eu defnyddio i ddosbarthu cartrefi yn ddangosyddion sy'n seiliedig ar bedair nodwedd cartref benodedig.
Addysg
Caiff cartref ei ystyried yn ddifreintiedig o ran addysg os nad oes gan neb addysg lefel 2 o leiaf ac os nad yw neb sy'n 16 i 18 oed yn fyfyriwr amser llawn.
Cyflogaeth
Caiff cartref ei ystyried yn ddifreintiedig o ran cyflogaeth os bydd unrhyw aelod, nid myfyriwr amser llawn, naill ai'n ddi-waith neu'n anweithgar yn economaidd oherwydd salwch hirdymor neu anabledd.
Iechyd
Caiff cartref ei ystyried yn ddifreintiedig o ran iechyd os oes gan unrhyw berson yn y cartref iechyd cyffredinol sy'n wael neu'n wael iawn neu os yw person yn nodi ei hun yn anabl.
Caiff pobl sydd wedi asesu fod cyflwr neu salwch corfforol neu feddyliol hirdymor yn cyfyngu ar eu gweithgareddau pob dydd eu hystyried yn anabl. Mae'r diffiniad hwn o berson anabl yn cyrraedd y safon wedi'i chysoni ar gyfer mesur anabledd ac mae'n unol â'r Ddeddf Cydraddoldeb (2010).
Tai
Caiff cartref ei ystyried yn ddifreintiedig o ran tai os yw'r man lle mae aelodau'r cartref yn byw naill ai'n orlawn, mewn annedd sy'n cael ei rhannu, neu os nad oes gwres canolog ynddo.
Dosbarthiad
Cyfanswm nifer y categorïau: 6
Cod | Enw |
---|---|
1 | Nid yw'r cartref yn ddifreintiedig mewn unrhyw ffordd |
2 | Mae'r cartref yn ddifreintiedig mewn un ffordd |
3 | Mae'r cartref yn ddifreintiedig mewn dwy ffordd |
4 | Mae'r cartref yn ddifreintiedig mewn tair ffordd |
5 | Mae'r cartref yn ddifreintiedig mewn pedair ffordd |
-8 | Ddim yn gymwys* |
*Cartrefi heb unrhyw breswylwyr arferol.
Ansawdd gwybodaeth
Byddwch yn ofalus wrth ddehongli’r newidyn hwn fel mesur uniongyrchol o amddifadedd neu wrth gymharu canlyniadau â chanlyniadau Cyfrifiad 2011. Darllenwch y wybodaeth ansawdd am ddemograffeg a mudo ar gyfer Cyfrifiad 2021(yn Saesneg) cyn defnyddio’r data hwn.
Cefndir
Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).
Cymharedd â Chyfrifiad 2011
Ddim yn gymaradwy
Ni ellir cymharu’r newidyn hwn â’r newidyn amddifadedd cartrefi a ddefnyddiwyd yng Nghyfrifiad 2011. Mae hyn oherwydd y bu newidiadau i’r newidynnau a ddefnyddiwyd i gyfrifo’r mesur hwn, yn enwedig yn y dimensiynau addysg a thai. Am ragor o wybodaeth, cyfeiriwch yn benodol at y newidynnau hyn.
Beth yw ystyr ddim yn gymaradwy?
Mae newidyn sydd ddim yn gymaradwy yn golygu na ellir ei gymharu â newidyn o Gyfrifiad 2011.
Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban
Cymaradwy iawn
Beth yw ystyr cymaradwy iawn?
Mae newidyn sy'n gymaradwy iawn yn golygu y gellir ei gymharu'n uniongyrchol â'r newidyn o'r Alban a Gogledd Iwerddon. Efallai fod y cwestiynau a'r opsiynau y gallai pobl ddewis ohonynt ychydig yn wahanol, er enghraifft gall yr opsiynau fod mewn trefn wahanol, ond mae'r data a gaiff eu casglu yr un peth.
Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).
Data Cyfrifiad 2021 sy’n defnyddio’r newidyn hwn
Rydym yn defnyddio newidynnau o ddata Cyfrifiad 2021 i ddangos canfyddiadau mewn gwahanol ffyrdd.
Gallwch chi:
- gael y set ddata amddifadedd y cartref (yn Saesneg)
- weld data amddifadedd y cartref ar fap (yn Saesneg)
Fel arall, gallwch hefyd greu set ddata wedi’i deilwra (yn Saesneg).