1. Diben

Yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), rydym yn casglu, yn storio, yn prosesu ac yn defnyddio data i gynhyrchu ystadegau. Mae'r llywodraeth, elusennau, grwpiau cymunedol, busnesau ac unigolion yn defnyddio'r ystadegau hyn i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth am faterion pwysig sy'n effeithio ar bob un ohonom. Gallai hyn gynnwys popeth o ofal iechyd a lleoedd mewn ysgolion i faterion amgylcheddol.

Gallwn ond wneud hyn yn effeithiol gyda chymorth, cyfranogiad ac ymddiriedaeth y cyhoedd. Dyna pam mae'n bwysig ein bod yn deall agweddau'r cyhoedd at ddata a'n bod yn ymddwyn mewn ffordd foesegol a thryloyw. Mae hefyd yn hollbwysig bod defnyddwyr data yn ymgysylltu'n rheolaidd â phobl mewn perthynas â data ac yn profi i ba raddau y maent yn derbyn dulliau gweithredu gwahanol.

Mae'r papur dealltwriaeth hwn yn crynhoi agweddau, pryderon a disgwyliadau'r cyhoedd mewn perthynas â'r defnydd o ddata, yn ogystal â barn y cyhoedd am ein defnydd o ddata gweinyddol i gynhyrchu ystadegau. Mae'n defnyddio amrywiaeth o ffynonellau, o'r SYG a thu hwnt, gan gyfeirio at sawl adroddiad ymchwil sy'n ystyried agweddau at sefydliadau ystadegol, data gweinyddol a chysylltu data.

Mae ein hymchwil i ddeall agweddau pobl at ddata yn rhan o raglen ehangach yn y SYG. Mae'r gwaith hwn yn cynnwys ymgysylltu â'r rhai sy'n defnyddio ein data a'r cyhoedd yn fwy eang. Mae hefyd yn cefnogi ein nod i sicrhau bod ein hystadegau yn adlewyrchu profiadau cynifer o bobl â phosibl mewn cymdeithas.

Nôl i'r tabl cynnwys

2. Dealltwriaeth y cyhoedd o'r defnydd o ddata

Mae barn pobl am ddata a'u hagweddau at rannu data personol yn gymhleth, gyda gwahaniaethau cynnil sy'n dibynnu ar nifer o ffactorau unigol ac amgylcheddol. 

Pan fydd pobl yn rhannu gwybodaeth bersonol, byddant yn ystyried ffactorau fel: 

  • y gwerth uniongyrchol, fel gwneud pethau'n fwy cyfleus neu wella mynediad at wasanaethau 

  • beth y byddant yn ei ennill o rannu eu gwybodaeth bersonol 

  • enw da'r sefydliad sy'n gofyn am eu data 

  • pa fath o ddata y mae sefydliad yn gofyn amdanynt 

  • sut y bydd y sefydliad yn defnyddio eu data 

  • pwy arall fydd yn cael mynediad at eu data 

  • sut caiff eu data eu cadw'n ddienw ac yn ddiogel  

  • ar gyfer beth arall y bydd sefydliadau yn defnyddio eu data 

Nid yw'r cysylltiad rhwng unigolyn yn rhannu data a pha sefydliad sy'n defnyddio'r data yn uniongyrchol ac yn amlwg bob amser, yn enwedig ar gyfer data gweinyddol. Daw data gweinyddol o'r wybodaeth y mae pobl yn ei rhannu pan fyddant yn defnyddio gwasanaethau cyhoeddus fel y systemau treth, budd-daliadau, iechyd ac addysg. Gallwch ddysgu mwy am ddata gweinyddol ar wefan Data Gweinyddol y DU (yn Saesneg)

