Cofair: resident_age_extended
Cymhwysedd: Person
Math: Deillio newidyn
Diffiniad
Oedran person ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, 21 Mawrth 2021 yng Nghymru a Lloegr. Caiff babanod o dan flwydd oed eu dosbarthu'n 0 oed.
Dosbarthiad
Cyfanswm nifer y categorïau: 17
Cod | Enw |
---|---|
1 | 15 oed neu'n iau |
2 | 16 i 17 oed |
3 | 18 i 19 oed |
4 | 20 i 24 oed |
5 | 25 i 29 oed |
6 | 30 i 34 oed |
7 | 35 i 39 oed |
8 | 40 i 44 oed |
9 | 45 i 49 oed |
10 | 50 i 54 oed |
11 | 55 i 59 oed |
12 | 60 i 64 oed |
13 | 65 i 69 oed |
14 | 70 i 74 oed |
15 | 75 i 79 oed |
16 | 80 i 84 oed |
17 | 85 oed a throsodd |
Gweld pob dosbarthiad oedran (estynedig).
Ansawdd gwybodaeth
Mae'r amcangyfrifon ar gyfer un flwyddyn o oedran rhwng 90 a 100+ oed yn llai dibynadwy nag oedrannau eraill. Roedd y broses amcangyfrif ac asesu ar yr oedrannau hyn yn seiliedig ar yr ystod oedran 90+ yn hytrach na bandiau oedran o bum mlynedd.
Cefndir
Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).
Cymharedd â Chyfrifiad 2011
Cymaradwy iawn
Beth yw ystyr cymaradwy iawn?
Mae newidyn sy’n gymaradwy iawn yn golygu y gellir ei gymharu’n uniongyrchol â’r newidyn o Gyfrifiad 2011. Gall y cwestiynau a’r opsiynau y gallai pobl ddewis fod ychydig yn wahanol, er enghraifft efallai bod trefn yr opsiynau wedi’u newid, ond mae’r data a gesglir yr un peth.
Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban
Cymaradwy iawn
Beth yw ystyr cymaradwy iawn?
Mae newidyn sy'n gymaradwy iawn yn golygu y gellir ei gymharu'n uniongyrchol â'r newidyn o'r Alban a Gogledd Iwerddon. Efallai fod y cwestiynau a'r opsiynau y gallai pobl ddewis ohonynt ychydig yn wahanol, er enghraifft gall yr opsiynau fod mewn trefn wahanol, ond mae'r data a gaiff eu casglu yr un peth.
Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).