1. Adroddiad cryno ar gyfer pobl ifanc
Rydym wedi cynhyrchu adroddiad cryno sy'n addas i bobl ifanc ar gyfer cyfranogwyr yr ymchwil a phobl ifanc eraill sydd â diddordeb, Beth mae pobl ifancyn ei feddwl am rannu eu safbwyntiau â Llywodraeth y Deyrnas Unedig? (PDF 141KB).
Nôl i'r tabl cynnwys2. Prif bwyntiau
Nid oedd y bobl ifanc a gymerodd ran yn y grwpiau ffocws o reidrwydd yn gwahaniaethu rhwng gwleidyddiaeth, gwleidyddion, nac adrannau a sefydliadau'r llywodraeth, gan adlewyrchu diffyg gwybodaeth am y llywodraeth ac, i rai, amharodrwydd cysylltiedig i gymryd rhan mewn ymchwil y llywodraeth.
Er i'r cyfranogwyr fynegi awydd i helpu i wella gwasanaethau i bobl ifanc drwy rannu eu safbwyntiau â'r llywodraeth, roeddent o'r farn nad oedd y sianeli ymgysylltu presennol yn addas ar gyfer anghenion pobl ifanc.
Trafododd y bobl ifanc bwysigrwydd cyfathrebu canlyniadau ymchwil a'u heffaith yn glir, er mwyn iddynt deimlo bod eu cyfraniadau'n ystyrlon.
Disgrifiwyd y cyfryngau cymdeithasol fel dull defnyddiol o ymgysylltu â phobl ifanc ynghylch gwerth a diben ymchwil, ond nid oeddent yn cael eu hystyried yn gyfrwng difrifol nac addas ar gyfer gwahodd pobl i gymryd rhan.
Ystyriwyd bod lleoliadau wyneb yn wyneb a lleoliadau dibynadwy, megis ysgolion a chanolfannau cymunedol, yn bwysig er mwyn galluogi pobl ifanc i deimlo'n gyfforddus wrth rannu eu safbwyntiau, yn enwedig lle mae pobl ifanc eraill yn ymwneud â hwyluso'r ymchwil hon.
Y cam cyntaf mewn prosiect ehangach yw'r ymchwil darganfod hon, sy'n ceisio gwella dealltwriaeth o’r credoau sylfaenol sy'n dylanwadu ar y ffordd y mae pobl ifanc yn ymgysylltu ag ymchwil a arweinir gan y llywodraeth. Mae'r gwaith yn cael ei wneud i lywio’r Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth ac fe'i datblygwyd i adlewyrchu anghenion ar draws adrannau'r llywodraeth. Mae'r canfyddiadau yn yr adroddiad hwn yn canolbwyntio ar ddarparu mewnwelediad i sut mae pobl ifanc yn teimlo a pham, yn hytrach nag argymell newidiadau i arolygon neu arferion casglu data eraill.
At ddibenion yr adroddiad ymchwil hwn, mae'r term 'cyfranogwyr iau' yn cyfeirio at bobl ifanc 11 i 15 oed a gymerodd ran yn ein grwpiau ffocws, tra bo'r term 'cyfranogwyr hŷn' yn cyfeirio at bobl ifanc 16 i 24 oed.
3. Dealltwriaeth o lywodraeth a gwleidyddiaeth
Roedd gan y bobl ifanc y siaradom â hwy lefelau amrywiol o ddealltwriaeth o wleidyddiaeth a sefydliadau'r llywodraeth a'r ffordd y maent yn rhyngweithio, ac roeddent yn ei chael yn anodd gwahaniaethu rhwng rolau a chyfrifoldebau gwahanol adrannau'r llywodraeth. Disgrifiodd y bobl ifanc hefyd eu bod yn fwy ymwybodol o wleidyddiaeth ryngwladol nag o wleidyddiaeth ddomestig. Adlewyrchir lefel gwybodaeth ddinesig y cyfranogwyr a'u credoau a'u canfyddiadau sylfaenol am wleidyddiaeth a'r llywodraeth yn y safbwyntiau a rannwyd ganddynt ynghylch ymgysylltu ag ymchwil a arweinir gan y llywodraeth.
Gwybodaeth ddinesig
Disgrifiodd y cyfranogwyr eu bod yn cael y rhan fwyaf o'u hymwybyddiaeth o wleidyddiaeth drwy'r cyfryngau cymdeithasol a'r rhyngrwyd. Er y dywedwyd y mae trafodaethau am y llywodraeth a gwleidyddiaeth ddomestig yn brin yn yr ysgol neu yn y cartref, disgrifiodd y cyfranogwyr eu bod yn cael gwybodaeth am wleidyddiaeth ryngwladol drwy drafodaethau wyneb yn wyneb, yn ogystal â thrwy'r cyfryngau cymdeithasol. Dywedodd y cyfranogwyr nad oeddent yn siŵr beth yw ystyr gwleidyddiaeth na sut y mae'n ymwneud â systemau a sefydliadau'r llywodraeth. Daeth hyn yn amlwg pan oedd y cyfranogwyr yn defnyddio'r termau hyn yn gyfnewidiol drwy gydol y grwpiau ffocws.
I mi, mae'r cyfan yn un endid mawr.
Roedd y cyfranogwyr iau (11 i 15 oed) o'r farn nad yw gwleidyddiaeth ddomestig yn rhan o'u bywydau ac, felly, nad yw o ddiddordeb iddynt. Fodd bynnag, roedd gan y cyfranogwyr fwy o ymwybyddiaeth mewn pynciau a oedd yn cael eu hystyried yn frawychus, megis rhyfeloedd rhyngwladol neu newid hinsawdd, ac roedd ganddynt fwy o ddiddordeb ynddynt. Roeddent hefyd yn fwy ymwybodol o bynciau a oedd yn bwysig iddynt yn bersonol neu i'w teuluoedd. Roedd y cyfranogwyr o'r farn bod y llywodraeth yn blaenoriaethu materion sy'n berthnasol i genedlaethau hŷn ac y dylai ganolbwyntio mwy ar bynciau sy'n bwysig i bobl ifanc.