Mae dyhead i bobl wybod pwy sy'n rheoli'r data a gaiff eu rhannu ganddynt. Cynhaliodd y sefydliad Living with Data adolygiad o ddealltwriaeth a chanfyddiadau'r cyhoedd o arferion data, Public understanding and perceptions of data practices: a review of existing research (PDF, 8.71MB). Canfu fod y bobl a gymerodd ran yn teimlo bod y "locws rheolaeth" dros eu data yn bwysicach na'r "mathau o ddata, y defnyddiau a'r buddiolwyr". Yn ogystal â'r dyhead i reoli, mae cryn bryder o ran diogelwch data a gaiff eu rhannu â sefydliad, a sut y caiff data eu cadw'n ddiogel mewn sefydliad ei hun. Canfu'r un adolygiad fod llawer o bobl yn gyndyn o rannu data heb sicrwydd pendant y byddant yn breifat ac yn ddiogel. Mae hwn yn rhwystr anodd i'w oresgyn, gan fod data gweinyddol yn cael eu defnyddio at ddibenion gwahanol. 

Gall ymwybyddiaeth a dealltwriaeth gyffredinol rhywun o'r sefydliad y mae'n rhannu ei ddata ag ef ddylanwadu mwy ar ei ganfyddiad o reolaeth na ffactorau eraill. Gallai'r ymwybyddiaeth a'r ddealltwriaeth hon fod yn seiliedig ar unrhyw beth o gyfeiriadau yn y cyfryngau i brofiad uniongyrchol pobl wrth ymgysylltu â'r sefydliad. 

Mae barn pobl am y defnydd o ddata wedi bod yn gyson yn yr amrywiaeth o ffynonellau rydym wedi'u hystyried rhwng 2014 a 2023. Fodd bynnag, mae'r ymchwil yn awgrymu, wrth i ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'r ffordd y caiff data eu casglu, eu storio, eu prosesu a'u defnyddio gynyddu, felly hefyd y mae'r disgwyliad i ymdrin ag angen pobl am gyfathrebu agored a gonest. Mae hefyd yn cynyddu'r disgwyliad i ddefnyddwyr data ymgysylltu'n rheolaidd â phobl ynglŷn â data. 

Yn ôl adolygiad Ipsos MORI, Dialogue on Data (2014) (yn Saesneg), ychydig iawn o ymwybyddiaeth oedd o bwy sy'n casglu data pobl, ac at ba ddiben y mae sefydliadau yn eu defnyddio. Mae hyn er gwaethaf dealltwriaeth pobl fod rhannu data yn "agwedd ar fywyd modern na ellir ei hosgoi". Mae tystiolaeth hefyd i awgrymu bod pobl yn aml yn tybio bod sefydliadau eisoes yn cysylltu ac yn rhannu eu data, yn enwedig ar draws y llywodraeth.

Nôl i'r tabl cynnwys

3. Ymddiriedaeth y cyhoedd er mwyn rhannu eu data

Ymddiriedaeth yn y defnydd o ddata 

Yn adroddiad y Ganolfan Moeseg Data ac Arloesedd ar rannu data yn y sector cyhoeddus (2020) (yn Saesneg), nodwyd bod ymddiriedaeth a chydsyniad y cyhoedd yn hanfodol ar gyfer cynaliadwyedd hirdymor gweithgarwch rhannu data. Mae'r adroddiad yn nodi nad yw cyfran helaeth o'r boblogaeth yn ymddiried yng nghymhwysedd na bwriadau sefydliadau mewn perthynas â'u defnydd cyffredinol o ddata cyhoeddus. Mae'r adroddiad wedi nodi sawl nodwedd o'r "ymddiriedaeth ddisylwedd" sydd gan bobl, yn ôl pob golwg, yn y ffyrdd y caiff eu data eu defnyddio gan sefydliadau. Mae'r rhain yn cynnwys: 

  • gwerth amwys 

  • gweithdrefnau diogelwch uchel ddim yn cael eu rhoi ar waith yn gyson 

  • atebolrwydd yn gyfyngedig, am nad oes dull cyffredinol o ymdrin â moeseg rhannu data 

  • tryloywder cyfyngedig 

  • diffyg rheolaeth o ran y ffordd y caiff data eu defnyddio a'u rhannu 

Mae pobl yn fwy parod i dderbyn i'w data gael eu rhannu pan fyddant yn dysgu ac yn deall na ellir adnabod neb mewn ystadegau a gaiff eu cyhoeddi ac y caiff data unigol eu cyfuno. Gall termau fel "cyfanredol", "anonymeiddio" a "dad-adnabyddedig" fod yn ddryslyd i bobl ac arwain at gwestiynau pellach yn aml. 

