Marwolaethau yn ymwneud ag MRSA, Cymru: 2013

Mae’r datganiad hwn yn cynnwys yr ystadegau diweddaraf (2013) am farwolaethau yn ymwneud ag MRSA yng Nghymru. Dosbarthwyd y data yn ôl rhyw, grŵp oedran a lleoliad y farwolaeth.

Nid hwn yw'r datganiad diweddaraf. Gweld y datganiad diweddaraf

Cyswllt:
Email Olugbenga Olatunde

Dyddiad y datganiad:
3 September 2014

Cyhoeddiad nesaf:
3 Medi 2015

1. Canfyddiadau allweddol

  • Gwelwyd gostyngiad o 34% ar y flwyddyn flaenorol yn nifer y tystysgrifau marwolaeth a oedd yn crybwyll Staffylococws awrëws sy'n gwrthsefyll Metisilin (MRSA), o 29 yn 2012 i 19 yn 2013

  • O’r 19 tystysgrif marwolaeth a oedd yn crybwyll MRSA, roedd 9 ohonynt (47%) hefyd yn nodi mai’r germ hwn oedd achos waelodol y farwolaeth

  • Mae gostyngiad wedi bod yn nifer y marwolaethau sy’n ymwneud ag MRSA ers uchafbwynt yn 2005. Yn 2013, y gyfradd wedi’i safoni yn ôl oedran ar gyfer marwolaethau yn crybwyll MRSA oedd 6.3 am bob miliwn o’r boblogaeth, o gymharu â 40.2 y filiwn yn 2005

  • Yn y cyfnod 2009–13, marwolaethau yn ymwneud ag MRSA oedd 0.1% o’r holl farwolaethau a 0.2% o’r holl farwolaethau yn ysbytai’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG)

Nôl i'r tabl cynnwys

2. Crynodeb

Math o facteria Staffylococws sy’n gwrthsefyll gwrthfiotigau o’r enw beta-lactamau yw Staffylococws awrëws sy'n gwrthsefyll Metisilin (MRSA). Gall bacteria Staffylococws awrëws (S. awrëws) beri clefyd sy’n amrywio o fod yn ysgafn i beryglu bywyd os caiff gyfle i fynd i mewn i’r corff drwy doriad yn y croen neu drwy driniaeth sy’n gofyn am ddyfais feddygol fewnwthiol.

Mae’r bwletin hwn yn cyflwyno’r ffigurau diweddaraf ar gyfer marwolaethau lle crybwyllwyd MRSA ar dystysgrif marwolaeth neu lle nodwyd mai dyna oedd achos waelodol y farwolaeth. Cyflwynir ffigurau Cymru ac fe’u dosbarthwyd yn ôl rhyw, grŵp oedran a lleoliad y farwolaeth. Caiff data 2013 ei gymharu â data a gyhoeddwyd yn y gorffennol o 1993 ymlaen. Caiff gwybodaeth ei rhoi am gyd-destun a defnydd yr ystadegau, a’r dulliau a ddefnyddiwyd i’w cynhyrchu.

Mae’r ffigurau yn seiliedig ar farwolaethau a gofrestrwyd ymhob blwyddyn galendr yn hytrach na’r rhai a ddigwyddodd ymhob blwyddyn. Gan fod y rhan fwyaf o farwolaethau yn ymwneud ag MRSA a gofrestrwyd yn 2013 hefyd wedi digwydd y flwyddyn honno, mae’n annhebygol y bydd oedi wrth gofrestru yn cael effaith ar y canfyddiadau. Gweler yr adran ar oedi wrth gofrestru i gael rhagor o wybodaeth.

Digwyddodd dau newid pwysig i waith adrodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar farwolaethau MRSA. Yn gyntaf, lleihawyd cwmpas y bwletin blynyddol. Gan gychwyn gyda data 2013, dim ond Cymru y bydd y bwletin yn ei gwmpasu, yn hytrach na Chymru a Lloegr, ac Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru ar y cyd fydd yn talu costau cynhyrchu’r bwletin. Daw hyn yn sgil ymateb i Ymgynghoriad y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar doriadau arfaethedig i nifer o gynnyrch ystadegol, a oedd yn ofynnol gan fod lleihad yng nghyllid y Swyddfa. Mae’r ail newid yn fethodolegol ei natur, ac mae’n ymwneud â defnyddio strwythur a roddwyd ar waith yn ddiweddar i gyfrifo cyfraddau wedi’u safoni yn ôl oedran, sef Poblogaeth Safonol Ewropeaidd 2013 (ESP 2013). Mae’r boblogaeth safonol newydd hon yn disodli ESP 1976, nad yw bellach yn adlewyrchu dosraniad oedran poblogaeth Ewrop. Mae data hanesyddol o 1993 ymlaen wedi ei ailseilio ar ESP 2013. Mae gwybodaeth bellach am y newid hwn ar gael yn yr adran ‘Newidiadau methodolegol’.

Nôl i'r tabl cynnwys

3. Newidiadau methodolegol yn effeithio ar gyfraddau wedi’u safoni yn ôl oedran

Strwythur poblogaeth artiffisial yw’r ESP, a ddefnyddir er mwyn pwysoli data mynychder neu farwolaethau er mwyn rhoi’r cyfraddau wedi’u safoni yn ôl oedran. Gwnaeth Eurostat, swyddfa ystadegol yr Undeb Ewropeaidd, benderfyniad ar ddiwedd 2012 i ddiweddaru’r strwythur poblogaeth hwn.