Ie, rwy'n teimlo bod yna dipyn o ddatgysylltiad. Pan ddaw hi at y llywodraeth, mae'n ymddangos eu bod yn canolbwyntio mwy, o leiaf yn fy marn i, ar oedolion neu bobl hŷn yn hytrach nag ar bobl iau ac rwy'n credu mai dyna pam eu bod fwy na thebyg yn ei chael hi'n anodd gwybod beth rydym ni ei eisiau, oherwydd nad ydynt yn ein hadnabod yn ddigon da.
Dywedodd y cyfranogwyr a oedd yn fwy tueddol o rannu eu safbwyntiau â'r llywodraeth fod dylanwad y teulu yn ffactor pwysig. Awgrymwyd bod dod o deuluoedd sydd â mwy o ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth yn helpu i ddatblygu ymdeimlad o gyfrifoldeb dinesig ac yn annog yr “arfer” o ymgysylltu â'r llywodraeth, gyda gwybodaeth a safbwyntiau yn cael eu trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth.
Rwy'n credu bod y meddylfryd yn cael ei drosglwyddo o un genhedlaeth i'r llall, oherwydd, hyd y gwn i, mae pawb yn fy nheulu gwastad wedi bod felly.
Credoau sylfaenol am wleidyddiaeth a'r llywodraeth
Roedd y bobl ifanc y siaradom â hwy o'r farn y dylai gwleidyddiaeth a'r llywodraeth sicrhau bod pob safbwynt yn cael ei glywed. Fodd bynnag, cyfrannodd diffyg canfyddedig o ran cynrychiolaeth pobl ifanc o fewn sefydliadau'r llywodraeth at gred ymhlith cyfranogwyr iau (11 i 15 oed) nad yw ymgysylltu â'r llywodraeth yn rhywbeth y dylai eu cenhedlaeth hwy boeni amdano, yn enwedig pan nad ydynt eto wedi cyrraedd yr oedran pleidleisio cyfreithiol.
Dwi ddim yn meddwl ei fod mor bwysig â hynny mewn gwirionedd. Mae'n dda gwybod amdano, ond does dim gwir angen i chi wybod amdano nes eich bod chi'n hŷn.
Roedd canfyddiad hefyd bod gwleidyddiaeth yn anhrefnus, ac roedd y bobl ifanc y siaradom â hwy wedi'u gorlethu gan y potensial y gallai gael effeithiau niweidiol ar fywydau pobl gyffredin.
Mae'n dipyn o beth gorlethol. Yn aml, yn enwedig pan fydd materion penodol yn codi sy'n ymwneud â gwleidyddiaeth. Er enghraifft, y mudiad Black Lives Matter a'r mudiad o blaid Palesteina... mae cymaint o bethau lle mae gwleidyddiaeth yn chwarae rhan sy’n fwy negyddol ac yn niweidiol i fywydau go iawn pobl.
Disgrifiodd cyfranogwyr hŷn (16 i 24 oed) ymdeimlad o rwystredigaeth ac anobaith ynghylch gwleidyddiaeth, a oedd yn effeithio ar eu parodrwydd i ymgysylltu â’r llywodraeth. Cyfeiriodd y cyfranogwyr at ganfyddiad o ddirywiad mewn safonau cyhoeddus ac ymdeimlad nad oes modd ymddiried mewn gwleidyddion, gan arwain at ddadrithiad cyffredinol â’r system wleidyddol.
Mae’n teimlo fel pe baent i gyd yr un fath ac yn gweithredu er eu budd eu hunain, ac fel pe baent ond yn poeni am ei gilydd.
Roedd y cyfranogwyr o’r farn nad ydynt yn cael eu cynnwys yn ddigonol mewn ymgyngoriadau ynghylch penderfyniadau sy’n effeithio arnynt ac, pan fyddant yn cael eu cynnwys i rannu eu safbwyntiau, nad yw eu barn yn cael ei chlywed na’i gweithredu. Arweiniodd y gred bod cenedlaethau hŷn yn cael eu blaenoriaethu wrth i'r llywodraeth wneud penderfyniadau at ganfyddiad ymhlith y bobl ifanc y siaradom â hwy fod ymgysylltu’n ofer ac at ymdeimlad cryf eu bod wedi cael eu siomi gan y llywodraeth a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau.
Rwy’n teimlo, wel, yn rhwystredig ac wedi blino, wyddoch chi, pan fydd oedolion yn gwneud penderfyniadau sy’n effeithio ar bobl ifanc ac mae’n teimlo fel nad ydyn ni’n cael ein clywed mewn gwirionedd.
Siaradodd rhai cyfranogwyr yn benodol am sut y byddai teimlo eu bod yn cael eu hanwybyddu yn dylanwadu ar eu penderfyniad i gymryd rhan mewn arolygon a arweinir gan y llywodraeth. Trafododd y cyfranogwyr pwysigrwydd cyfleoedd dilys i rannu eu safbwyntiau, ac roeddent o’r farn y byddai gweld manteision eu cyfraniadau yn cynyddu eu hyder bod cymryd rhan yn werth chweil.
Rwy’n teimlo, pe bawn i’n ymateb iddo, mae’n debyg, fel, na fyddwn i’n cael ymateb, felly fyddwn i ddim yn gwybod a oeddech chi wedi gweld fy ymateb mewn gwirionedd.
