Defnyddio Rhifau yw ein rhaglen addysg data i fyfyrwyr 16 oed a throsodd sydd mewn addysg bellach neu yn y chweched dosbarth. Rydym wedi dylunio cyfres o becynnau cymorth sy'n helpu i sicrhau bod myfyrwyr yn fwy ymwybodol o'r hyn rydym yn ei wneud yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG).

Bellach, gallwch gofrestru i gael mynediad at ein hadnoddau Defnyddio Rhifau diweddaraf.

Defnyddio Rhifau: Archwilio Economeg

Bydd y pecynnau cymorth hyn, sy’n rhad ac am ddim yn hawdd eu defnyddio ac yn canolbwyntio ar bwysigrwydd ystadegau economaidd, gan alluogi eich myfyrwyr i weithio'n hyderus gyda data'r SYG ar y byd go iawn.

Mae'r deunyddiau newydd hyn yn gysylltiedig â'r cwricwlwm, ac maent wedi'u dylunio i gyd-fynd yn rhwydd â'ch addysgu mewn gwersi Astudiaethau Busnes, Daearyddiaeth ac Economeg. Rydym hefyd wedi eu dylunio fel y gellir eu haddasu i'w defnyddio mewn pynciau eraill.

Drwy ddefnyddio'r adnoddau hyn, gallwch gefnogi eich myfyrwyr wrth iddynt ddadansoddi, cwestiynu a chymhwyso data i faterion ymarferol, gan eu helpu i feithrin sgiliau meddwl yn feirniadol pwysig.

Gallwch gofrestru nawr i gael mynediad at yr adnoddau hyn am ddim.

Defnyddio Rhifau: Canllaw i athrawon ar ystadegau swyddogol

Mae Canllaw i athrawon ar ystadegau swyddogol yn gyfres o adnoddau Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) ar gyfer athrawon sy'n darparu cymorth ymarferol ar ddefnyddio ystadegau swyddogol yn yr ystafell ddosbarth.

Bydd yr adnoddau DPP rhad ac am ddim hyn yn rhoi hwb i'ch hyder chi a'ch myfyrwyr wrth ddefnyddio data, gan eich galluogi i ddod â chysyniadau cymhleth yn fyw yn rhwydd.

Cofrestrwch heddiw i gael mynediad at yr adnoddau hyn am ddim o fis Medi 2026 (yn Saesneg).

Pum pecyn cymorth Defnyddio Rhifau am ddim

Gallwch hefyd addysgu eich myfyrwyr ynghylch defnyddio data'r SYG ar y byd go iawn drwy lawrlwytho ein pum pecyn cymorth Defnyddio Rhifau am ddim.

Hysbysiad preifatrwydd

Caiff yr holl wybodaeth a rennir ei thrin yn unol â pholisïau llym y SYG ar ddiogelu data. Dysgwch fwy am y data personol rydym ni’n eu casglu (yn Saesneg).