Mae mor hawdd i bobl gael gafael ar lawer iawn o wybodaeth erbyn hyn, a gall hyn lethu unigolion. Mae cyffredinrwydd camwybodaeth, twyllwybodaeth a newyddion ffug yn golygu y gall rhai pobl fod yn amheus o ran pa mor gywir yw gwybodaeth a gaiff ei chyhoeddi gan sefydliadau, gan gynnwys ystadegau. 

Holodd yr ymchwil ansoddol nad yw wedi'i chyhoeddi, 'Young People's Trust in Data Sharing' (Walnut Unlimited, 2023), bobl ifanc rhwng 18 a 24 oed am eu barn am rannu data. Canfu eu bod o'r farn y gallant "ymddiried digon" yn sefydliadau'r llywodraeth i ofalu am ddata pobl a'u defnyddio i lywio gwelliannau i wasanaethau. 

Mathau o ddata 

Mae agweddau at rannu data yn dibynnu ar y math o ddata y mae sefydliadau yn eu defnyddio. Mae'n ymddangos bod y wybodaeth y byddant yn ei rhannu a sut y caiff ei defnyddio yn cael effaith sylweddol ar barodrwydd pobl i rannu data. Er enghraifft, mae'n ymddangos bod pobl, yn enwedig rhieni, yn arbennig o sensitif ynglŷn â rhannu data am blant. Mae'r rheini sydd â chyflyrau iechyd hirdymor hefyd yn sensitif ynglŷn â rhannu data am iechyd. 

Pan fydd budd amlwg, fel rhannu data am iechyd er mwyn gwella gwasanaethau iechyd, mae pobl yn fwy parod i dderbyn. Fodd bynnag, mae hyn yn dibynnu ar y sicrwydd na fydd modd adnabod unigolion. Gyda data ariannol, nid yw manteision rhannu yn amlwg ar unwaith. Yn ôl adroddiad Thinks, Insight and Strategy yn 2023, 'Attitudes to data sharing', nad yw wedi'i gyhoeddi eto, mae pobl o'r farn bod risgiau uwch yn gysylltiedig â data ariannol, yn enwedig mewn perthynas â thrafodiadau credyd a debyd. Mae hyn am ei fod yn teimlo'n fwy personol, ac maent yn bryderus bod eu data yn cael eu casglu heb eu caniatâd. 

Datgelodd ymchwil 'Dialogue on Data' Ipsos MORI (2014) fod rhai cyfranogwyr o'r farn bod rhai mathau o ddata yn rhy breifat i sefydliadau eu rhannu y tu hwnt i'r asiantaeth gasglu wreiddiol. Er enghraifft, gwybodaeth am drais domestig neu HIV. Roeddent yn teimlo bod y canlyniadau yn rhy ddifrifol pe bai diogelwch yn cael ei dorri mewn perthynas â'r mathau hyn o ddata. 

Manteision a risgiau canfyddedig 

Mae'n fwy cyffredin i bobl boeni am rannu data nag ydyw iddynt ystyried y manteision. 