Felly hoffwn i glywed am fwy o gyfleoedd i gymryd rhan go iawn mewn pethau, ac nid mewn ffordd sy’n arwynebol yn unig, lle maen nhw’n dweud, ie, rydyn ni’n recriwtio pobl oherwydd ein bod ni eisiau clywed gennych chi a gwneud arolwg, ac yna dydych chi byth yn clywed unrhyw beth arall am hynny eto, ac maen nhw’n dweud, ie, rydyn ni wedi ticio’r blwch. Felly hoffwn i glywed am fwy o bethau gwirioneddol y gallaf eu gwneud i fod yn rhan o’n gwleidyddiaeth, yn hytrach na phleidleisio’n unig, sy’n bwysig, ond ni ddylai fod yr unig ffordd y gallaf ymgysylltu mewn ffordd ystyrlon.
Dywedwyd bod newid pendant ym mholisi’r llywodraeth sy’n effeithio ar bobl ifanc yn arbennig o werthfawr o ran annog ymgysylltu, ond hefyd o ran hwyluso canfyddiadau mwy cadarnhaol o’r llywodraeth a meithrin ymddiriedaeth yn y sefydliadau hyn.
Hwylusydd: Beth allai ddechrau eich helpu i feithrin ymddiriedaeth?
Cyfranogwr 1: Newid rhai polisïau a fyddai wir yn helpu ein cenhedlaeth ni. Fel, gwneud rhywbeth go iawn. Fel, unrhyw dystiolaeth eu bod yn gwneud rhywbeth.
Cyfranogwr 2: Ie, gweithredu yn hytrach na geiriau.
Mewn ymateb i deimlo eu bod yn cael eu hanwybyddu ac nad oedd eu barn yn cael ei chlywed gan y llywodraeth, awgrymodd y cyfranogwyr fod pobl ifanc yn dewis fwy a mwy i rannu eu safbwyntiau y tu allan i lwybrau traddodiadol, gan gynnwys pleidleisio ac ymchwil a arweinir gan y llywodraeth. Roedd y cyfranogwyr o’r farn bod pobl ifanc yn gweld mwy o werth mewn protestiadau ac arddangosiadau, ac yn troi fwy a mwy atynt fel ffordd o bwyso am newid.
Mae [pobl ifanc] yn teimlo nad yw pleidleisio drwy ddarn o bapur, drwy ryw fath o gyswllt ffurfiol neu rywbeth, yn eu helpu i gyfleu eu neges. Felly maen nhw’n troi at, chi’n gwybod, yr unig ddulliau maen nhw’n teimlo y gallan nhw gael eu clywed drwyddyn nhw, sef, chi’n gwybod, protestio’n weithredol, cymryd rhan mewn arddangosiadau, chi’n gwybod, ac wrth gwrs mae ganddyn nhw’r hawl i wneud hynny.
4. Ffactorau sy’n dylanwadu ar ymgysylltiad pobl ifanc ag ymchwil a arweinir gan y llywodraeth
Cyfeiriodd y bobl ifanc y siaradom â hwy at amrywiaeth o ffactorau a oedd yn dylanwadu ar eu parodrwydd i ymgysylltu ag ymchwil y llywodraeth, pa mor gyfforddus oeddent wrth wneud hynny, a'u parodrwydd i rannu eu safbwyntiau. Roedd hyn yn cynnwys eu credoau sylfaenol am wleidyddiaeth a'r llywodraeth, a drafodwyd yn flaenorol, ochr yn ochr â'r canlynol:
pwysigrwydd canfyddedig o bwnc yr ymchwil
lefel eu hyder a'u hofnau ynghylch cymryd rhan
y dull ymgysylltu a'r deunyddiau a ddefnyddiwyd
rôl y cyfryngau cymdeithasol wrth ymgysylltu ag ymchwil
y defnydd o leoliadau dibynadwy i hwyluso ymgysylltiad ystyrlon
Roedd gan gyfranogwyr mewn gwahanol grwpiau oedran safbwyntiau gwahanol mewn rhai meysydd. Er enghraifft, roedd gan gyfranogwyr iau (11 i 15 oed) ymdeimlad cryf o gyfrifoldeb dinesig, ond nid oeddent yn teimlo bod ganddynt ddigon o wybodaeth i gyfrannu at ymchwil a arweinir gan y llywodraeth; tra oedd cyfranogwyr hŷn (16 i 24 oed) yn teimlo wedi'u dadrithio â'r llywodraeth ac yn llai tueddol o gymryd rhan mewn ymchwil a arweinir gan y llywodraeth. Nodir yn yr adrannau canlynol enghreifftiau lle nad oedd y canfyddiadau'n gyffredinol, ond yn benodol i gyfranogwyr iau neu hŷn.
Pwysigrwydd a pherthnasedd canfyddedig ymchwil gan y llywodraeth
Disgrifiodd y cyfranogwyr yr angen am fudd clir, tymor byr, boed yn bersonol neu'n gyhoeddus, o gymryd rhan mewn ymchwil a arweinir gan y llywodraeth. Roeddent o'r farn ei bod yn bwysig i'r llywodraeth amlygu sut mae ymchwil yn berthnasol i fywydau pobl ifanc, a'r manteision posibl y gallai cymryd rhan eu cynnig.
Rwy’n credu y [dylid] fwy na thebyg flaenoriaethu hynny, efallai drwy esbonio sut y byddai o fudd i’r bobl ifanc sy’n llenwi’r ffurflenni hyn.
Awgrymodd y cyfranogwyr y byddai perthnasedd canfyddedig o bwnc yr ymchwil yn dylanwadu ar eu hymgysylltiad, a dywedwyd y byddent yn fwyaf tebygol o anwybyddu arolwg nad oedd yn teimlo’n berthnasol i’w bywydau bob dydd. Dywedwyd bod ymchwil gan adrannau’r llywodraeth yr oeddent yn eu cydnabod fel rhai sy’n cynnig budd cyhoeddus, megis iechyd neu drafnidiaeth, yn fwy tebygol o’u hannog i rannu eu gwybodaeth, gan ei bod yn fwy amlwg i’r cyfranogwyr at ba ddiben y byddai eu data’n cael eu defnyddio.