Mae’r ESP wedi tyfu i fod yn safon fethodolegol sy’n cael ei derbyn ym maes ystadegau iechyd yn y Deyrnas Unedig a gweddill Ewrop, ac fe’i defnyddir i gyfrifo cyfraddau wedi’u safoni yn ôl oedran, a hynny gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, adrannau llywodraeth eraill, y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac ymchwilwyr iechyd academaidd. Cafodd yr ESP a ddefnyddiwyd yng nghyhoeddiadau blaenorol ystadegau MRSA ei chyflwyno am y tro cyntaf ym 1976, ond nid yw bellach yn cynrychioli strwythur oedran poblogaeth Aelod-Wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd. Am y rheswm hwnnw, rhoddodd Eurostat fersiwn newydd o'r ESP ar waith yn 2013. Yn ogystal, mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol, ar ran Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth, wedi cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch sut i roi'r ESP newydd ar waith yn y Deyrnas Unedig (552 Kb Word document) .

Mae ESP 2013 yn rhoi ystyriaeth i newidiadau ym mhoblogaeth yr Undeb Ewropeaidd, gan gynnig sail fwy cyfoes, sy’n fwy methodolegol gadarn ac sy’n cael ei derbyn yn eang, ar gyfer cyfrifo cyfraddau wedi’u safoni yn ôl oedran (Eurostat, 2013). Mae ESP 1976 ac ESP 2013 yn wahanol mewn dwy ffordd. Yn gyntaf, mae ESP 2013 yn rhoi mwy o bwysoliad i boblogaethau mewn grwpiau oedran hŷn nag yr oedd ESP 1976. Yn ail, wrth ddosrannu oedran yn ESP 1976, y grŵp oedran uchaf yw 85 oed a hŷn; mae ESP 2013 yn dadgyfuno’r grwpiau ymhellach fel bod grŵp 85-89, 90-94 a 95+.

Mae adroddiad gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol sy'n archwilio effaith newid yr ESP ar ddata marwolaethau yn dangos fod cyfraddau rhyw-benodol, ar gyfer achosion lle mae marwolaethau yn digwydd yn bennaf mewn oedrannau hŷn, yn sylweddol uwch o dan ESP 2013 o gymharu ag ESP 1976. Y rheswm am hyn yw bod y nifer uwch o bobl hŷn yn ESP 2013 yn uwch eu dylanwad ar y cyfraddau hyn nag ESP 1976. Gan fod marwolaethau yn ymwneud ag MRSA yn digwydd i bobl hŷn yn bennaf, mae’r cyfraddau a gyflwynir yma yn fwy o faint na’r rhai a gyhoeddwyd yn y gorffennol gan ddefnyddio ESP 1976 ar gyfer yr un cyfnodau. Fodd bynnag, gwahaniaeth methodolegol yw’r gwahaniaeth rhwng cyfraddau marwolaeth yn seiliedig ar yr hen ESP a’r ESP newydd, ac nid yw’n golygu bod cynnydd gwirioneddol wedi bod yn niferoedd y marwolaethau neu’r cyfraddau marwolaeth a gyhoeddwyd yn y gorffennol.

Nôl i'r tabl cynnwys

4. Cefndir

Mae S. awrëws yn fath cyffredin o facteria sy’n byw ar groen ac yn ffroenau tua thraean o bobl iach, a hynny heb beri unrhyw niwed (HPA, 2010).

Mae’r rhan fwyaf o fathau o S. awrëws yn sensitif i’r gwrthfiotigau mwyaf cyffredin a ddefnyddir, ac mae modd trin yr heintiau maent yn eu hachosi yn effeithiol. Fodd bynnag, mae rhai mathau o’r bacteria wedi datblygu ymwrthedd i’r gwrthfiotigau hyn, ac yn aml iawn mae angen gwahanol fathau o wrthfiotigau i’w trin. Datblygodd y rhan fwyaf o fathau o S. awrëws ymwrthedd i benisilin yn ystod y 1950au, a datblygodd cemegwyr wrthfiotig o’r enw metisilin. Nid oedd y bacteria a oedd yn gwrthsefyll penisilin yn dinistrio metisilin; fodd bynnag, dechreuodd mathau a oedd yn ei wrthsefyll ymddangos yn fuan ar ôl cyflwyno metisilin, a lledaenodd y mathau hyn yn gyflym yn ystod y 1990au. Mae MRSA yn cyfeirio at facteria S. awrëws sy’n gwrthsefyll gwrthfiotigau o’r enw beta-lactamau. Mae’r grŵp hwn o wrthfiotigau yn cynnwys metisilin, a gwrthfiotigau eraill mwy cyffredin fel ocsasilin, penisilin ac amocsisilin.

Gall MRSA beri cyflyrau sy’n amrywio o fod yn ysgafn i beryglu bywyd os caiff gyfle i fynd i mewn i’r corff drwy doriad yn y croen neu drwy driniaeth sy’n gofyn am ddyfais feddygol fewnwthiol (HPA, 2013). Mae’r rhain yn cynnwys heintiau croen a chlwyfau, ecsema, crawniadau neu heintiau yn y cymalau a niwmonia, heintiau yn falfiau’r galon (endocarditis), bacteremia (heintiau llif y gwaed) a gwenwyn bwyd.

Yn y gymuned, heintiau croen yw’r rhan fwyaf o heintiau MRSA, ac mewn lleoliadau gofal iechyd mae MRSA yn achosi heintiau llif y gwaed sy’n peryglu bywydau, niwmonia a heintiau lle cafwyd llawdriniaeth (CDC, 2014).

Mae pryder ynghylch MRSA yn rhannol gan ei fod yn dangos mwy o ymwrthedd i gyffuriau na mathau eraill o S. awrëws, a hefyd gan fod pobl yn ei gysylltu yn arbennig â heintiau a gafwyd yn yr ysbyty (Iechyd Cyhoeddus Cymru, 2011). Mae pryder cynyddol hefyd mewn rhai rhannau o’r byd am MRSA a gafwyd yn y gymuned, gydag astudiaethau (Herold et al. 1998; Salmenlinna S, Lyytikäinen O a Vuopio-Varkila J, 2002) yn awgrymu bod modd canfod y math hwn o MRSA mewn pobl sy’n iach fel arall ac sydd heb fod mewn cysylltiad cyn hynny â chyfleusterau gofal iechyd na phobl a fu yn yr ysbyty.

