Cangen o fathemateg yw ystadegau. Mae'n cynnwys casglu data, eu crynhoi a phenderfynu beth maent yn ei olygu.
Ond mae ystadegau hefyd yn golygu'r rhifau sy'n deillio o'r gwaith hwn, a dyna'r hyn rydym yn ei gynhyrchu yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG). Mewn gwirionedd, ni yw'r cynhyrchydd ystadegau swyddogol annibynnol mwyaf yn y DU.
Mae'n bwysig nodi'r gwahaniaeth rhwng data ac ystadegau. Data yw'r wybodaeth a gaiff ei phrosesu a'i dadansoddi i greu ystadegau.
Pa ystadegau rydym yn eu cynhyrchu yn y SYG?
Rydym yn cynhyrchu ystadegau sy'n ein helpu i ddeall yr economi, cymdeithas a phoblogaeth Cymru a Lloegr. Mae hyn yn cynnwys ystadegau ar y canlynol:
- busnes, diwydiant a masnach
- chwyddiant a phrisiau cynhyrchion
- buddsoddiadau a phensiynau
- pobl sydd mewn gwaith ac yn ddi-waith
- pa swyddi sydd gan bobl a faint y maent yn ei ennill
- genedigaethau, marwolaethau a phriodasau
- addysg
- iechyd a gofal cymdeithasol
- oedran a rhyw y boblogaeth
- tai
- llesiant
A dim ond enghraifft fach yw hynny o'r pynciau y mae ein hystadegau yn ymdrin â nhw.
Pwy sy'n defnyddio'r ystadegau rydym yn eu cyhoeddi yn y SYG a sut maent yn eu defnyddio?
Mae sefydliadau yn defnyddio ein hystadegau i wneud penderfyniadau pwysig sy'n effeithio ar bob un ohonom.
Er enghraifft, mae llywodraeth leol yn defnyddio'r wybodaeth er mwyn helpu i gynllunio gwasanaethau, fel ysgolion, gofal iechyd a chasgliadau sbwriel. Mae busnesau'n ei defnyddio i benderfynu ble i leoli eu hunain, a all greu cyfleoedd gwaith.
Mae elusennau hefyd yn defnyddio ein data a'n hystadegau i helpu i dargedu eu cymorth a chael gafael ar y cyllid sydd ei angen arnynt.
Mae unigolion yn defnyddio ein hystadegau hefyd. Er enghraifft, mae rhieni'n defnyddio ein hystadegau am enwau babanod i ddewis enw ar gyfer eu babi.
Mewn rhai achosion, gofynnir i ni ddarparu ystadegau mewn ymateb i faterion pwysig. Mae hyn yn helpu i lywio penderfyniadau pwysig, fel yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19).
Ni ellir adnabod neb o'r ystadegau rydym yn eu cyhoeddi.
Cyhoeddi ystadegau er budd y cyhoedd
Rydym yn rhan o Awdurdod Ystadegau’r DU. Cenhadaeth yr Awdurdod yw cynhyrchu data a dadansoddiadau o ansawdd uchel er mwyn llywio'r DU, gwella bywydau ac adeiladu'r dyfodol.
Fel rhan o hyn mae addewid i gyhoeddi ystadegau “er budd y cyhoedd”.
Mae hyn yn golygu y bydd y wybodaeth a roddir ganddynt yn galluogi pobl i wneud penderfyniadau mwy hyddysg. Gall y penderfyniadau hyn helpu i fod o fudd i gymdeithas, fel faint o dai sydd eu hangen arnom a nifer y lleoedd sydd eu hangen mewn ysgolion a cholegau.
Gan ein bod yn cynhyrchu ystadegau swyddogol, mae hefyd angen i ni ddilyn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (yn Saesneg).
Dysgwch fwy am y mathau gwahanol o ddata rydym yn eu casglu a’u defnyddio i gynhyrchu ystadegau ar ein tudalennau Beth yw data? a Beth yw data gweinyddol a data cysylltiol?