Rwy’n gwybod beth yw [y Cyfrifiad] a pha ystadegau maen nhw’n ceisio eu casglu, ond dwi ddim yn gwybod sut mae hynny o fudd i mi fel dinesydd ar ôl iddo gael ei gwblhau.
Yn gysylltiedig â’r canfyddiad bod y llywodraeth yn blaenoriaethu cenedlaethau hŷn, trafododd cyfranogwyr iau (11 i 15 oed) eu hawydd i’r llywodraeth ofyn yn fwy uniongyrchol am y pethau sydd bwysicaf iddynt, gan gynnwys iechyd meddwl, addysg a phryderon sy’n gysylltiedig â’r cyfryngau cymdeithasol.
Rwy’n credu y dylai’r llywodraeth ofyn i bobl ifanc fel fi am effeithiau ein bywyd bob dydd, fel straen yn yr ysgol, cymorth iechyd meddwl, gweithgareddau ar ôl ysgol a sut mae’r cyfryngau cymdeithasol yn effeithio arnom ni... oherwydd mae’n bwysig iawn i ni a gall wneud gwahaniaeth mewn gwirionedd.
Amser ac ymdrech
Roedd pryder ynghylch perthnasedd personol a manteision posibl cymryd rhan yn gysylltiedig â’r amser a’r ymdrech sydd eu hangen i gwblhau arolygon ac ymarferion casglu data. Roedd y cyfranogwyr yn ei chael yn anodd cyfiawnhau treulio amser ar rywbeth yr oeddent o’r farn ei fod yn amherthnasol, yn enwedig pan oeddent yn poeni mwy am flaenoriaethau eraill, gan gynnwys eu haddysg a’u hiechyd meddwl.
Mae gan bobl ifanc lawer gormod o broblemau dybryd yn eu bywydau eu hunain i... geisio ysgwyddo’r baich o, wyddoch chi, geisio cymryd rhan ar raddfa ehangach a cheisio cael effaith.
Dywedwyd bod hwylustod yn dylanwadu ar barodrwydd pobl ifanc i rannu eu safbwyntiau. Awgrymodd y cyfranogwyr y byddai ymarferion casglu data nad ydynt yn cymryd llawer o amser ac sy’n cael eu cynnal mewn lleoedd lle maent eisoes ynddynt yn eu hannog i gymryd rhan.
Byddwn i fwy na thebyg yn fwy tueddol o lenwi hynny pe bai’n dasg yr oedd y llywodraeth efallai wedi’i his-gontractio i ysgolion a phrifysgolion ei llenwi, ac, wyddoch chi, pe bai wedi cael ei rhannu’n gyflym fel rhywbeth dau funud, os yw hynny’n gwneud synnwyr.
Cosbau a chymhellion
Roedd tynnu sylw at ddirwyon posibl am beidio â chwblhau arolygon gorfodol (megis ar lythyr gwahoddiad y Cyfrifiad) yn cael ei ystyried yn negyddol fel "codi ofn" (16 i 24 oed), ond roedd hefyd yn cael ei ystyried yn effeithiol o ran annog pobl i gymryd rhan. Ystyriwyd bod cymhellion yn ffordd o ad-dalu pobl ifanc am eu hamser ac yn fwy priodol na dirwyon.
Yn hytrach na bygwth cymryd arian oddi arnynt, efallai y byddai rhyw fath o gymhelliant yn fwy tebygol o’u hannog.
Fodd bynnag, cododd y cyfranogwyr bryderon hefyd ynghylch defnyddio cymhellion ariannol, gan gwestiynu a yw hynny’n ddefnydd effeithiol o arian trethdalwyr, yn ogystal ag a allai effeithio ar ddilysrwydd yr ymatebion ac ar ganlyniadau cyffredinol yr arolwg.
Pan fydd cymhellion ynghlwm wrth bethau mewn gwirionedd, dydyn ni ddim yn gwybod sut y bydd pobl yn ymateb i’r pethau hynny, oherwydd gallant roi unrhyw fanylion ar hap dim ond er mwyn cael gafael ar y cymhellion.
Cyfrifoldeb dinesig
Roedd rhai cyfranogwyr yn teimlo bod yr angen am gymhellion, ochr yn ochr ag awydd am hwylustod mewn ymarferion casglu data, yn adlewyrchu’r ffaith bod pobl ifanc yn canolbwyntio mwy ar flaenoriaethau unigol yn hytrach na blaenoriaethau cyfunol a chymdeithasol, o gymharu â chenedlaethau blaenorol. Dywedwyd bod yr unigoliaeth hon yn ymwneud yn rhannol â newid mewn blaenoriaethau, a ddeilliodd o ganfyddiad o gynnydd mewn caledi ariannol, ansicrwydd cyflogaeth a dirywiad yn iechyd meddwl cenedlaethau iau.
Roedd dod yn sefydlog yn ariannol a byw bywyd gweddol sefydlog yn arfer bod yn llawer haws hefyd. Felly, gan fod hynny wedi mynd yn anoddach, rwy’n credu bod blaenoriaethau pobl ifanc hefyd wedi newid yn sgil hynny.
Er eu bod yn teimlo’n ansicr ynghylch y system wleidyddol ac yn gweld gwleidyddiaeth a’r llywodraeth fel rhywbeth sy’n bennaf ar gyfer cenedlaethau hŷn, roedd cyfranogwyr iau (11 i 15 oed) hefyd o'r farn bod cymryd rhan mewn ymchwil a arweinir gan y llywodraeth yn “y beth iawn i’w wneud” (11 i 15 oed) er mwyn gwella pethau i’w cenhedlaeth. Pan ofynnwyd iddynt pam y byddent yn cwblhau arolwg gan y llywodraeth, dywedodd un cyfranogwr:
Er mwyn helpu’r llywodraeth i wella pethau i bobl ifanc.