Nôl i'r tabl cynnwys

5. Defnyddio Data MRSA

Gan Iechyd Cyhoeddus Cymru y defnyddir data mynychder a marwolaeth ar gyfer heintiau MRSA ac S. awrëws yng Nghymru yn bennaf, a hynny er mwyn amlygu baich MRSA a monitro a gwerthuso rhaglenni ymyrryd sydd â’r nod o’i leihau. Fe’u defnyddir hefyd gan fyrddau iechyd lleol a sefydliadau gofal iechyd unigol.

Yng Nghymru, caiff gwyliadwriaeth o heintiau llif y gwaed MRSA ei rheoli gan Raglen Heintiau sy'n Gysylltiedig â Gofal Iechyd Cymru, sy’n rhan o Iechyd Cyhoeddus Cymru. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae nifer yr achosion yng Nghymru wedi lleihau. Er enghraifft bu gostyngiad o 11% y nifer heintiau llif y gwaed MRSA, o 203 yn 2011 i 180 yn 2012 (Iechyd Cyhoeddus Cymru, 2014).

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi bod yn llunio ystadegau ar gyfer marwolaethau yn ymwneud ag S. awrëws ac MRSA ar gyfer pob blwyddyn ers 1993. Mae ffigurau ar gyfer blynyddoedd diweddar yn dangos gostyngiad sylweddol yn nifer y marwolaethau wedi’u safoni yn ôl oedran sy’n ymwneud ag S. awrëws ac MRSA. Mae’r duedd hon yn gyson â’r gostyngiadau yn y data mynychder y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn adrodd arnynt. Fe allai’r gostyngiadau fod yn rhannol oherwydd ymyriadau sy’n cael eu targedu at wella arferion rheoli heintiau yn yr ysbyty. Fodd bynnag, dim ond ar heintiau llif y gwaed y mae adroddiad goruchwyliaeth Cymru yn ei adrodd, ac nid yw’n adrodd ar fathau eraill o heintiau sy’n gysylltiedig ag MRSA. Ar y llaw arall, ffigurau ar gyfer marwolaethau oherwydd pob math o haint sy’n ymwneud ag MRSA yw’r ffigurau a gyflwynir yn yr adroddiad hwn.

Nôl i'r tabl cynnwys

6. Nifer y marwolaethau lle crybwyllwyd S. awrëws neu MRSA ar y dystysgrif marwolaeth

Mae’r tablau yn y bwletin hwn yn cynnwys data ar gyfer y cyfnod pum-mlynedd diweddaraf er mwyn hwylustod wrth gyflwyno. Fodd bynnag, caiff tueddiadau amser eu harchwilio o 1993 ymlaen.

Yn 2013, roedd 36 marwolaeth yn crybwyll S. awrëws (gan gynnwys y rhai sy’n gwrthsefyll metisilin), sef gostyngiad o 18% ar 44 yn y flwyddyn flaenorol. Yn yr un modd, bu gostyngiad o 34% yn nifer y marwolaethau a oedd yn crybwyll MRSA, o 29 yn 2012 i 19 yn 2013. Bu cynnydd graddol yn nifer y marwolaethau a oedd yn ymwneud ag MRSA ac S. awrëws rhwng 1993, pan ddechreuwyd cadw cofnodion, a 2005, yr uchafbwynt. Mae’r niferoedd wedi bod yn gostwng ers hynny.

Yn 2013, MRSA oedd yn gyfrifol am 53% o’r achosion lle crybwyllwyd S. awrëws, o gymharu â dim ond 7% yn 1993. Fodd bynnag, mae marwolaethau MRSA fel cyfran o’r holl farwolaethau S. awrëws wedi codi a gostwng yn sylweddol dros amser, gydag uchafbwynt o 89% yn 2008.

Er y gall heintiau S. awrëws ac MRSA gyfrannu at farwolaeth, maent yn uniongyrchol gyfrifol am achosi marwolaeth hefyd ar adegau. Yn 2013, o’r 36 tystysgrif marwolaeth a oedd yn crybwyll S. awrëws, dywedodd 13 (sef 36%) mai dyna hefyd oedd achos waelodol y farwolaeth. Ar gyfer MRSA, nododd 9 o’r 19 (sef 47%) tystysgrif marwolaeth a oedd yn crybwyll y germ mai hynny hefyd oedd achos waelodol y farwolaeth.

Nôl i'r tabl cynnwys

7. Cyfradd marwolaethau oedran-benodol ar gyfer marwolaethau yn crybwyll S. awrëws ac MRSA

Ym mhob blwyddyn, bach yw nifer y tystysgrifau marwolaeth sy’n crybwyll S. awrëws ac MRSA wedi’u dosbarthu yn ôl grwpiau rhyw ac oedran, ac felly bydd yn ddarostyngedig i lawer o hapamrywio. Er mwyn lleihau effaith yr amrywio hwn ar y cyfraddau oedran-benodol a rhyw-benodol, tynnwyd data ar gyfer cyfnod o bum mlynedd at ei gilydd (2009 i 2013) er mwyn sicrhau bod modd dod i gasgliadau cadarn.

Yn ystod y cyfnod 2009-2013, cynyddodd y gyfradd oedran-benodol ar gyfer marwolaethau yn crybwyll S. awrëws ac MRSA gydag oedran ac roedd yn uwch i ddynion nac i ferched.

Ar gyfer dynion, roedd y gyfradd oedran-benodol ar gyfer marwolaethau yn crybwyll S. awrëws ar ei isaf ymhlith y rhai o dan 55 oed (3.4 crybwylliad am bob miliwn o’r boblogaeth) ac ar ei uchaf ymhlith y rhai 85 oed a hŷn (381 am bob miliwn o’r boblogaeth). I ferched, y ffigurau ar gyfer y ddau grŵp oedran hyn oedd 1.5 a 145 crybwylliad am bob miliwn o’r boblogaeth yn eu tro. Ar gyfer MRSA, y ffigurau cymaradwy ymhlith y grwpiau oedran hyn oedd 1.9 a 282 am bob miliwn o’r boblogaeth i ddynion, a 0.8 a 94 am bob miliwn i ferched.

