1. Y Swyddfa Ystadegau Gwladol
Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG) yw swyddfa weithredol Awdurdod Ystadegau'r DU. Ni yw cynhyrchydd ystadegau swyddogol annibynnol mwyaf y DU a'r sefydliad ystadegau cenedlaethol cydnabyddedig.
Mae sefydliadau'r llywodraeth, busnesau, elusennau ac academyddion yn dibynnu ar ein hystadegau i wneud penderfyniadau a chynllunio ar gyfer y dyfodol.
Mae casglu gwybodaeth gan gynifer o gartrefi â phosibl yn golygu y gallwn gael darlun cyflawn a chywir o fywyd yn y DU.
Caiff y wybodaeth rydym yn ei chasglu gan ymatebwyr arolygon ei defnyddio i gynhyrchu ystadegau ar:
cyflogaeth
chwyddiant
mudo
Rydym hefyd yn gyfrifol am gynnal y cyfrifiad yng Nghymru a Lloegr.
Caiff eich data eu cadw'n ddiogel. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'r dudalen diogelu data ac astudiaethau am bobl, teuluoedd a chartrefi.
Nôl i'r tabl cynnwys2. Sut rydym yn dewis cartrefi
Ar gyfer rhai o'n harolygon, rydym yn dewis sampl o gartrefi ar hap o Ffeil Cyfeiriadau Cod Post y Post Brenhinol. Mae'r arolygon hyn yn cynnwys y canlynol:
Yr Arolwg Adnoddau Teuluol
Yr Arolwg o Asedau Cartrefi
Yr Arolwg Costau Byw a Bwyd
Yr Arolwg o'r Llafurlu
Yr Arolwg ar Amodau Byw
Ar gyfer arolygon eraill, fel astudiaeth Llywio Yfory, rydym yn defnyddio AddressBase i samplu data ar sail ddaearyddol. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'r dudalen diogelu data ac astudiaethau am bobl, teuluoedd a chartrefi.
Ar ôl i gartref gael ei ddewis, ni ellir dewis cartref arall yn ei le, gan y byddai hyn yn effeithio ar ba mor gynrychioliadol yw'r arolwg.
Bob blwyddyn, mae tua hanner miliwn o bobl yn cymryd rhan yn ein harolygon. Nid oes rhaid i neb gymryd rhan os nad ydynt yn dymuno gwneud hynny, ond mae eich cyfranogiad yn bwysig er mwyn sicrhau y caiff y gymuned gyfan ei chynrychioli.
Nôl i'r tabl cynnwys3. Canllawiau ar gwblhau ein harolygon
Wrth gwblhau un o'n harolygon, byddwn yn casglu gwybodaeth am bawb yn eich cartref mewn perthynas â phynciau fel:
iechyd
tai
cyflogaeth
addysg
hyfforddiant
Fformatau'r arolygon
Caiff ein harolygon eu darparu mewn llawer o fformatau.
Os bydd angen i chi newid fformat eich arolwg oherwydd gofynion hygyrchedd, gallwch wneud cais hygyrchedd.
Arolygon ar-lein
Mae rhai o'n harolygon ar gael i'w cwblhau ar lein. Os cewch eich dewis i gymryd rhan mewn arolwg ar-lein, byddwn yn rhoi dolen i chi mewn llythyr neu e-bost.
Bydd y llythyr hwn hefyd yn cynnwys cod mynediad eich cartref; byddwch yn defnyddio hwn i fewngofnodi.
Gellir cwblhau'r arolygon Llywio Yfory a Ffordd o Fyw dros y ffôn hefyd. Darllenwch yr adran ar arolygon dros y ffôn i gael rhagor o wybodaeth.
Os oes gennych adborth am arolwg ar-lein neu os byddwch wedi colli eich cod mynediad, cysylltwch â ni.
Arolygon wyneb yn wyneb
Caiff rhai o'n harolygon eu cynnal wyneb yn wyneb gan ein cyfwelwyr maes.
Os ydych am gadarnhau bod cyfwelydd yn gyfwelydd gyda'r SYG go iawn:
Gofynnwch am ei rif adnabod unigryw
Arolygon dros y ffôn
Gellir cwblhau rhai arolygon dros y ffôn.
Os byddwch yn cael eich dewis ar gyfer cyfweliad ffôn, y rhif y byddwn yn ei ddefnyddio i'ch ffonio fydd 02392 958 174.
Os hoffech gwblhau'r arolwg Llywio Yfory neu Ffordd o Fyw dros y ffôn, ffoniwch ein Llinell Ymholiadau Arolwg am ddim ar 0800 298 5313.
Yr amseroedd agor yw:
O ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 9am a 6pm
Dydd Sadwrn, rhwng 9am ac 1pm
Bydd cyfwelydd yn cysylltu â chi i drefnu amser addas i gynnal y cyfweliad.
Arolygon papur
Caiff rhai o'n harolygon eu cwblhau ar bapur o hyd. Caiff arolygon fel hyn eu hanfon atoch drwy'r post.
Os byddwch wedi colli eich arolwg papur, cysylltwch â ni.
Nôl i'r tabl cynnwys4. Dyddiadau dychwelyd
Ar gyfer rhai arolygon, mae'r amserlen ar gyfer cynhyrchu data yn fyr iawn er mwyn rhoi syniad cynnar o beth sy'n digwydd yn yr economi.
Nodiadau atgoffa am arolygon
Gan fod llawer o'n nodiadau atgoffa yn cael eu hanfon drwy'r post, mae'n bosibl y bydd nodyn atgoffa ar ei ffordd atoch cyn i'n system roi gwybod i ni eich bod wedi cwblhau'r arolwg.\ Gellir anfon nodiadau atgoffa drwy e-bost yn awtomatig hefyd os caiff holiadur ei ddychwelyd yn agos at y dyddiad dychwelyd.
Os byddwch yn cael nodyn atgoffa ar gyfer arolwg rydych eisoes wedi'i gwblhau, nid oes angen i chi gymryd unrhyw gamau pellach.
Nôl i'r tabl cynnwys5. Diogelu data
I gael gwybodaeth am eich hawliau a sut rydym yn prosesu eich data, ewch i'r dudalen Diogelu data ac astudiaethau am bobl, teuluoedd a chartrefi.
Nôl i'r tabl cynnwys6. Dychwelyd i'r arolwg
Os ydych wedi cael gwahoddiad i gwblhau arolwg, ewch i'r dudalen Canfod astudiaethau am bobl, teuluoedd a chartrefi.
Nôl i'r tabl cynnwys7. Cysylltu â ni
Os bydd gennych unrhyw ymholiadau, os byddwch am roi adborth neu os bydd angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â ni.
Nôl i'r tabl cynnwys