Hyder ac ofn gwneud camgymeriadau
Dywedodd cyfranogwyr iau (11 i 15 oed) nad oeddent yn teimlo bod ganddynt ddigon o wybodaeth i ymgysylltu mewn ffordd ystyrlon ag ymchwil a arweinir gan y llywodraeth, ac roeddent yn pryderu ynghylch camddeall cwestiynau arolwg a rhoi ymatebion nad oeddent yn cyfleu eu safbwyntiau’n gywir. Nid oedd hon yn thema a gododd mewn grwpiau ffocws gyda chyfranogwyr hŷn (16 i 24 oed).
Gallech chi gamddeall y cwestiwn a gwneud llanast o’r ateb.
Roedd ofnau ynghylch deall cwestiynau a gwneud camgymeriadau yn cael eu dwysáu gan bryder ynghylch y cyfrifoldeb o gyfrannu at ymchwil a arweinir gan y llywodraeth, a oedd yn cael ei hystyried yn ddifrifol ac yn rhywbeth a allai arwain at benderfyniadau a newidiadau mawr a fyddai’n effeithio ar gymdeithas.
Gallai fod, fel, yn benderfyniad mawr. Gallen nhw ofyn rhywbeth mawr iawn i chi ac efallai na fyddech chi’n gwybod beth i’w ddweud... Gallech chi, fel, wneud camgymeriad mawr ar ddamwain. Fel, gallech chi ddweud rhywbeth nad oeddech chi’n bwriadu ei ddweud. Neu... efallai y byddech chi’n dweud pwynt gwahanol i’r hyn roeddech chi’n ceisio’i ddweud mewn gwirionedd.
Cododd cyfranogwyr iau (11 i 15 oed) bryderon ynghylch teimlo eu bod yn cael eu beirniadu am eu barn neu eu hymatebion i arolygon, yn enwedig pan fydd data’n cael eu casglu wyneb yn wyneb, er enghraifft, mewn ysgol. Mynegodd y cyfranogwyr awydd i ddysgu mwy am wleidyddiaeth a’r llywodraeth, yn enwedig am bynciau yr oeddent o’r farn eu bod yn effeithio’n uniongyrchol ar eu bywydau, fel y gallent deimlo’n fwy hyderus wrth rannu eu safbwyntiau.
Gallai llawer o bobl hefyd, fel, feirniadu eich barn, ac efallai na fyddech chi’n teimlo’n gyfforddus oherwydd, fel, bod athrawon yno a bod mwy o fyfyrwyr yno na fyddai, fel, yn hoffi eich barn.
Rwyf hefyd yn teimlo’n chwilfrydig, hynny yw, ac ychydig yn ddryslyd. Fel, rwyf eisiau deall mwy am beth sy’n digwydd a sut mae’n effeithio ar fy mywyd, wyddoch chi.
Ymddiriedaeth a diogelwch data
Siaradodd cyfranogwyr hŷn (16 i 24 oed) am bryderon ynghylch diogelwch data yn effeithio ar eu hymddiriedaeth mewn ymchwil a arweinir gan y llywodraeth. Soniodd cyfranogwyr am ofn sgamiau ar-lein, gyda chyfranogwyr yn disgrifio anghysur ynghylch cael negeseuon testun (SMS) neu gyfathrebiadau drwy’r cyfryngau cymdeithasol, oni bai eu bod yn dod o gyfrif swyddogol gan y llywodraeth.
Mae llwyth o sgamiau, felly rwy’n anwybyddu negeseuon testun fel arfer.
Oni bai ei fod, fel, wedi’i bostio gan dudalen swyddogol, fel tudalen gan y llywodraeth, a’i bod, fel, wedi’i dilysu gan Instagram, TikTok, beth bynnag. Fyddwn i ddim, fyddwn i ddim yn ymddiried mewn unrhyw god QR a oedd newydd gael ei roi ar y cyfryngau cymdeithasol.
Roedd hyn yn arwydd o ddiffyg ymddiriedaeth mewn mannau ar-lein yn fwy cyffredinol, gan gynnwys gwybodaeth a geir drwy’r cyfryngau cymdeithasol. Cyfeiriodd y cyfranogwyr at gamwybodaeth ar-lein ac at deimlo’n ansicr ynghylch beth oedd yn ddibynadwy, ond hefyd at deimlo nad oeddent yn gallu derbyn negeseuon yn glir pan oeddent wedi’u gorlethu gan wybodaeth.
Byddwn i hefyd yn dweud bod cymaint o gamwybodaeth a hefyd ormodedd o wybodaeth, gyda’r cyfryngau cymdeithasol a gwefannau newyddion a phopeth y mae pobl yn ei weld drwy’r amser, mae hi'n anodd gwneud penderfyniadau.
Roedd y bobl ifanc y siaradom â hwy yn pryderu ynghylch diogelwch data personol ac yn disgrifio ofn achosion o dorri diogelwch data, yn enwedig pan ofynnid iddynt rannu gwybodaeth bersonol ar gyfer ymarferion casglu data gan y llywodraeth.
Rwy’n credu, pe bai rhywun yn gofyn i mi [gwblhau’r Cyfrifiad], os mai gwybodaeth sylfaenol oedd hi, byddwn i’n fwy na pharod i’w wneud, ond pe baent yn gofyn am wybodaeth fwy personol a phethau, byddech chi ychydig yn fwy petrusgar. Hyd yn oed pe baent yn dweud y byddai’n ddienw, byddech chi’n betrusgar rhag ofn y byddai achos o dorri diogelwch data neu rywbeth, a bod eich gwybodaeth yn cael ei datgelu.
Dulliau a deunyddiau ymgysylltu
Dywedodd y cyfranogwyr fod y dulliau y mae’r llywodraeth yn eu defnyddio i gysylltu â phobl ifanc yn dylanwadu ar eu parodrwydd i gymryd rhan. Fodd bynnag, ar draws y grwpiau ffocws, dangoswyd bod gwahanol ddulliau yn apelio at wahanol bobl ifanc ac yn cael eu hystyried yn ddibynadwy ganddynt, waeth beth oedd eu grŵp oedran fel cyfranogwyr.