Yn ôl y disgwyl roedd y cyfraddau oedran-benodol ar gyfer crybwylliadau MRSA yn is na’r rhai ar gyfer S. awrëws ar draws pob grŵp oedran. Mae hyn oherwydd bod MRSA yn is-set o S. awrëws, a bod llai o farwolaethau o ganlyniad iddo. Ar y llaw arall, ar gyfer y ddwy ryw roedd y gwahaniaeth cymharol rhwng y cyfraddau oedran-benodol ar gyfer y rhai sy’n iau na 55 oed a’r rhai 85 oed a hŷn yn nodedig uwch ar gyfer MRSA. Mae’r anghyfartaledd hwn yn awgrymu bod marwolaethau MRSA, o gymharu ag S. awrëws, wedi’u canolbwyntio mwy ymhlith y rhai yn y grŵp oedran hynaf.

Roedd y gyfradd oedran-benodol ar gyfer crybwyll MRSA ymhlith dynion 85 oed a hŷn 149 gwaith yn fwy na’r gyfradd ar gyfer dynion o dan 55 oed (282 o gymharu ag 1.9 am bob miliwn o’r boblogaeth). Gwelwyd patrwm tebyg ar gyfer merched. Fodd bynnag, roedd y gwahaniaeth cymharol rhwng y ddau grŵp oedran hyn yn llai nag yn achos dynion (gweler Tabl 2).

Mae pobl sâl mewn cyfleusterau gofal iechyd hefyd mewn mwy o berygl o gael MRSA. Mae pobl hŷn yn arbennig o agored i niwed oherwydd bod eu systemau imiwnedd yn debygol o fod yn gymharol wannach na phobl ifanc, a’u bod hefyd yn debygol o fod â phroblemau gwaelodol eraill. Mae’r tueddiadau hyn sydd i’w gweld yng nghyfraddau marwolaeth oedran-benodol MRSA i’w disgwyl felly.

Nôl i'r tabl cynnwys

8. Cyfraddau marwolaethau wedi’u safoni yn ôl oedran lle crybwyllir S. awrëws ac MRSA

Mae’r cyfraddau wedi’u safoni yn ôl oedran sydd i’w gweld yma ar gyfer pob person (dynion a merched wedi’u cyfuno). Mae hyn oherwydd bod nifer y marwolaethau ym mhob blwyddyn ers uchafbwynt 2005 wedi gostwng i’r graddau nad oes digon o farwolaethau bellach i gyfrifo cyfraddau rhyw-benodol wedi’u safoni yn ôl oedran ar gyfer blynyddoedd unigol.

Bu gostyngiad cyson yn y gyfradd marwolaethau wedi’i safoni yn ôl oedran lle crybwyllir S. awrëws ac MRSA ers 2005 pan oedd y cyfraddau ar eu huchaf. Mae’r gostyngiad hwn yn tueddu i guddio’r codi a gostwng blynyddol yn y cyfraddau rhwng 1993 a 2013. Yn y cyfnod hwn gwelwyd cynnydd yn y cyfraddau i ddechrau hyd at yr uchafbwynt yn 2005, ac ers hynny maent wedi bod yn gostwng. Am y drydedd flwyddyn yn olynol, nid oedd y gyfradd ddiweddaraf ar gyfer crybwyll S. awrëws yn sylweddol wahanol i’r gyfradd ym 1993. Cododd y gyfradd marwolaethau wedi’i safoni yn ôl oedran lle crybwyllwyd S. awrëws o 11.1 am bob miliwn o’r boblogaeth ym 1993 i 49.7 am bob miliwn o’r boblogaeth yn 2005, ond ers hynny mae wedi gostwng i 12.0 am bob miliwn o’r boblogaeth yn 2013.

Ar gyfer MRSA, cododd y cyfraddau o 5.7 i 40.2 am bob miliwn o’r boblogaeth rhwng 1994 a 2005, ond ers hynny mae wedi gostwng i 6.3 am bob miliwn yn 2013. Ni chyfrifwyd y gyfradd marwolaethau o MRSA ar gyfer 1993 gan fod nifer y marwolaethau yn rhy fach.

Nôl i'r tabl cynnwys

9. Lleoliad y farwolaeth

Yn y cyfnod 2009–13, roedd y marwolaethau yn ymwneud ag S. awrëws yn 0.2% ac ar gyfer MRSA roedd yn 0.1% o’r holl farwolaethau a gofrestrwyd yng Nghymru.

Mae dadansoddiad yn ôl lleoliad y farwolaeth yn dangos bod 95% o’r marwolaethau yn ymwneud ag S. awrëws a 94% o’r marwolaethau yn ymwneud ag MRSA yng Nghymru wedi digwydd yn ysbytai’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Mae’r ffigurau hyn yn 0.3% a 0.2% o’r holl farwolaethau yn ysbytai’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn eu tro.

Gan fod mwyafrif y marwolaethau yng Nghymru yn digwydd yn ysbytai’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, mae’n ddisgwyliedig y byddai cyfran y marwolaethau sy’n ymwneud ag S. awrëws ac MRSA yn y sefydliadau hyn yn uwch na’r rhai mewn mathau eraill o sefydliadau.

Yn gyffredinol, cartrefi gofal oedd â nifer a chanran uchaf ond un yr holl farwolaethau yn ymwneud ag S. awrëws ac MRSA. Digwyddodd yr holl farwolaethau hyn mewn cartrefi gofal na weinyddir mohonynt gan awdurdodau lleol. Yn ogystal, yn y math hwn o sefydliad, MRSA oedd achos gwaelodol y farwolaeth ar gyfer yr holl dystysgrifau marwolaeth sy’n crybwyll S. awrëws.