Mae peth dadlau ynghylch y diffiniad o "fudd y cyhoedd" pan gaiff hyn ei roi fel rheswm dros ddefnyddio data i gynhyrchu ystadegau. Dangosodd ymchwil gan Ymchwil Data Gweinyddol y DU (2022) fod pobl yn deall yn gyffredinol bod "y cyhoedd" yn golygu "y rhan fwyaf o bobl". Hefyd, diffiniodd "budd pennaf" fel "y nifer mwyaf o anghenion yn cael eu diwallu ar yr un pryd". Fodd bynnag, ni chafwyd cytundeb unfrydol. Roedd rhai yn teimlo y dylid gwneud defnydd da o ystadegau mewn perthynas ag agweddau ar gymdeithas sydd â'r angen mwyaf. Roedd eraill yn credu y gallem ddehongli bod "y cyhoedd" yn cyfeirio at bobl yn y dyfodol a "gwella bywydau cenedlaethau'r dyfodol" drwy rannu eu data. Roedd pobl yn cytuno'n unfrydol y dylai data er budd y cyhoedd gael eu defnyddio mewn senarios byd go iawn, gan fynd i'r afael ag anghydraddoldebau mewn cymdeithas ac osgoi ymchwil sy'n annog yr anghydraddoldebau hyn. 

Mae hyn yn debyg i ganfyddiadau o adroddiad Thinks, Insight and Strategy yn 2023, 'Attitudes to data sharing', nad yw wedi'i gyhoeddi eto, a nododd fod pobl yn deall gwerth ystadegau yn fwyaf clir drwy ddefnyddio astudiaethau achos. Yn benodol, y rheini sy'n ymddangos yn fwy perthnasol i gymunedau lleiafrifol. Roedd pobl yn aml yn gweld budd rhannu data fel rhywbeth trafodiadol ac sy'n canolbwyntio mwy ar yr unigolyn. Y ddau brif reswm dros hyn oedd cael mynediad at wasanaethau, a chynnal y mynediad hwnnw, a gwneud pethau'n fwy cyfleus. Roedd enghreifftiau digymell o sefydliadau y mae pobl yn tueddu i rannu data â nhw yn cynnwys manwerthwyr, y llywodraeth a darparwyr ariannol. 

Roedd pobl hefyd yn ystyried manteision rhannu data mewn ffordd wahanol yn dibynnu ar sut roeddent yn rhyngweithio â sefydliad. Pe bai sefydliad yn cynnig rhywbeth yn gyfnewid am ddata rhywun, roedd y manteision yn fwy tebygol o fod ar flaen y meddwl ac yn haws i'w hasesu. 

Dangosodd adolygiad Ymchwil Data Gweinyddol y DU o lenyddiaeth flaenorol, Trust, Security and Public Interest: Striking the Balance (PDF, 609KB) (yn Saesneg), fod 60% o bobl a oedd wedi cymryd rhan mewn ymchwil feddygol yn teimlo bod dyletswydd arnynt i ganiatáu i'w gwybodaeth iechyd bersonol gael ei defnyddio. Roeddent yn teimlo y byddai hyn yn helpu'r broses ymchwil feddygol, ond byddent ond yn caniatáu hyn pe gallent gydsynio. 

Roedd barn pobl yn seiliedig ar ymddiriedaeth a chyfreithlondeb sefydliadau, fel y nodir yn Public attitudes to data linkage (NatCen 2018) (PDF, 138KB) (yn Saesneg). Mae pobl yn fwy tebygol o deimlo'n gyfforddus a chaniatáu i ddata gael eu cysylltu a'u rhannu os caiff hyn ei wneud er budd cymdeithas. Yn debyg, canfu ymchwil 'Dialogue on Data' (Ipsos MORI 2014) y byddai pobl yn hapus ar y cyfan i ddata gweinyddol gael eu cysylltu ar gyfer prosiectau ymchwil penodol, ar yr amod: 

  • bod gan y prosiectau werth cymdeithasol 

  • bod y data yn ddad-adnabyddedig 

  • bod y data yn cael eu cadw'n ddiogel 

  • nad yw busnesau yn gallu cael gafael ar y data er mwyn gwneud elw

Nôl i'r tabl cynnwys

4. Ymddiriedaeth y cyhoedd yn nefnydd y SYG o ddata

Ymwybyddiaeth o'r SYG 

Yn ôl yr adroddiad Public Confidence in Official Statistics (PCOS) 2021, (PDF 9.04MB) (yn Saesneg), mae lefel uchel o ymwybyddiaeth o'r SYG, a dywedodd tri chwarter o'r ymatebwyr eu bod wedi clywed amdanom. Hefyd, datgelodd yr arolwg fod 91% o ymatebwyr yn cytuno bod ystadegau rydym yn eu cynhyrchu yn bwysig er mwyn deall ein gwlad. 

