Cofair: dependent_child_age
Cymhwysedd: Person
Math: Deillio newidyn
Diffiniad
Yn cyfrif plant dibynnol ac yn rhoi dosbarthiad oedran.
Dosbarthiad
Cyfanswm nifer y categorïau: 6
Cod | Enw |
---|---|
1 | Yn 0 i 2 oed |
2 | Yn 3 i 4 oed |
3 | Yn 5 i 11 oed |
4 | Yn 12 i 15 oed |
5 | Yn 16 i 18 oed |
-8 | Ddim yn gymwys* |
*Myfyrwyr a phlant ysgol sy’n byw i ffwrdd o'r cartref yn ystod y tymor, plant mewn sefydliadau cymunedol, a phobl nad ydynt yn blant dibynnol.
Gweld pob dosbarthiad oedran plentyn dibynnol.
Cefndir
Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).
Cymharedd â Chyfrifiad 2011
Cymaradwy iawn
Beth yw ystyr cymaradwy iawn?
Mae newidyn sy’n gymaradwy iawn yn golygu y gellir ei gymharu’n uniongyrchol â’r newidyn o Gyfrifiad 2011. Gall y cwestiynau a’r opsiynau y gallai pobl ddewis fod ychydig yn wahanol, er enghraifft efallai bod trefn yr opsiynau wedi’u newid, ond mae’r data a gesglir yr un peth.
Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban
Ddim yn gymaradwy
Nid yw'r newidyn hwn yn gymaradwy am nad yw'r data ar gael ar gyfer pob gwlad.
Beth yw ystyr ddim yn gymaradwy?
Mae newidyn nad yw'n gymaradwy (neu sydd ‘ddim yn gymaradwy’) yn golygu na ellir ei gymharu ar gyfer Cymru, Lloegr, yr Alban na Gogledd Iwerddon.
Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).
Data Cyfrifiad 2021 sy’n defnyddio’r newidyn hwn
- Plant dibynnol yn ôl grŵp ethnig Person Cyswllt y Cartref ac oedran (yn Saesneg)
- Nifer yr ystafelloedd gwely yn ôl y math o gartref ac oedran plant dibynnol (yn Saesneg)
- Nifer yr ystafelloedd gwely yn ôl deiliadaeth ac oedran plant dibynnol (yn Saesneg)
- Math o deulu yn ôl gallu rhieni i siarad Cymraeg, oedran a gallu plentyn dibynnol i siarad Cymraeg (yn Saesneg)