Amcangyfrifir bod 2.8% o farwolaethau S. awrëws a 4.2% o farwolaethau MRSA wedi digwydd mewn cartrefi gofal nad ydynt yn gartrefi awdurdodau lleol. Ar y llaw arall, nid oedd yr un farwolaeth yn ymwneud ag S. awrëws ac MRSA mewn cartrefi gofal awdurdodau lleol.

Nôl i'r tabl cynnwys

10. Dulliau

Ffynhonnell ddata

Mae’r wybodaeth a ddefnyddir yn y bwletin hwn yn seiliedig ar y manylion a gesglir pan gaiff marwolaethau eu hardystio a’u cofrestru. Caiff pob marwolaeth eu codio gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn ôl y Dosbarthiad Clefydau Rhyngwladol (ICD) a gynhyrchir gan Sefydliad Iechyd y Byd (WHO).

Ers 1993, mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi cadw testun tystysgrifau marwolaeth ar gronfa ddata, ynghyd â’r holl waith codio ICD sy’n ymwneud ag achosion a nodir ar y dystysgrif marwolaeth. Defnyddiwyd Degfed Rhifyn yr ICD (sef ICD-10) er mwyn codio marwolaethau yng Nghymru ers 2001.

Y dull a ddefnyddiwyd i ddewis marwolaethau

Cafodd y testun ar dystysgrifau marwolaeth ei ddefnyddio ar y cyd â chodau ICD-10 er mwyn nodi’r rhai sy’n crybwyll S. awrëws ac MRSA mewn proses dau gam.

Mae nifer o heintiau yn ymwneud yn benodol ag S. awrëws neu rywogaethau staffylococol eraill. I ddechrau, echdynnwyd yr holl farwolaethau lle cafodd unrhyw un o’r heintiau hyn eu crybwyll ar y dystysgrif marwolaeth. Echdynnwyd y marwolaethau hyn gan ddefnyddio’r codau ICD-10 a roddir ym Mlwch 1 yn y tabl Cyfeirio. Wedyn, chwiliwyd testun y tystysgrifau marwolaeth, yn electronig a gyda llaw, er mwyn dod o hyd i S. awrëws ac MRSA.

Ar y llaw arall, mae organebau achosol gwahanol gan rai heintiau ac fe allai rhywogaeth Staffylococws neu bathogenau eraill eu hachosi. Yn ail, echdynnwyd pob marwolaeth lle crybwyllwyd yr heintiau amhenodol hyn ar y dystysgrif marwolaeth. Rhoddir y codau a ddefnyddir i nodi’r heintiau hyn ym Mlwch 2 yn y tabl Cyfeirio. Yna fe chwiliwyd testun y tystysgrifau marwolaeth gyda llaw er mwyn nodi S. awrëws ac MRSA.

Nodwyd marwolaethau gydag S. awrëws fel achos gwaelodol drwy ddewis y marwolaethau hynny a oedd yn crybwyll S. awrëws a oedd hefyd yn nodi un o’r heintiau a restrir ym Mlwch 1 neu ym Mlwch 2 fel yr achos gwaelodol. Dilynwyd yr un drefn er mwyn nodi marwolaethau oedd ag MRSA fel achos gwaelodol.

Ers 1986, mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi defnyddio’r dystysgrif marwolaeth a argymhellir yn rhyngwladol ar gyfer marwolaethau newyddenedigol (babanod o dan 28 diwrnod oed). Dyluniwyd y dystysgrif hon er mwyn cofnodi’r holl gyflyrau a ganfuwyd adeg y farwolaeth. Golyga hyn nad oes modd nodi achos gwaelodol y farwolaeth ar gyfer plant newydd-anedig. Fodd bynnag, gan fod y data yn seiliedig ar farwolaethau lle crybwyllwyd S. awrëws ac MRSA ar y dystysgrif marwolaeth, mae plant newydd-anedig wedi eu cynnwys. Echdynnwyd marwolaethau newyddenedigol yn yr un ffordd â’r disgrifiad uchod.

Newidiadau i gyfrifo cyfwng hyder a chyfeiliornad safonol

Nid yw’r data marwolaethau yn y datganiad hwn yn ddarostyngedig i amrywio samplo gan nad ydynt wedi eu tynnu o sampl. Fodd bynnag, fe allai hapamrywio effeithio arnynt, yn enwedig lle bo nifer y marwolaethau neu’r tebygolrwydd o farw yn fach. Er mwyn helpu i asesu’r amrywio yn y cyfraddau hyn, maent wedi eu cyflwyno ochr yn ochr â chyfyngau hyder o 95%.

Yn draddodiadol, defnyddir dull amcangyfrif normal i gyfrifo cyfyngau hyder ar y dybiaeth bod marwolaethau MRSA wedi’u dosrannu’n normal. Fodd bynnag, mae nifer blynyddol y marwolaethau sy’n ymwneud ag MRSA yn gymharol fach (llai na 100 fel arfer), a gellir tybio ei fod yn dilyn dosraniad tebygolrwydd Poisson. Mewn achosion o’r fath, mae’n fwy priodol defnyddio ffactorau cyfyngol hyder o dabl dosrannu Poisson er mwyn cyfrifo’r cyfyngau hyder yn hytrach na dull amcangyfrif normal.

Ar gyfer cyfraddau wedi’u safoni yn ôl oedran, cafodd y dull a ddefnyddiwyd i gyfrifo cyfyngau hyder ar gyfer cyfraddau yn seiliedig ar lai na 100 marwolaeth ei gynnig gan Dobson et al., (1991) fel y disgrifiwyd yn APHO, (2008). Ar gyfer cyfraddau oedran-benodol, defnyddiwyd union ffactorau cyfyngol Poisson ar gyfer nifer y marwolaethau oedran-benodol i gyfrifo cyfwng hyder o 95% lle roedd llai na 100 marwolaeth mewn grŵp oedran penodol.