Er y gall pobl fod yn ymwybodol o'r SYG, dealltwriaeth gyfyngedig sydd ganddynt ar y cyfan o'n rôl a'r ffaith ein bod yn annibynnol ar weinidogion, oni bai eu bod wedi ymgysylltu'n uniongyrchol â ni. Er enghraifft, mewn grwpiau ffocws, pan fyddwn yn gofyn i bobl a ydynt wedi clywed amdanom, nifer bach sy'n crybwyll y cyfrifiad heb i ni eu cymell. Fodd bynnag, bydd y rhai sydd wedi rhyngweithio â ni o'r blaen yn dangos eu bod yn gwybod bod y cyfrifiad yn bwysig er mwyn deall y boblogaeth. 

Ymddiriedaeth yn y SYG 

Mae lefel yr ymddiriedaeth sydd gan unigolyn mewn sefydliad yn ffactor hanfodol yn ei benderfyniad i rannu gwybodaeth bersonol. Nododd adroddiad PCOS (2021) fod ymddiriedaeth yn ein sefydliad yn parhau i fod yn uchel (89%). 

Mae ymddiriedaeth yn nefnydd y SYG o ddata gweinyddol yn dibynnu ar ein gallu i fod yn agored ac yn onest am:  

  • y ffynonellau rydym yn cael data ganddynt 

  • y mathau o ddata rydym yn eu defnyddio 

  • y rhesymau pam rydym am gael y data a sut y byddwn yn defnyddio'r data hynny 

  • ein polisïau a'n gweithdrefnau ar gyfer casglu a storio data 

  • y manteision penodol i unigolion, cymunedau a chymdeithas o ganlyniad i'r ffaith bod sefydliadau yn defnyddio ein hystadegau 

Yn ôl adroddiad Thinks, Insight and Strategy yn 2023, 'Attitudes to data sharing', nad yw wedi'i gyhoeddi eto, mae angen i bobl asesu'n hyderus werth a diben y data rydym wedi gofyn iddynt eu rhannu. Er mwyn gallu gwneud hyn, maent yn dibynnu arnom i roi enghreifftiau clir o sut y gall ein data a'n hystadegau fod o fudd i gymunedau. 

Ymddiriedaeth yn ystadegau'r SYG 

Yn gyson â blynyddoedd blaenorol, dangosodd canlyniadau arolwg PCOS (2021) bod 87% o'r ymatebwyr wedi dweud eu bod yn ymddiried yn ein hystadegau. Roedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr yn cytuno bod ein hystadegau yn ddiogel rhag ymyrraeth wleidyddol (74%). Fodd bynnag, roedd pryderon o ran y ffordd y mae'r llywodraeth a'r cyfryngau yn cyflwyno ystadegau. Dim ond 35% o ymatebwyr oedd yn cytuno bod y llywodraeth yn cyflwyno ystadegau mewn ffordd onest ac roedd 24% yn cytuno bod y cyfryngau yn cyflwyno ystadegau mewn ffordd onest. 

Bydd pobl yn aml yn synnu pan fyddant yn dysgu beth mae annibyniaeth ein hystadegau yn ei olygu i'r ffordd rydym yn eu cynhyrchu. Rydym yn annibynnol ar weinidogion a byddwn ond yn defnyddio data ar gyfer ystadegau ac ymchwil sydd o fudd i'r cyhoedd. Mae'n ymddangos bod dealltwriaeth well o'n didueddrwydd yn ysgogi ymddiriedaeth, ac yn gryfder pwysig yn ein rôl fel cynhyrchydd ystadegau swyddogol. 

