1. Graffeg cyfryngau cymdeithasol

Rydym wedi darparu graffeg cyfryngau cymdeithasol y gellir eu lawrlwytho a'u rhannu ar eich llwyfannau eich hun. Gellir defnyddio'r rhain i hyrwyddo Defnyddio Rhifau: Archwilio Economeg a'r adnodd Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP), Defnyddio Rhifau: Canllaw i athrawon ar ystadegau swyddogol.

Gallwch ddefnyddio'r rhain ar:

  • X

  • LinkedIn

  • Facebook

  • Instagram

  • Straeon Instagram

Lawrlwythwch graffeg cyfryngau cymdeithasol ar gyfer Archwilio Economeg a’r adnodd DPP i Athrawon.

Nôl i'r tabl cynnwys

2. Negeseuon cyfryngau cymdeithasol awgrymedig

Ochr yn ochr â’n graffeg, rydym wedi darparu geiriad awgrymedig i’w ddefnyddio ar eich sianeli cyfryngau cymdeithasol. Gellir defnyddio’r geiriad hwn wrth rannu negeseuon â’ch dilynwyr am Defnyddio Rhifau: Archwilio Economeg a’r adnodd DPP Canllaw i athrawon ar ystadegau swyddogol. Mae'r negeseuon hyn yn barod i’w defnyddio, neu gellir eu haddasu.

Hyrwyddo'r ddau adnodd – Defnyddio Rhifau: Archwilio Economeg a'r adnodd DPP Canllaw i athrawon ar ystadegau swyddogol

Testun byrrach sy'n addas ar gyfer X

Mae’r @ONS wedi lansio adnoddau am ddim:

  • Archwilio Economeg – 3 adnodd newydd sy’n ymuno â 5 pecyn cymorth Defnyddio Rhifau presennol ar gyfer dysgwyr 16 oed a throsodd

  • Canllaw i athrawon ar ystadegau swyddogol – 4 modiwl DPP hyblyg

Helpwch eich dosbarth i ddechrau defnyddio data’n hyderus.

https://cy.ons.gov.uk/aboutus/usingpublicdatatoproducestatistics/learningaboutdata/navigatingnumbersexploringeconomicsandstatisticsintheclassroom

Testun hirach sy’n addas ar gyfer LinkedIn, Facebook neu Instagram

Neges 1:

Adnoddau addysgu am ddim gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, ar gael i'w lawrlwytho 📢

Mae’r rhain yn helpu athrawon a dysgwyr 16 oed a throsodd i ddatblygu:

  • llythrennedd data

  • llythrennedd ystadegol

  • sgiliau meddwl yn feirniadol

Cofrestrwch heddiw i gael mynediad at Archwilio Economeg a Canllaw i athrawon ar ystadegau swyddogol gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol:

https://cy.ons.gov.uk/aboutus/usingpublicdatatoproducestatistics/learningaboutdata/navigatingnumbersexploringeconomicsandstatisticsintheclassroom

Neges 2:

Sut gallwn helpu pobl ifanc i fagu hyder wrth ddefnyddio data yn eu hastudiaethau?

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi datblygu adnoddau am ddim i helpu athrawon a dysgwyr i fagu hyder wrth addysgu a dysgu am ddata mewn sefyllfaoedd go iawn:

📊 Mae Archwilio Economeg, sy’n rhan o’r rhaglen Defnyddio Rhifau, yn darparu adnoddau parod i’w defnyddio yn yr ystafell ddosbarth ar gyfer Economeg, Astudiaethau Busnes a Daearyddiaeth, gan helpu dysgwyr i ddadansoddi, dehongli a chwestiynu data o’r byd go iawn.

🎓 Mae Canllaw i athrawon ar ystadegau swyddogol yn adnodd DPP newydd sy’n helpu athrawon i fagu hyder wrth ddefnyddio ystadegau swyddogol a data yn eu haddysgu.

Nod yr adnoddau hyn yw cryfhau llythrennedd data, llythrennedd ystadegol a sgiliau meddwl yn feirniadol ym maes addysg, gan helpu dysgwyr i wneud synnwyr o’r byd o’u cwmpas.

Dysgwch fwy a chael mynediad at yr adnoddau: https://cy.ons.gov.uk/aboutus/usingpublicdatatoproducestatistics/learningaboutdata/navigatingnumbersexploringeconomicsandstatisticsintheclassroom

Hyrwyddo Defnyddio Rhifau: Archwilio Economeg

Athrawon – hoffech chi ddod â data o’r byd go iawn yn fyw yn eich gwersi?