Ar y llaw arall, ar gyfer cyfraddau wedi’u safoni yn ôl oedran a chyfraddau oedran-benodol, defnyddiwyd dulliau amcangyfrif normal i gyfrifo cyfwng hyder o 95% lle roedd 100 marwolaeth neu fwy.

Er mwyn mesur pa mor sefydlog a dibynadwy yw’r cyfraddau wedi’u safoni yn ôl oedran, darparwyd cyfeiliornadau safonol cymharol (gweler y tabl cyfeirio). Caiff y cyfeiliornad safonol cymharol (RSE) ei gyfrifo fel hyn: cyfeiliornad safonol cyfradd wedi’i rannu â gwerth y gyfradd ei hunan, wedi’i fynegi fel canran. Po uchaf yw’r RSE, y lleiaf sefydlog a dibynadwy yw’r cyfraddau.

Caiff manylion llawn yr holl newidiadau methodolegol yn y bwletin hwn eu cyhoeddi yn y Nodyn gwybodaeth Ansawdd a Methodoleg ar gyfer 'Marwolaethau yn ymwneud ag MRSA (210.8 Kb Pdf) ' yn ddiweddarach.

Oedi o ran cofrestru

Mae’r wybodaeth a ddefnyddir i lunio ystadegau marwolaeth yn seiliedig ar y manylion a gesglir pan gaiff marwolaethau eu hardystio a’u cofrestru. Yng Nghymru, dylid cofrestru marwolaethau o fewn pum diwrnod i’r farwolaeth, ond mae rhai sefyllfaoedd sy’n golygu oedi gyda chofrestru’r farwolaeth. Caiff marwolaethau y bernir eu bod yn annisgwyl, yn ddamweiniol neu’n amheus eu cyfeirio at grwner a all drefnu post-mortem neu gynnal cwest llawn er mwyn canfod y rhesymau dros y farwolaeth.

Caiff ystadegau ar farwolaethau yn ymwneud ag MRSA ac S. awrëws eu cyflwyno yn seiliedig ar nifer y marwolaethau a gofrestrir ymhob blwyddyn galendr, yn hytrach na nifer y marwolaethau a ddigwyddodd y flwyddyn honno. Defnyddir y dull hwn gan fod gofyn am ddata cyson ac amserol, er gwaethaf cyfyngiad posibl o ran ansawdd y data os bydd oedi mewn cofrestriadau.

Yn 2013, y cyfnod cofrestru cyfartalog (canolrif) ar gyfer marwolaethau lle crybwyllwyd MRSA ac S. awrëws, a lle nodwyd mai’r ddau hyn oedd achos gwaelodol y farwolaeth, oedd tri diwrnod. Cafodd mwyafrif y marwolaethau a oedd yn crybwyll MRSA a’r rhai a oedd yn ei nodi fel achos gwaelodol eu cofrestru o fewn pum diwrnod (74% a 78% yn eu tro), tra bod 84% ac 89% wedi’u cofrestru o fewn 30 diwrnod.

O’r 19 marwolaeth a gofrestrwyd yn 2013 lle crybwyllwyd MRSA ar y dystysgrif marwolaeth, roedd 17 ohonynt (89%) wedi digwydd yn yr un flwyddyn. Yn yr un modd, roedd 8 o’r 9 marwolaeth (89%) a gofrestrwyd gydag MRSA fel achos gwaelodol yn 2013 hefyd wedi digwydd yn 2013.

Gan fod mwyafrif y marwolaethau a gofrestrwyd yn 2013 a oedd yn ymwneud ag MRSA hefyd wedi digwydd yn ystod yr un flwyddyn, nid yw oedi o ran cofrestru yn debygol o gael effaith ar y tueddiadau a gofnodir yn y bwletin hwn.

Nôl i'r tabl cynnwys

11. Canlyniadau ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol

Mae ffigurau ar gyfer marwolaethau a oedd yn ymwneud ag S. awrëws ac MRSA o 1993 tan 2013 i’w gweld yn y tabl cyfeirio ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Mae’r llyfr gwaith Excel hwn yn cynnwys nifer y marwolaethau ymhob blwyddyn, cyfraddau wedi’u safoni yn ôl oedran a dadansoddiad yn ôl lleoliad y farwolaeth.

Nôl i'r tabl cynnwys

.Cyfeirnodau

Cymdeithas Arsyllfeydd Iechyd y Cyhoedd (2008). Technical Briefing 3: Commonly Used Public Health Statistics and their Confidence Intervals. [fel ar 21 Gorffennaf 2014]

Y Ganolfan Rheoli ac Atal Clefydau (2014). MRSA Infections [fel ar 7 Awst 2014].

Dobson A, Kuulasmaa K, Eberle E a Scherer J (1991). Confidence intervals for weighted sums of Poisson parameters. Stat Med., 10:457-62 [fel ar 21 Gorffennaf 2014].

Eurostat (2013) Revision of the European Standard Population – Report of Eurostat’s task force – 2013 edition [fel ar 15 Gorffennaf 2014].

Yr Asiantaeth Diogelu Iechyd (2010) MRSA information for patients [fel ar 16 Gorffennaf 2014].

Yr Asiantaeth Diogelu Iechyd (2013) Staphylococcus aureus [fel ar 7 Awst 2013].

Herold B, Immergluck L, Maranan M, Lauderdale D, Gaskin R, Boyle-Vavra S, Leitch C, Daum R (1998) Community-acquired Methicillin-Resistant Staphylococcus aureus in children with no identified predisposing risk. Journal of the American Medical Association, 279(8).tt 593-598 [fel ar 13 Gorffennaf 2014].

Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (2013) Consultation - Implementation of the 2013 European Standard Population [fel ar 15 Gorffennaf 2014]

Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (2014) The impact of using the 2013 European Standard Population to calculate mortality and cancer incidence rates [fel ar 15 Gorffennaf 2014].

Iechyd Cyhoeddus Cymru (2011) Staphylococcus aureus (MRSA) [fel ar 15 Gorffennaf 2014].

