Marwolaethau lle roedd MRSA yn ffactor yng Nghymru: 2014

Marwolaethau a gofrestrwyd yng Nghymru, lle cafodd MRSA ei grybwyll neu'i nodi fel achos sylfaenol marwolaeth ar dystysgrifau marwolaeth.

This is the latest release. View previous releases

This is an accredited national statistic.

Cyswllt:
Email Olugbenga Olatunde

Dyddiad y datganiad:
3 September 2015

Cyhoeddiad nesaf:
To be announced

1. Pwyntiau allweddol

  • Cafwyd 25 o dystysgrifau marwolaeth lle crybwyllwyd Staphylococcus aureus sy'n gwrthsefyll Meticillin (MRSA) yn 2014. Yn 2014, roedd tuag 1 o bob 6 tystysgrif marwolaeth (4 o’r 25) a grybwyllai MRSA hefyd yn cofnodi mai dyna oedd achos syflaenol y farwolaeth.

  • Cynyddodd y gyfradd wedi’i safoni yn ôl oedran ar gyfer marwolaethau lle roedd MRSA yn ffactor, o 5.7 i 40.2 marwolaeth am bob miliwn o boblogaeth rhwng 1994 a 2005, ond oddi ar hynny mae wedi gostwng i lefel debyg i’r hyn a welwyd yn 1994. Y gyfradd yn 2014 oedd 8.1 marwolaeth am bob miliwn

  • Fe gynyddodd cyfraddau oed-benodol marwolaethau o MRSA gydag oedran a thueddent i fod yn uwch ar gyfer gwrywod nag ar gyfer benywod

  • Yn y cyfnod o 2010 i 2014, digwyddodd mwyafrif y marwolaethau lle roedd MRSA yn ffactor yn ysbytai’r GIG (93%). Fodd bynnag, nid oedd y marwolaethau hyn ond yn cyfrif am 0.2% o’r holl farwolaethau mewn ysbytai

Nôl i'r tabl cynnwys

2. Crynodeb

Math o facteria Staphylococcus sy’n gwrthsefyll gwrthfiotigau o’r enw beta-lactamau yw Staphylococcus aureus sy'n gwrthsefyll Meticillin (MRSA). Gan hynny mae’r ffigurau a gyflwynir yma ar gyfer MRSA yn is-set o’r ffigurau ar gyfer Staphylococcus aureus (S. aureus). Gall bacteria S. aureus achosi afiechyd sy’n amrywio o fod yn ysgafn i beryglu bywyd, os bydd cyfle iddo fynd i mewn i’r corff drwy doriad yn y croen neu drwy driniaeth sy’n gofyn am ddyfais feddygol fewnwthiol.

Mae’r bwletin hwn yn cyflwyno’r ffigurau diweddaraf ar gyfer marwolaethau lle crybwyllwyd MRSA ar dystysgrif marwolaeth neu lle nodwyd mai dyna oedd achos sylfaenol y farwolaeth. Cyflwynir ffigurau Cymru ac fe’u dadansoddir yn ôl rhyw, grŵp oedran a lleoliad y farwolaeth. Caiff data 2014, sef y flwyddyn ddiweddaraf, eu cymharu â data a gyhoeddwyd yn y gorffennol o 1993 ymlaen. Caiff gwybodaeth ei rhoi am gyd-destun a defnydd yr ystadegau, a’r dulliau a ddefnyddiwyd i’w cynhyrchu.

Mae’r ffigurau yn seiliedig ar y marwolaethau a gofrestrwyd ym mhob blwyddyn galendr yn hytrach na’r rhai a ddigwyddodd ym mhob blwyddyn. Gan fod mwyafrif y marwolaethau lle roedd MRSA yn ffactor ac a gofrestrwyd yn 2014 hefyd wedi digwydd y flwyddyn honno, mae’n annhebygol y bydd oedi wrth gofrestru yn effeithio ar ein canfyddiadau. Am wybodaeth bellach, gweler yr adran ynglŷn ag oedi cyn cofrestru.

Nôl i'r tabl cynnwys

3. Mae nifer y tystysgrifau marwolaeth sy’n crybwyll MRSA ac S. aureus wedi lleihau ers cyrraedd brig yn 2005

Yn 2014, cafwyd 25 o dystysgrifau marwolaeth lle crybwyllwyd MRSA a 47 lle crybwyllwyd S. aureus (gan gynnwys y math sy’n gwrthsefyll meticillin). Mae mwyafrif y marwolaethau hyn ymhlith gwrywod (60% o’r marwolaethau MRSA a 53% o’r marwolaethau S. aureus).