Er bod lefelau hyder y cyhoedd yn yr ystadegau rydym yn eu cynhyrchu yn uchel ar y cyfan, mae lefelau ymddiriedaeth rhai grwpiau o bobl yn is. Mae'r rhain yn cynnwys grwpiau sydd â mynediad cyfyngedig at y rhyngrwyd, neu ddim mynediad o gwbl, pobl o rai grwpiau ethnig neu bobl sy'n uniaethu â rhai crefyddau. Mae disgwyliad gan y cyhoedd bod cyfrifoldeb gennym i sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl yn ymwybodol o'r ystadegau rydym yn eu cynhyrchu ac yn gallu cael gafael arnynt. 

Mae adborth o weithgareddau allgymorth ac ymgysylltu cymunedol a gan grwpiau ffocws a gynhaliwyd gennym wedi pwysleisio'r angen i ganolbwyntio ar bynciau a materion sydd o bwys i bobl, fel ansawdd bywyd. Mae safbwynt hefyd y gall y ffordd rydym yn cyflwyno data gefnogi dadleuon mewn ffordd gadarnhaol. Er enghraifft, ystyried sut y gall data daflu goleuni ar sut y mae'r argyfwng costau byw yn effeithio ar bobl mewn ffyrdd gwahanol.

Nôl i'r tabl cynnwys

5. Sut mae agweddau yn amrywio ar draws y boblogaeth

Mae nodweddion demograffig yn cael effaith amlwg ar agweddau at ddata. Datgelodd canlyniadau o grwpiau ffocws gyda phobl rhwng 18 a 24 oed y gallant nodi manteision rhannu data, sef gwneud pethau'n fwy cyfleus a gwella gwasanaethau. Yn gyffredinol, maent o'r farn bod angen rhannu data er mwyn bod yn rhan o gymdeithas ac y byddent yn cael trafferth gwneud pethau sylfaenol mewn bywyd heb hyn (Walnut Unlimited, 2023, gwaith ymchwil nad yw wedi'i gyhoeddi eto). 

Yn ôl adroddiad Thinks, Insight and Strategy yn 2023, 'Attitudes to data sharing', nad yw wedi'i gyhoeddi eto, mae cyfranogwyr hŷn yn fwy tebygol o wybod am y SYG am eu bod wedi clywed am y cyfrifiad a chymryd rhan ynddo dros y blynyddoedd. 

Mae'r rheini sy'n gyfarwydd â ni yn deall sut mae ystadegau yn cael effaith gadarnhaol ar gymdeithas ehangach, er enghraifft, roedd hon yn farn a fynegwyd gan rai graddedigion prifysgol sydd wedi rhyngweithio â ni drwy gydol eu hastudiaethau. Fodd bynnag, mae gan grwpiau allweddol o'r boblogaeth, fel pobl sydd â chyflyrau iechyd hirdymor a phobl o gefndiroedd ethnig lleiafrifol fwy o bryderon ynghylch rhannu data. 

Dangosodd arolwg PCOS (2021) fod agweddau ymatebwyr at ystadegau swyddogol yn newid yn sylweddol yn ôl lefel eu haddysg. Y rheini sydd wedi'u haddysgu i lefel gradd neu uwch oedd fwyaf tebygol o ymddiried ynom fel sefydliad (95%) a'r ystadegau rydym yn eu cynhyrchu (hefyd yn 95%). Ar y llaw arall, ymatebwyr heb unrhyw gymwysterau addysgol oedd leiaf tebygol o ymddiried ynom fel sefydliad (74%) a'r ystadegau rydym yn eu cynhyrchu (76%). Hefyd, ar y cyfan, mae gan y rheini sy'n defnyddio ystadegau agweddau mwy cadarnhaol at ystadegau na'r rheini nad ydynt yn eu defnyddio.