Dywedwyd bod ymateb i arolygon a anfonir drwy’r post yn cymryd llawer o amser ac ymdrech. Fodd bynnag, awgrymodd y cyfranogwyr, gan fod derbyn post yn beth prin i bobl ifanc, y byddent yn fwy tebygol o’i gymryd o ddifrif, yn enwedig o’i gymharu ag e-byst, yr oeddent yn dweud eu bod eisoes yn cael gormod ohonynt.
Am ryw reswm, byddai’n teimlo’n fwy difrifol, wn i ddim a yw hynny’n gwneud synnwyr. Oherwydd nad yw pethau’n dod drwy’r post mewn gwirionedd, heblaw am ambell eithriad, byddwn i’n ei gymryd ychydig yn fwy o ddifrif, ond hefyd, ie, byddwn i’n gwneud yn siŵr fy mod i’n ei gwblhau cyn gynted â phosibl.
Er bod negeseuon testun (SMS) yn gysylltiedig â phryderon ynghylch sgamiau, roeddent hefyd yn cael eu hystyried yn ddull effeithiol o gyrraedd pobl ifanc, gan eu bod yn cael eu hystyried yn sianel gyfathrebu na ddefnyddir yn aml, ac felly roedd yn llai tebygol y byddai negeseuon yn mynd ar goll ymhlith negeseuon eraill. Teimlwyd hefyd y byddai negeseuon testun yn fwy priodol na defnyddio WhatsApp, a oedd yn cael ei ystyried yn sianel gymdeithasol yn hytrach nag un swyddogol.
Efallai y byddai SMS yn effeithiol mewn gwirionedd oherwydd ei fod yn dal i ymddangos ar frig eich, fel, negeseuon diweddaraf, fel petai, yn hytrach na mynd ar goll mewn e-byst.
Trafododd y cyfranogwyr bwysigrwydd bod deunyddiau ymgysylltu yn ymddangos yn ffurfiol ac yn ddifrifol. Dywedwyd bod deunyddiau sy’n cynnwys logos swyddogol ac enwau sefydliadau adnabyddadwy, yn enwedig ar draws y llywodraeth, yn ymddangos yn orfodol yn hytrach nag yn ddewisol, ac felly’n annog pobl ifanc i’w cymryd o ddifrif.
Hefyd, pan mae’r logo arno rywle ar y blaen, hyd yn oed wrth weld hynny, byddwn i’n meddwl, iawn, mae hyn yn ddifrifol.
Trafododd cyfranogwyr iau hefyd bwysigrwydd defnyddio iaith syml a chlir, er mwyn lleihau eu hofnau ynghylch camddeall cwestiynau a rhoi ymatebion anghywir, fel y trafodwyd yn yr adran flaenorol: Hyder ac ofn gwneud camgymeriadau.
Dylai’r arolwg gynnwys geiriau y gallai rhywun rhwng, fel, 11 a, fel, 13 oed eu deall. Fel, dim, fel, geiriau gwyddonol, oherwydd efallai na fydd pobl yn eu deall.
Cyfryngau cymdeithasol
Disgrifiodd y cyfranogwyr yr angen am sianeli cyfathrebu mwy hygyrch rhwng pobl ifanc a’r llywodraeth, ac roeddent o’r farn bod gan gyfryngau cymdeithasol rôl i’w chwarae. Dywedodd y cyfranogwyr y byddai’n ddefnyddiol iddynt wylio fideo o rywun yn siarad am ei brofiadau o ymgysylltu ag ymchwil a arweinir gan y llywodraeth, gan gynnwys yr hyn a wnaeth a’i fyfyrdodau ar y broses. Dywedwyd hefyd, y dylid pwysleisio pam y mae rhannu eu safbwyntiau yn bwysig a’r hyn y gallai helpu i’w gyflawni.
Os yw’r llywodraeth eisiau annog pobl, pobl ifanc, i wneud hynny, yna dylai gael pobl... i siarad ar-lein am eu profiad, oherwydd rwy’n credu y bydd hynny’n fwy effeithiol.
Y peth pwysicaf, byddwn i’n ei ddweud, yw bod eich barn yn bwysig. Gall wneud gwahaniaeth go iawn. Dyna’r peth pwysicaf y byddwn i’n ei gynnwys yn y fideo byr. Felly, bydd pobl ifanc eisiau cymryd rhan.
Dywedwyd bod sicrhau bod cyfathrebiadau ar gyfryngau cymdeithasol yn ddiddorol ac yn apelio at bobl ifanc yn bwysig. Roedd y cyfranogwyr o’r farn, er y byddai cynnwys dylanwadwyr yn helpu i wneud negeseuon y llywodraeth ar gyfryngau cymdeithasol yn fwy diddorol, na fyddai hynny’n eu helpu i gymryd y negeseuon o ddifrif.
Os mai rhywun rwy’n ei adnabod, rhywun rwy’n ei ddilyn, ie, byddai’n fwy diddorol, ond fyddwn i ddim wir yn ymddiried ynddo.
Fodd bynnag, ni ystyriwyd bod cyfryngau cymdeithasol yn lle priodol i gael gwahoddiadau na rhannu eu safbwyntiau’n uniongyrchol â’r llywodraeth. Awgrymodd y cyfranogwyr y byddent yn fwyaf tebygol o sgrolio heibio unrhyw godau QR neu wahoddiadau i gwblhau arolygon y byddent yn eu gweld.
Pe bawn i’n gweld [gwahoddiad i gwblhau’r Cyfrifiad] ar Instagram, byddwn i’n meddwl... rwyf yma am reswm. Dydw i ddim yma i weld hyn. Mae fy ngallu i ganolbwyntio eisoes wedi mynd unwaith rwy’n agor rhywbeth ar Instagram. Mae fel, os byddaf yn gweld hynny, dydw i ddim yn mynd i roi sylw iddo. Byddwn i jyst yn meddwl, y rîl Instagram nesaf, plîs.