Cynyddodd nifer y marwolaethau o MRSA rhwng 1993 a 2005, ond mae wedi gostwng ers hynny. Mae’r duedd yn ein data o 2005 ymlaen yn gyson â’r duedd yn niferoedd yr achosion o heintiau llif gwaed oherwydd MRSA y rhoddwyd gwybodaeth amdanynt gan y Rhaglen Heintiau sy'n Gysylltiedig â Gofal Iechyd Cymru (WHAIP), sy’n rhan o Iechyd Cyhoeddus Cymru. Efallai mai rhan o’r rheswm y gostyngodd y niferoedd yw fod ymyriadau wedi’u targedu at wella arferion i reoli heintiau mewn ysbytai. Fodd bynnag, yn wahanol i’n ffigurau ni, dim ond ar heintiau llif gwaed y mae’r data a gasglwyd gan WHAIP yn canolbwyntio ac nid ar fathau eraill o heintiau sy’n gysylltiedig ag MRSA.

Yn 1993, nodwyd bod tua 7% o’r heintiadau S. aureus a grybwyllwyd ar dystysgrifau marwolaeth yn heintiadau oedd yn gwrthsefyll meticillin (MRSA). Mae cyfran y marwolaethau S.aureus y nodwyd eu bod yn heintiadau oedd yn gwrthsefyll meticillin yn dueddol o amrywio o flwyddyn i flwyddyn. Serch hynny, bu cynnydd mawr yn y gyfran hon, o 7% yn 1993 i’r adeg pan gyrhaeddodd frig o 89% yn 2008. Ers hynny, aeth y gyfran i lawr i 53% yn 2014, sef yr isaf a gofnodwyd oddi ar 1995.

Gall heintiadau MRSA ac S. aureus gyfrannu i farwolaeth neu ei hachosi’n uniongyrchol. Roedd tuag 16% (4 o 25) o’r tystysgrifau marwolaeth a grybwyllodd MRSA hefyd yn cofnodi mai dyna oedd achos sylfaenol y farwolaeth; hefyd roedd 21% (10 o 47) o’r rhai a grybwyllodd S. aureus yn nodi mai’r organeb hon oedd achos sylfaenol y farwolaeth.

Nôl i'r tabl cynnwys

4. Tueddiadau dros amser mewn cyfraddau marwolaethau wedi’u safoni yn ôl oedran lle roedd MRSA ac S. aureus yn ffactor

Mae’r cyfraddau wedi’u safoni yn ôl oedran sydd i’w gweld yma yn rhai ar gyfer pawb (gwrywod a menywod wedi’u cyfuno). Mae hyn oherwydd bod nifer y marwolaethau ym mhob blwyddyn ers y brig a welwyd yn 2005 wedi gostwng i’r fath raddau fel nad oes digon o farwolaethau mwyach i gyfrifo cyfraddau rhyw-benodol pendant wedi’u safoni yn ôl oedran ar gyfer blynyddoedd unigol. Ni allem gyfrifo cyfradd marwolaethau MRSA ar gyfer 1993 oherwydd nad oedd nifer y marwolaethau yn y flwyddyn honno yn ddigon uchel i’n galluogi i wneud hynny.

Yn y rhestr o 10 achos mwyaf cyffredin heintiau difrifol llif gwaed a gyhoeddwyd gan WHAIP, aeth MRSA i lawr o’r pumed achos mwyaf cyffredin rhwng Hydref 2004 a Thachwedd 2005, fel ei fod yn nawfed yn 2014. Mae safle MRSA yn 2014 yn dangos bod llai o bobl yn cael heintiau llif gwaed mewn ysbytai ledled Cymru ac mae’n gyson â’r duedd yn ein cyfraddau marwolaethau MRSA ers 2005.

Bu cynnydd sylweddol rhwng 1994 a 2005 yng nghyfradd marwolaethau lle crybwyllwyd MRSA, wedi’u safoni yn ôl oedran; wedi hynny bu gostyngiad i lefel debyg i’r hyn a welwyd yn 1994. Cynyddodd y gyfradd o 5.7 am bob miliwn o boblogaeth yn 1994 gan gyrraedd brig o 40.2 am bob miliwn yn 2005. Ers hynny mae wedi gostwng i 8.1 am bob miliwn yn 2014.

Gwelwyd tuedd debyg ar gyfer marwolaethau lle crybwyllwyd S. aureus, gan fod y gyfradd wedi’i safoni yn ôl oedran wedi cynyddu i ddechrau o 11.1 i 49.7 am bob miliwn o boblogaeth rhwng 1993 a 2005, cyn disgwyn i 15.4 am bob miliwn yn 2014.