Cofrestrwch i gael mynediad at yr holl becynnau cymorth gan @ONS sy’n barod i’w defnyddio yn yr ystafell ddosbarth, gan gynnwys tri phecyn cymorth newydd sbon. Mae’r pecynnau cymorth hyn yn helpu dysgwyr 16 oed a throsodd i archwilio materion economaidd a chymdeithasol gan ddefnyddio ystadegau swyddogol

Defnyddio Rhifau: Archwilio Economeg a Chanllaw i athrawon ar ystadegau swyddogol

Hyrwyddo’r adnodd DPP Canllaw i athrawon ar ystadegau swyddogol

Eisiau magu hyder wrth addysgu ystadegau i ddysgwyr 16 oed a throsodd eleni?

Rhowch gynnig ar Ganllaw i athrawon ar ystadegau swyddogol gan @ONS - mae'n cynnwys pedwar modiwl DPP am ddim sy’n hawdd eu defnyddio i’ch helpu i ddefnyddio data yn yr ystafell ddosbarth.

Dysgwch fwy

https://cy.ons.gov.uk/aboutus/usingpublicdatatoproducestatistics/learningaboutdata/navigatingnumbersexploringeconomicsandstatisticsintheclassroom

Nôl i'r tabl cynnwys

3. Testun i bartneriaid ei rannu mewn cylchlythyrau ac ar wefannau

Dyma enghreifftiau o eiriad awgrymedig y gallwch eu copïo a'u ddefnyddio yn eich cylchlythyrau eich hun ac ar eich gwefannau. Gall hyn eich helpu i hyrwyddo Defnyddio Rhifau: Archwilio Economeg a Chanllaw i athrawon ar ystadegau swyddogol.

Adnoddau newydd am ddim gan y SYG i gefnogi llythrennedd data yn yr ystafell ddosbarth

Fel rhan o'i rhaglen addysg Defnyddio Rhifau, mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) wedi lansio adnoddau am ddim, sy'n gysylltiedig â'r cwricwlwm i helpu athrawon i ddod â data'n fyw yn yr ystafell ddosbarth.

Mae ei chyfres o wyth pecyn cymorth am ddim sy'n barod i'w defnyddio yn yr ystafell ddosbarth bellach yn cynnwys tri phecyn cymorth newydd sbon: Archwilio Economeg.

Wedi’u datblygu gydag arbenigwyr pwnc, maent yn cefnogi addysgu Economeg, Astudiaethau Busnes a Daearyddiaeth, ond gellir eu haddasu ar gyfer pynciau eraill hefyd. Mae’r adnoddau’n cynnwys sleidiau cyflwyno parod i’w defnyddio, pecynnau cymorth i ddysgwyr a chanllawiau i athrawon.

Mae’r rhain yn ategu’r pum pecyn cymorth presennol am ddim ar gyfer yr ystafell ddosbarth, sy’n ymdrin â:

  • data ar y bwlch cyflog rhywedd

  • data ar chwyddiant

  • data’r cyfrifiad

  • data ar iechyd a llesiant

  • data ar fusnes, diwydiant a masnach

Mae’r SYG hefyd wedi lansio Canllaw i athrawon ar ystadegau swyddogol.

Mae’r pedwar modiwl Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) byr hyn yn helpu athrawon i ddefnyddio data, offer ac ystadegau’r SYG yn fwy effeithiol yn yr ystafell ddosbarth. Gallwch ddysgu ar eich cyflymder eich hun, gan ganolbwyntio ar y meysydd sydd fwyaf perthnasol i chi, ac arbed amser cynllunio wrth fagu hyder i weithio gyda data go iawn.

Nod yr adnoddau hyn yw cefnogi llythrennedd data a llythrennedd ystadegol, gan helpu pobl ifanc i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i ddeall y byd o’u cwmpas ac ymgysylltu ag ef.

Cael mynediad at yr adnoddau a dysgu mwy

Nôl i'r tabl cynnwys

4. Nodiadau ar ddefnyddio

Byddem wrth ein bodd yn gweld eich negeseuon cyfryngau cymdeithasol, felly cofiwch ein tagio ar X, Facebook, LinkedIn neu Instagram!

Nôl i'r tabl cynnwys