Lleoliadau cyfarwydd
Trafododd y cyfranogwyr bwysigrwydd cynnal ymchwil mewn lleoliadau y mae pobl yn ymddiried ynddynt er mwyn hwyluso’r broses o rannu eu safbwyntiau. Disgrifiodd cyfranogwyr hŷn (16 i 24 oed) leoedd fel siopau coffi, hybiau cymunedol, prifysgolion, ysgolion a cholegau fel lleoedd cyfforddus a chyfleus i annog pobl ifanc i gymryd rhan. Ystyriwyd bod rhyngweithio wyneb yn wyneb yn bwysig er mwyn i gyfranogwyr deimlo’n gyfforddus, ond hefyd i annog cymdeithasu wyneb yn wyneb rhwng cyfoedion.
Rwy’n teimlo bod cyfryngau cymdeithasol yn gwneud i bobl deimlo'n unig. Felly, mae hefyd yn ffordd o, fel, os ydych chi’n annog pobl ifanc i ddod ynghyd mewn un lle, mae hefyd yn beth da iawn i’w wneud, fel, rhywbeth cymdeithasol i'w wneud hefyd.
Trafododd y cyfranogwyr y posibilrwydd o gynnwys cynrychiolwyr y llywodraeth a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn uniongyrchol mewn trafodaethau, er mwyn clywed blaenoriaethau pobl ifanc ganddynt hwy eu hunain ac i ateb ymholiadau.
Gellid efallai gael cynrychiolwyr o adrannau penodol neu gynrychiolwyr y llywodraeth, a fyddai’n cael amser penodol... i siarad â dosbarth.
Roedd y cyfranogwyr hefyd yn ffafrio’r syniad o gael pobl ifanc eraill i hwyluso gweithgareddau casglu data. Roeddent o’r farn y byddai siarad â rhywun o oedran tebyg sy’n gallu uniaethu â’u profiadau yn gwneud i gyfranogwyr deimlo’n fwy cyfforddus ac yn galluogi trafodaethau ystyrlon.
Cael, fel, person ifanc i fynd i siarad â nhw, oherwydd rwy’n teimlo er mwyn cael ymateb da gan rywun, yn enwedig pobl ifanc, mae angen, fel, wyneb ifanc sydd, fel, tua’r un oed â nhw, sydd â barn am y peth hefyd ac sy’n mynd drwy’r un pethau â’r bobl ifanc eraill.
Cododd cyfranogwyr iau (11 i 15 oed) bryderon ynghylch ymgysylltu wyneb yn wyneb, gan ddweud y byddent yn poeni am gael eu beirniadu am eu safbwyntiau gan eu cyfoedion. Arweiniodd hyn at drafodaethau ynghylch pwysigrwydd cymorth wrth ymgysylltu, gyda chyfranogwyr iau am gael cyfle i drafod eu safbwyntiau â’u teuluoedd a’u ffrindiau cyn eu rhannu â’r llywodraeth. Roedd hyn yn gysylltiedig â diffyg hyder ynghylch eu gwybodaeth a’u greddfau, ond hefyd ag awydd i’w safbwyntiau gynrychioli’r cyhoedd ehangach, yn hytrach na nhw eu hunain yn unig.
Felly, fe allech chi, fel, gael barn gan bobl rydych chi’n ymddiried ynddyn nhw, fel eich teulu neu’ch ffrindiau. Felly, fel, mae hynny’n efelychu’r cyhoedd mewn ffordd.
Camau nesaf
Mae cyfraddau ymateb i arolygon cymdeithasol ac ymgysylltiad â'r llywodraeth ar draws pob grŵp demograffig a sector wedi gostwng yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae Understanding Society (2024) wedi nodi bod yfraddau ymateb i arolygon wedi gostwng (Saesneg yn unig) ar gyfer eu holiadur hunangwblhau i bobl ifanc 10 i 15 oed, yn ogystal â chyfraddau ymateb is ymhlith pobl 16 i 21 oed sy'n cwblhau'r arolwg oedolion, o gymharu â grwpiau eraill. Yn yr un modd, odwyd bod cyfraddau ymateb ymhlith plant yn Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr wedi gostwng yn sylweddol (Saesneg yn unig), gan ei gwneud yn anodd casglu digon o ddata i ddiwallu anghenion defnyddwyr (ATCLl, 2023).
Mewn ymateb i'r gostyngiad yng nghyfraddau ymateb i arolygon cymdeithasol, mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (2025) wedi cyhoeddi ei Chynllun Gwella Arolygon Cymdeithasol (Saesneg yn unig), sy'n cynnwys treialu mesurau i gynyddu cyfraddau ymateb ymhlith pobl ifanc.
Nod prosiect Lleisiau Ifanc yw archwilio'r credoau a'r canfyddiadau sy'n sail i safbwyntiau pobl ifanc am ymchwil a arweinir gan y llywodraeth. Wrth ddatblygu'r ymchwil hon, gwnaethom ymgynghori ag arbenigwyr o bob rhan o Lywodraeth y Deyrnas Unedig, y gwledydd datganoledig a'r trydydd sector i helpu llunio ffocws yr ymchwil fel ei fod yn adlewyrchu blaenoriaethau pobl ifanc a'r rhai sy'n gweithio gyda hwy, yn ogystal â bod yn berthnasol i flaenoriaethau polisi.