Iechyd Cyhoeddus Cymru (2014) All Wales infection surveillance reports. Staphylococcus aureus Blood Stream Infection (Bacteraemia) Surveillance - All Wales data per 100,000 bed days [fel ar 7 Awst 2014].

Salmenlinna S, Lyytikäinen O, a Vuopio-Varkila J (2002) Community-acquired Methicillin-Resistant Staphylococcus aureus, Finland. Emerging Infectious Disease Journal [e-gyfnodolyn], 8(6), Mehefin [fel ar 13 Gorffennaf 2014].

Nôl i'r tabl cynnwys

.Nodiadau cefndirol

  1. Mae’r ffigurau ar gyfer marwolaethau a gofrestrwyd ymhob blwyddyn galendr, a’r cyfraddau yn seiliedig ar amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn fel enwadur.

  2. Mae gwybodaeth am y data marwolaethau gwaelodol, gan gynnwys manylion casglu a chodio’r data, ar gael yn y metadata marwolaethau (2.46 Mb Pdf) .

  3. Mae nifer y marwolaethau oherwydd MRSA yn anodd ei amcangyfrif. Fel arfer caiff tueddiadau marwolaeth eu monitro gan ddefnyddio achos gwaelodol y farwolaeth (y clefyd a gychwynnodd y gadwyn o ddigwyddiadau a arweiniodd yn uniongyrchol at farwolaeth). Fodd bynnag, yn aml iawn nid MRSA (a heintiau eraill sy’n gysylltiedig â gofal iechyd) yw achos gwaelodol y farwolaeth. Fel arfer bydd y rhai sy’n marw ag MRSA yn gleifion sy’n sâl iawn eisoes, a’u salwch presennol a roddir yn aml iawn fel achos gwaelodol y farwolaeth. Mae diddordeb yn nifer y marwolaethau lle cyfrannodd MRSA at y farwolaeth – dim ond cyflyrau sy’n cyfrannu’n uniongyrchol at y farwolaeth y dylid eu cofnodi ar y dystysgrif marwolaeth. Mae’r canlyniadau a gyflwynir yn y bwletin hwn yn nodi marwolaethau oedd ag MRSA yn achos gwaelodol a hefyd lle crybwyllwyd MRSA fel yr achos gwaelodol neu fel ffactor cyfrannol yn y farwolaeth.

  4. Er bod pobl yn cyfeirio’n aml at MRSA fel haint sy’n gysylltiedig â gofal iechyd, nid oes modd dweud ar sail y wybodaeth ar dystysgrif marwolaeth ble cafwyd yr haint, ac ni ellir gwneud tybiaethau chwaith am ansawdd y gofal. Yn aml iawn caiff pobl eu trosglwyddo rhwng ysbytai, cartrefi gofal a sefydliadau eraill, a gallent gael yr haint yn un lle a marw yn rhywle arall.

  5. Cafodd canllawiau ar ardystio marwolaethau, gyda chyfeiriadau penodol at heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd, eu rhoi i feddygon ym mis Mai 2005 (a’u diwygio yn 2010) (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, 2010b). Yn dilyn hynny anfonwyd neges gan Brif Swyddog Meddygol Lloegr at bob meddyg yn eu hatgoffa o’u cyfrifoldebau ynghylch ardystio marwolaethau ac yn tynnu eu sylw at y canllawiau (Adran Iechyd Lloegr, 2005).

  6. Cofnodir dau fath o gyfradd yn y bwletin hwn; oedran-benodol ac wedi’i safoni yn ôl oedran. Gellir cyfrifo cyfraddau oedran-benodol ar gyfer grwpiau oedran penodol ac fe’u diffinnir fel nifer y marwolaethau yn y grŵp oedran am bob miliwn (neu fil) o’r boblogaeth yn yr un grŵp oedran. Er bod modd cymharu’r cyfraddau hyn rhwng amseroedd, lleoedd ac is-boblogaethau, mae’r tablau sy’n eu cynnwys yn fawr iawn fel arfer a gallent fod yn anodd eu cymhathu. Yn ogystal, lle nad oes llawer o farwolaethau, ni fydd y cyfraddau hyn yn fanwl iawn a gallent fod yn anodd eu dehongli. Mae cyfraddau wedi’u safoni yn ôl oedran yn rhoi ystyriaeth i wahaniaethau yn strwythur oedran y boblogaeth, dros amser a rhwng y rhywiau. Mae’r cyfraddau a gyflwynir yma wedi’u safoni yn ôl oedran gan ddefnyddio’r dull safoni uniongyrchol. Y gyfradd wedi’i safoni yn ôl oedran ar gyfer clefyd penodol yw’r gyfradd a fyddai wedi digwydd petai’r cyfraddau oedran-benodol a welwyd ar gyfer y clefyd wedi bod yn berthnasol mewn poblogaeth safonol benodol. Yn y bwletin hwn, defnyddiwyd poblogaeth safonol Ewrop. Safon poblogaeth ddamcaniaethol yw hon, sydd yr un fath ar gyfer dynion a merched, gan ganiatáu ar gyfer cymharu cyfraddau safonedig dros amser a rhwng y rhywiau.

  7. Datblygwyd poblogaeth safonol Ewrop (ESP) a ddefnyddir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol i gyfrifo cyfraddau wedi’u safoni yn ôl oedran ym 1976. Yn 2012, diweddarwyd y strwythur poblogaeth hwn gan Eurostat, sefydliad ystadegol yr Undeb Ewropeaidd. Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol, ar ran Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth yn ei gyfanrwydd, wedi cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch sut i roi newid yr ESP ar waith yn y Deyrnas Unedig. Yn dilyn hyn, mae’r Swyddfa wedi cyhoeddi cyfres o adroddiadau ar effaith newid yr ESP ar ystadegau marwolaeth ac amserlen ar gyfer rhoi’r boblogaeth safonol newydd ar waith mewn cyhoeddiadau perthnasol.