Nôl i'r tabl cynnwys

5. Tueddiadau dros amser mewn cyfraddau marwolaethau lle roedd MRSA ac S. aureus yn ffactor fesul oedran

Gan mai ychydig o dystysgrifau marwolaeth sy’n crybwyll MRSA ac S. aureus bob blwyddyn, rydym wedi cyfuno data o gyfnodau o bum mlynedd er mwyn edrych ar y gwahaniaethau rhwng y ddau ryw a’r gwahanol grwpiau oedran.

Ym mhob cyfnod o bum mlynedd rhwng 1993 i 1997 a 2010 i 2014, roedd y gyfradd oed-benodol ar gyfer marwolaethau lle crybwyllwyd MRSA ac S. aureus yn cynyddu gydag oedran ac yn tueddu i fod yn uwch ar gyfer gwrywod nag ar gyfer benywod. Ar gyfer y ddau ryw, ymhlith pobl o dan 55 oed y gwelwyd y cyfraddau isaf ac ymhlith y rhai oedd yn 85 oed a hŷn y gwelwyd y cyfraddau uchaf.

Nid oedd unrhyw newid arwyddocaol yn y cyfraddau marwolaeth oed-benodol ar gyfer MRSA ymhlith gwrywod na benywod o dan 55 oed, nac ar gyfer menywod rhwng 55 a 64 oed dros gyfnod o amser. Yn y grwpiau oedran eraill, fe gynyddodd y cyfraddau i ddechrau cyn disgyn i lefelau tebyg i’r rhai a welwyd yn y cyfnod o 1993 i 1997. Er enghraifft, cynyddodd y cyfraddau ar gyfer gwrywod rhwng 55 a 64 oed yn sylweddol, o 8.0 marwolaeth am bob miliwn yn y cyfnod o 1993 i 1997 gan gyrraedd brig o 31.9 am bob miliwn yn 2002 i 2006, yna disgyn i 7.4 am bob miliwn yn 2010 i 2014.

Ym mhob cyfnod, roedd cyfran uwch o’r marwolaethau S. aureus i’w priodoli i MRSA ymhlith y grŵp oedran hynaf nag yn y grŵp ieuengaf. Er enghraifft, ymhlith pobl 85 oed a hŷn yn 2010 i 2014, roedd tua 79% o’r marwolaethau o S. aureus ymhlith gwrywod a 63% ymhlith benywod i’w priodoli i MRSA. Ar y llaw arall, ymhlith pobl o dan 55 oed yn yr un cyfnodau o flynyddoedd, 41% o’r marwolaethau o S. aureus oedd i’w priodoli i MRSA ymhlith gwrywod a 38% ymhlith benywod.

Mae pobl sâl mewn cyfleusterau gofal iechyd yn wynebu mwy o risg o gael MRSA. Mae’r ffigurau hyn yn amlygu’r ffaith fod pobl hŷn mewn mwy o berygl gan eu bod yn debygol o fod â systemau imiwnedd gwannach na phobl iau, ac yn debygol o ddioddef o nifer o broblemau iechyd ar yr un pryd.

Nôl i'r tabl cynnwys

6. Mae’r rhan fwyaf o farwolaethau MRSA yn digwydd yn ysbytai’r GIG

Roedd marwolaethau lle roedd S. aureus yn ffactor yn cyfrif am 0.2%, a MRSA yn cyfrif am 0.1% o’r holl farwolaethau a gofrestrwyd yng Nghymru yn y cyfnod o 2010 i 2014.

O ddadansoddi yn ôl lleoliad marwolaeth, gwelir bod 94% o’r marwolaethau lle roedd S. aureus yn ffactor a 93% o farwolaethau MRSA yng Nghymru wedi digwydd yn ysbytai’r GIG. Mae’r ffigurau hyn yn cynrychioli 0.3% ar gyfer y naill a 0.2% ar gyfer y llall, o’r holl farwolaethau yn ysbytai’r GIG.

Gan fod mwyafrif yr holl farwolaethau yng Nghymru yn digwydd yn ysbytai’r GIG, fe ddisgwylid i gyfrannau’r marwolaethau lle mae S. aureus ac MRSA yn ffactor fod yn uwch yn y sefydliadau hyn nag mewn mathau eraill o sefydliad.

Cartrefi gofal nad oeddent yn perthyn i awdurdod lleol oedd â’r nifer, a’r ganran, ail uchaf o’r holl farwolaethau lle roedd S. aureus ac MRSA yn ffactor. At hynny, nodwyd bod 9 o’r 10 marwolaeth lle roedd S. aureus yn ffactor ac a ddigwyddodd yn y math hwn o sefydliad yn rhai lle roedd yr heintiad yn gwrthsefyll meticillin. Ar y llaw arall, ni chafwyd unrhyw farwolaethau lle roedd S. aureus ac MRSA yn ffactor mewn cartrefi gofal yn perthyn i awdurdodau lleol.