Mae'r canfyddiadau yn yr adroddiad hwn yn deillio o gam darganfod y prosiect. Ni fwriadwyd i'r cam hwn geisio atebion i heriau gweithredol, ond yn hytrach i ddarparu cyd-destun a helpu i nodi blaenoriaethau ymchwil ar gyfer camau yn y dyfodol. Mae'r gwaith yr adroddir arno yma yn gam cyntaf tuag at ddeall yn well barodrwydd pobl ifanc i ymgysylltu â'r llywodraeth a chymryd rhan mewn ymchwil a arweinir gan y llywodraeth, gan gynnwys:
Beth sy'n eu hatal rhag cymryd rhan
Beth sy'n ennyn eu diddordeb, yn eu cymell ac yn gwneud iddynt deimlo'n ddiogel wrth gymryd rhan
Sut y gellir cefnogi cyfranogiad ystyrlon a hyderus
Bydd camau prosiect Lleisiau Ifanc yn y dyfodol yn ceisio deall safbwyntiau plant a phobl ifanc yn fanylach, gan gynnwys safbwyntiau rhai o wahanol oedrannau, â nodweddion ac amgylchiadau economaidd-gymdeithasol gwahanol ac o bob gwlad yn y Deyrnas Unedig, er mwyn datblygu dealltwriaeth fwy cynnil a chreu mewnwelediadau y gellir gweithredu arnynt. Er mwyn gwneud hynny, byddwn yn cydweithio â phobl ifanc yn ogystal â rhanddeiliaid ar draws y llywodraeth wrth gynllunio, casglu data, dadansoddi ac adrodd ar gam nesaf y gwaith.
Nôl i'r tabl cynnwys5. Geirfa
Gwybodaeth ddinesig
Dealltwriaeth o sut mae systemau gwleidyddol a sefydliadau'r llywodraeth yn gweithredu.
Cyfrifoldeb dinesig
Ymrwymiad gwirfoddol dinasyddion i gymryd rhan yn eu cymuned ac mewn democratiaeth, o bosibl drwy wirfoddoli, cymryd rhan mewn gwasanaeth cymunedol a phleidleisio.
Cyfranogwyr hŷn
Yn yr adroddiad hwn, cyfranogwyr rhwng 16 a 24 oed a gymerodd ran yn y trafodaethau grŵp ffocws.
Cyfranogwyr iau
Yn yr adroddiad hwn, cyfranogwyr rhwng 11 a 15 oed a gymerodd ran yn y trafodaethau grŵp ffocws.
Nôl i'r tabl cynnwys6. Ffynonellau data ac ansawdd
Roedd yr ymchwil darganfod hon yn cynnwys sampl o 33 o bobl ifanc rhwng 11 a 24 oed, o bob rhan o bedair gwlad y Deyrnas Unedig. Cafodd y bobl ifanc eu recriwtio i adlewyrchu poblogaeth y Deyrnas Unedig yn fras. Recriwtiodd Acumen Fieldwork gyfranogwyr drwy ei gronfa ddata ymchwil, y cyfryngau cymdeithasol a grwpiau ieuenctid.
Defnyddiwyd dull samplu bwriadus i gynyddu cynrychiolaeth ymhlith grwpiau y mae eu lleisiau yn aml yn cael eu tangynrychioli. Roedd y ffrâm samplu yn canolbwyntio ar sicrhau amrywiaeth o nodweddion personol, gan gynnwys:
Oedran
Rhyw
Ethnigrwydd
Cyflyrau iechyd meddwl a chorfforol hirdymor
Lleoliadau gwledig a threfol
Y rhai sydd fel arfer yn ymgysylltu llai ag ymchwil
Cynhaliwyd y grwpiau ffocws gan ein partner ymchwil, Hopkins Van Mil. Cynhaliwyd tri ohonynt wyneb yn wyneb, yn Llundain, Manceinion ac Abertawe, a chynhaliwyd dau ohonynt ar-lein. Hwyluswyd pob grŵp ffocws yn Saesneg.
Dilynodd y trafodaethau ganllaw pynciau hyblyg a oedd yn cynnwys sawl elfen ryngweithiol. Gwahoddwyd pobl ifanc i ddweud sut y byddent yn ymateb i amrywiaeth o wahoddiadau i gymryd rhan mewn arolygon, defnyddio detholiad o ddelweddau i hwyluso trafodaethau am sut roeddent yn teimlo am wleidyddiaeth a'r llywodraeth, a defnyddio nodiadau gludiog (ar bapur neu ar-lein) i ddisgrifio'r rhwystrau a'r cymhellion i ymgysylltu ag ymchwil a arweinir gan y llywodraeth. Yn olaf, gofynnwyd iddynt greu'r hyn yr oeddent yn ei ystyried yn strategaeth briodol a hygyrch i annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn arolwg gan y llywodraeth.
Rhoddodd cyfranogwyr ac oedolyn dibynadwy gydsyniad ysgrifenedig i bob person ifanc a gymerodd rhan. Cafodd y grwpiau ffocws eu recordio gyda chydsyniad y cyfranogwyr a'u trawsgrifio gair am air. Dadansoddwyd y trawsgrifiadau gan ddefnyddio codio agored, disgrifiadol, a threfnwyd y codau cychwynnol yn fframwaith codio. Defnyddiwyd y fframwaith hwn ar gyfer dadansoddiad thematig ym meddalwedd NVivo 14, a datblygwyd ac addaswyd y codau ymhellach wrth i'r dadansoddiad fynd rhagddo.
Hoffai'r Tîm Ymchwil Cynhwysol yn y Ganolfan Cydraddoldebau a Chynhwysiant ddiolch i'n partneriaid ymchwil, Hopkins Van Mil, am eu gwaith drwy gydol camau cwmpasu a chasglu data'r ymchwil hon. Hoffem hefyd ddiolch i'r sefydliadau a helpodd i nodi a recriwtio cyfranogwyr.
Nôl i'r tabl cynnwys7. Dyfynnu’r erthygl hon
Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS), cyhoeddwyd 17 Medi 2026, gwefan y SYG, erthygl, Safbwyntiau plant a phobl ifanc ar rannu eu barn a’u gwybodaeth â Llywodraeth y Deyrnas Unedig: Mawrth 2026