  8. Ni chyfrifwyd cyfraddau oedran-benodol pan oedd llai na thair marwolaeth mewn cell. Yn yr un modd, ni chyfrifwyd cyfraddau wedi’u safoni yn ôl oedran pan oedd llai na deng marwolaeth y flwyddyn. Dynodir y cyfraddau hyn gyda ‘••’. Arfer y Swyddfa Ystadegau Gwladol yw peidio â chyfrifo’r cyfraddau hyn, gan fod cyfraddau sy’n seiliedig ar niferoedd mor isel mewn perygl o gael eu dehongli’n anghywir. Mae cyfraddau wedi’u safoni yn ôl oedran a gyfrifwyd ar sail 10-19 marwolaeth wedi eu nodi mewn italig er mwyn rhybuddio defnyddwyr y gallai niferoedd isel y digwyddiadau effeithio ar ba mor ddibynadwy yw’r cyfraddau fel mesur.

  9. Yn y bwletin hwn, mae gwahaniaeth sydd wedi ei ddisgrifio fel gwahaniaeth ‘ystadegol arwyddocaol’ wedi ei asesu gan ddefnyddio cyfyngau hyder. Mae cyfyngau hyder (CIs) yn fesur o fanwl gywirdeb ystadegol amcangyfrif, ac mae’n dangos yr ystod o ansicrwydd sy’n gysylltiedig ag ef. Yn aml iawn mae cyfrifiadau sy’n seiliedig ar niferoedd bach o ddigwyddiadau yn ddarostyngedig i effeithiau codi a gostwng ar hap. Caiff arwyddocâd ei neilltuo ar sail cyfyngau hyder nad ydynt yn gorgyffwrdd. Er bod dulliau mwy ffurfiol a manwl gywir ar gael, defnyddir y dull cyfyngau hyder nad ydynt yn gorgyffwrdd gan ei fod yn hawdd ei gyfrifo a’i ddeall. Yn gyffredinol, os bydd cyfwng hyder un amcangyfrif yn gorgyffwrdd â chyfwng amcangyfrif arall, nid oes gwahaniaeth arwyddocaol rhwng y ddau amcangyfrif.

  10. Mae echdyniadau arbennig a thabliadau data marwolaethau yn ymwneud ag MRSA ar gyfer Cymru ar gael i’w harchebu am ffi (yn amodol ar fframweithiau cyfreithiol, rheolaeth datgelu, adnoddau a chytundeb ar gostau, lle bo hynny’n briodol). Dylid gwneud ceisiadau neu ymholiadau i:

    Tîm Dadansoddi Marwolaeth, Is-Adran Digwyddiadau Byw a Ffynonellau Poblogaeth
    Y Swyddfa Ystadegau Gwladol
    Adeiladau’r Llywodraeth
    Heol Caerdydd
    Casnewydd
    Gwent NP10 8XG
    Ffôn: +44 (0)1633 456491
    E-bost: mortality@ons.gov.uk

  11. Mae polisi codi tâl y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gael ar wefan y Swyddfa.

  12. Rydym yn croesawu adborth ar gynnwys, fformat a pherthnasedd y datganiad hwn. Anfonwch adborth i’r cyfeiriad post neu i’r cyfeiriad e-bost uchod.

  13. Mae’r polisi sy’n rheoli’r gwaith o ryddhau data newydd ar gael o Swyddfa Cysylltiadau’r Cyfryngau.

  14. Caiff Ystadegau Gwladol eu llunio i safonau proffesiynol uchel a nodir yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau Swyddogol. Maent yn destun adolygiadau sicrhau ansawdd rheolaidd er mwyn sicrhau eu bod yn diwallu anghenion cwsmeriaid. Cânt eu llunio heb ddim ymyrraeth wleidyddol.

  15. Nodiadau yn rhoi trosolwg yw Adroddiadau Ansawdd Cryno, sy’n dwyn ynghyd wybodaeth ansoddol allweddol ar y dimensiynau ansawdd amrywiol yn ogystal â rhoi crynodeb o’r dulliau a ddefnyddiwyd i lunio’r adroddiad. Cyhoeddir rhifynnau a ddiweddarwyd o fis Ebrill 2011 ymlaen fel nodiadau Gwybodaeth Ansawdd a Methodoleg.

  16. Y Swyddfa Ystadegau Gwladol sy’n llunio ystadegau am MRSA ar gyfer Cymru. Mae Cofnodion Gwladol yr Alban yn llunio ystadegau ar gyfer yr Alban, ac mae Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon yn llunio ystadegau ar gyfer Gogledd Iwerddon.

  17. Mae rhestr o enwau’r rhai a gafodd fynediad at yr ystadegau a’r sylwadau ysgrifenedig cyn eu cyhoeddi ar gael yn y rhestr mynediad cyn rhyddhau ar gyfer marwolaethau sy’n ymwneud ag MRSA. Mae’r rheolau a’r egwyddorion sy’n sail i roi mynediad cyn rhyddhau i’w gweld yng Ngorchymyn Mynediad at Ystadegau Swyddogol cyn eu Rhyddhau 2008.

  18. Mae manylion y polisi sy’n rheoli’r broses o ryddhau data newydd ar gael o Swyddfa Cysylltiadau’r Cyfryngau.

  19. Mae manylion y polisi ar ryddhau data newydd ar gael yn www.statisticsauthority.gov.uk/assessment/code-of-practice/index.html neu drwy anfon e-bost at y Swyddfa Cysylltiadau â'r Cyfryngau: media.relations@ons.gov.uk

    Caiff yr Ystadegau Gwladol hyn eu cynhyrchu yn unol â safonau proffesiynol uchel a'u rhyddhau yn unol â'r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau'r DU.

Nôl i'r tabl cynnwys

. Methodology

Manylion cyswllt ar gyfer y Bwletin ystadegol

Olugbenga Olatunde
mortality@ons.gov.uk
Ffôn: +44 (0)1633 456491