Dysgwch fwy am y data rydym yn eu casglu yn ein fideo ar ganllaw'r SYG ar ddata.

Efallai eich bod wedi sylwi ein bod yn cyfeirio at ddata yn y lluosog yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG). Er ei bod yn gyffredin i bobl ddweud “y data hwn”, mae'n well gennym lynu at y ffurf wreiddiol sef “y data hyn”.

Ffeithiau a ffigurau a gaiff eu casglu gan unigolion a sefydliadau yw data. Gallant gael eu cyflwyno mewn llawer o ffyrdd, fel rhifau, geiriau neu ddelweddau. Mae dau brif fath o ddata – data meintiol a data ansoddol.

Gellir mesur data meintiol fel rhif, fel eich pwysau, eich oedran neu'r pellter rydych yn ei deithio i'r gwaith.

Mae data ansoddol yn cynnwys gwybodaeth sy'n ddisgrifiadol yn hytrach na defnyddio rhifau. Gallai hyn fod yn ateb i gwestiwn mewn arolwg na ellir ei ateb gydag ie neu na, fel “pam ydych chi'n gwneud gwaith di-dâl?”

Mae angen dehongli data cyn y gallant ddod yn wybodaeth ddefnyddiol y gall pob un ohonom ei defnyddio, er enghraifft drwy ystadegau.

Yn y SYG, rydym yn casglu, yn storio, yn prosesu ac yn defnyddio data i gynhyrchu ystadegau swyddogol.

O ble ydym yn cael data?

Rydym yn casglu data am amrywiaeth eang o bynciau, gan gynnwys oedran, rhyw, cyflog a llesiant. Rydym hefyd yn casglu gwybodaeth am bethau fel statws cyflogaeth, yn ogystal â digwyddiadau pwysig mewn bywyd fel genedigaethau, marwolaethau a phriodasau.

Rydym yn gofyn i bobl am y data sydd eu hangen arnom drwy arolygon a'r cyfrifiad a gaiff ei gynnal yng Nghymru a Lloegr bob 10 mlynedd.

Ar ben hyn, rydym hefyd yn defnyddio data sydd eisoes yn bodoli a gaiff eu casglu gan sefydliadau eraill. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth y bydd pobl yn ei rhoi pan fyddant yn defnyddio gwasanaethau cyhoeddus, fel y systemau treth a budd-daliadau. “Data gweinyddol” yw'r enw ar hyn.

Rydym yn cael data gan adrannau'r llywodraeth ganolog, gan gynnwys:

  • yr Adran Gwaith a Phensiynau

  • y Swyddfa Gartref

  • Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi

Rydym hefyd yn cael data gan gyrff cyhoeddus eraill, fel:

  • NHS England

  • awdurdodau lleol

  • yr Awdurdod Ystadegau Addysg Uwch

Byddwn hefyd yn defnyddio rhai ffynonellau data amgen gan sefydliadau masnachol, fel manwerthwyr a chwmnïau trafnidiaeth. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Auto Trader

  • y Rail Delivery Group

  • data sganwyr ar y cam gwerthu gan rai o fanwerthwyr mwyaf y DU, gan gynnwys Co-op

Dysgwch fwy am y mathau gwahanol o ddata rydym yn eu defnyddio ar ein tudalen Beth yw data gweinyddol a data cysylltiol?.

Sut rydym yn defnyddio data i greu ystadegau?

Rydym yn casglu, yn storio, yn prosesu ac yn defnyddio data i gynhyrchu ystadegau. Mae hyn yn cynnwys rhai camau penodol er mwyn sicrhau bod yr ystadegau yn ddibynadwy, yn gyflawn ac yn gyfrinachol.

Er enghraifft, rydym yn glanhau'r data, gan chwilio am unrhyw achosion o ddyblygu neu wallau eraill. Byddwn hefyd yn sicrhau bod data yn ddad-adnabyddedig neu wedi'u hanonymeiddio ar y cam cynharaf posibl. Mae hyn yn golygu tynnu'r holl wybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod unigolyn.

Drwy gydol y broses, diogelwch a chyfrinachedd eich gwybodaeth yw ein prif flaenoriaeth.

Dysgwch fwy am ystadegau a pham maent yn bwysig.