Yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), rydym yn casglu data ar ystod eang o bynciau ac o ffynonellau gwahanol. Mae hyn yn cynnwys data o'n harolygon ein hunain, yn ogystal â data sydd eisoes yn bodoli a gaiff eu casglu gan sefydliadau eraill ym mhob rhan o'r DU.
Mae rhai o'r ffynonellau data hyn yn cynnwys yr hyn a elwir yn ddata gweinyddol. Rydym yn cymryd y data hyn ac weithiau'n eu cyfuno â ffynonellau data eraill i greu data cysylltiol. Yna, byddwn yn defnyddio'r holl wybodaeth hon i gynhyrchu ystadegau swyddogol.
Beth yw ystyr data gweinyddol?
Rydym yn defnyddio data gweinyddol i greu rhai o'n hystadegau. Mae sefydliadau yn casglu'r data hyn at eu dibenion gweinyddol neu weithredol eu hunain, a dyma o ble daw'r enw.
Maent yn cynnwys gwybodaeth y bydd pob un ohonom yn ei darparu pan fyddwn yn defnyddio gwasanaethau cyhoeddus fel y systemau treth, budd-daliadau, iechyd ac addysg. Rydym hefyd yn defnyddio data sydd eisoes yn bodoli gan ffynonellau a sefydliadau eraill, fel cyflenwyr cyfleustodau ac archfarchnadoedd.
Er enghraifft, gwnaethom ddefnyddio data ar enedigaethau a marwolaethau cofrestredig ynghyd â data ar iechyd a data o'r cyfrifiad i greu ystadegau am anghydraddoldebau iechyd mewn dosbarthiadau cymdeithasol gwahanol (yn Saesneg), yn seiliedig ar alwedigaeth person. Mae hyn yn galluogi pobl i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth am y ffordd orau o ddyrannu gwasanaethau iechyd mewn cymunedau lleol.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ddata gweinyddol ar wefan Ymchwil Data Gweinyddol y DU (yn Saesneg).
Beth yw ystyr data cysylltiol?
Prif fudd data gweinyddol yw pan gaiff data a grëwyd gan un o adrannau'r llywodraeth neu gan un gwasanaeth cyhoeddus eu cysylltu â data gan rai eraill. Data cysylltiol yw'r enw ar hyn. Rydym yn cysylltu data sydd gennym â ffynonellau data eraill er mwyn nodi patrymau a thueddiadau newydd, a rhagor o wybodaeth am ein hystadegau. Drwy gysylltu data â'i gilydd, rydym yn cyfuno eu hadnoddau ac yn cyfoethogi'r wybodaeth y gallant ei darparu.
Pan fyddwn yn cysylltu data sydd gennym â ffynonellau data eraill, rydym yn gwneud hynny mewn ffordd sy'n diogelu gwybodaeth bersonol unigolion a busnesau.
Gwnaethom ddefnyddio “data cysylltiol” er mwyn helpu i ddeall cyfraddau heintio ymhlith grwpiau gwahanol o'r boblogaeth yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19). Roedd hyn yn cynnwys cyfuno data ar drafnidiaeth gyhoeddus â gwybodaeth o Arolwg Heintiadau'r Coronafeirws (COVID-19) a gynhaliwyd gennym er mwyn hysbysu unigolion sy'n llunio polisïau.
Mwy o wybodaeth am ddata
Dysgwch fwy am sut rydym yn casglu ac yn defnyddio data i gynhyrchu ystadegau ar ein tudalennau Beth yw data? a Beth yw ystadegau a pham maent yn bwysig?