Nôl i'r tabl cynnwys

6. Sut mae agweddau'r cyhoedd wedi newid

Mae barn pobl am ddata wedi parhau i fod yn eithaf cyson. Fodd bynnag, mae'n amlwg bod barn pobl yn datblygu wrth i ffactorau amgylcheddol a dadleuon cyhoeddus effeithio arnynt. Er enghraifft, mae'n ymddangos bod y coronafeirws (COVID-19) a'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) (yn Saesneg) wedi cael effaith gadarnhaol ar agweddau ac ymddygiadau mewn perthynas â rhannu data. Mae hyn oherwydd eu bod wedi codi ymwybyddiaeth o rôl gadarnhaol ystadegau a'r mesurau diogelwch sydd ar waith. Ar y llaw arall, er y gall pobl fod wedi gweld data am gostau byw, maent yn dweud eu bod yn rhwystredig na allant o reidrwydd wneud unrhyw gysylltiad rhwng yr ystadegau a gwelliant economaidd. 

Wrth i dechnoleg ddatblygu, mae rhannu data wedi dod yn haws nag erioed. Mae hyn yn pwysleisio bwlch rhwng cenedlaethau a newid mewn agweddau dros amser. Dangosodd grwpiau ffocws gyda phobl rhwng 18 a 24 oed nad yw'r grŵp oedran hwn yn tueddu i gwestiynu na threulio amser yn poeni am rannu data. Mae hyn oherwydd eu bod wedi bod yn rhannu data drwy gydol eu hoes. Ni allant weld pa wahaniaeth y byddai'n ei wneud i rannu ychydig bach mwy, gan fod cymaint eisoes ar gael. 

Mae thema bosibl yn dod i'r amlwg o ran yr angen am "geidwaid" data dynodedig. Mae pobl wedi dweud eu bod am i'r sefydliadau sy'n defnyddio data fod yn atebol am eu manteision a rhoi tystiolaeth o'r "budd i'r cyhoedd" y gall y data ei gynnig. Maent am i'r sefydliadau hyn fuddsoddi amser ac ymdrech i rannu enghreifftiau o'r effeithiau cadarnhaol y gall y data hyn eu cael ar gymunedau. 

Mae'n bwysicach nag erioed i bobl gael sicrwydd bod data yn cael eu defnyddio mewn ffordd sy'n: 

  • ddibynadwy 

  • agored a gonest 

  • moesegol 

  • amodol ar brosesau craffu annibynnol

Nôl i'r tabl cynnwys

7. Ymchwil yn y dyfodol

Mae'r crynodeb dealltwriaeth hwn yn dangos pa mor bwysig yw hi bod sefydliadau sy'n defnyddio data yn ymgysylltu â'r cyhoedd. Er mwyn cynnal ymddiriedaeth aelodau'r cyhoedd, mae angen iddynt rannu gwybodaeth am y ffordd y caiff eu data eu defnyddio ac at ba ddiben. Yn y SYG, byddwn yn parhau i gyfathrebu a cheisio barn pobl am y ffordd rydym yn defnyddio data i gynhyrchu ystadegau swyddogol. 

Bydd y ddealltwriaeth hon yn bwydo i mewn i waith yn y dyfodol ar ymgysylltu â'r cyhoedd ynghylch data. Mae'n cefnogi ein nod o greu amgylchedd cynhwysol o ymddiriedaeth sy'n galluogi ac yn annog pawb i gyfrif a chael eu cyfrif yn nata'r DU.

Nôl i'r tabl cynnwys

8. Cyfeirio at yr erthygl hon

Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), rhyddhawyd ar 29 Mehefin 2023, gwefan y SYG, erthygl, Yr hyn rydym yn ei wybod o ganlyniad i ymgysylltu â'r cyhoedd ynglŷn â data: Mehefin 2023

Nôl i'r tabl cynnwys