Nôl i'r tabl cynnwys

7. Cefndir

Math cyffredin o facteria (germ) yw S. aureus sy’n byw ar groen ac yn ffroenau pobl iach, a hynny heb beri unrhyw niwed (Public Health England, 2014).

Mae’r rhan fwyaf o fathau o S. aureus yn sensitif i’r gwrthfiotigau mwyaf cyffredin a ddefnyddir, ac mae modd trin yr heintiau y maent yn eu hachosi yn effeithiol. Fodd bynnag, mae rhai mathau o’r bacteria yn gwrthsefyll y gwrthfiotigau hyn. Datblygodd y rhan fwyaf o fathau o S. aureus ymwrthedd i benicillin yn ystod y 1950au. Tua diwedd y 1950au, fe ddatblygodd cemegwyr wrthfiotig o’r enw meticillin, nad oedd y bacteria a oedd yn gwrthsefyll penicillin yn ei ddinistrio. Fodd bynnag, dechreuodd mathau o facteria a oedd yn ei wrthsefyll ymddangos yn fuan ar ôl cyflwyno meticillin, a lledaenodd y rhain yn gyflym yn ystod y 1990au. Mae’r term MRSA yn cyfeirio at facteria S. aureus sy’n gwrthsefyll gwrthfiotigau o’r enw beta-lactamau. Mae’r grŵp hwn o wrthfiotigau yn cynnwys meticillin a gwrthfiotigau eraill mwy cyffredin fel oxacillin, penicillin ac amoxicillin.

Gall MRSA beri cyflyrau sy’n amrywio o fod yn ysgafn i beryglu bywyd os bydd cyfle iddo fynd i mewn i’r corff drwy doriad yn y croen neu drwy driniaeth sy’n gofyn am ddyfais feddygol fewnwthiol (Public Health England, 2014). Mae’r rhain yn cynnwys heintiau croen a chlwyfau, ecsema heintiedig, crawniadau neu heintiau yn y cymalau a niwmonia, heintiau yn falfiau’r galon (endocarditis), bacteremia (heintiau llif gwaed) a gwenwyn bwyd.

Yn y gymuned, heintiau croen yw’r rhan fwyaf o heintiau MRSA, ac mewn lleoliadau gofal iechyd mae MRSA yn achosi heintiau llif gwaed sy’n peryglu bywydau, hefyd niwmonia a haint ar friw llawdriniaeth (Centre for Disease Control and Prevention, 2015).

Rhan o’r rheswm am y pryder ynghylch MRSA yw ei fod yn dangos mwy o ymwrthedd i gyffuriau na mathau eraill o S. aureus, a hefyd fod pobl yn ei gysylltu yn arbennig â heintiau a gafwyd yn yr ysbyty (Iechyd Cyhoeddus Cymru, 2011). Mae pryder cynyddol hefyd mewn rhai rhannau o’r byd am MRSA a gafwyd yn y gymuned, gydag astudiaethau (Herold et al. 1998; Salmenlinna S, Lyytikäinen O a Vuopio-Varkila J, 2002) yn awgrymu bod modd canfod y math hwn o MRSA mewn pobl sy’n iach fel arall ac sydd heb fod mewn cysylltiad cyn hynny â chyfleusterau gofal iechyd na phobl a fu yn yr ysbyty.

Nôl i'r tabl cynnwys

8. Defnyddio data MRSA

Iechyd Cyhoeddus Cymru sy’n gwneud y prif ddefnydd o ddata am nifer yr achosion a nifer y marwolaethau ar gyfer heintiau S. aureus ac MRSA yng Nghymru, a hynny er mwyn amlygu baich MRSA a monitro a gwerthuso rhaglenni ymyrryd sydd â’r nod o’i leihau. Defnyddir y data hefyd gan fyrddau iechyd lleol a sefydliadau gofal iechyd unigol.

Yn 2004, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei strategaeth i leihau nifer yr heintiadau cysylltiedig â gofal iechyd yn ysbytai Cymru. At hynny, mae goruchwyliaeth gynhwysfawr o heintiadau llif gwaed oherwydd MRSA yn cael ei rheoli gan WHAIP. Drwy’r rhaglen oruchwylio caiff Byrddau Iechyd wybodaeth am gyfraddau gwahanol fathau o haint yn eu sefydliadau fel y gallant wybod beth y dylid edrych i mewn iddo a beth y dylid ei wneud.

Nôl i'r tabl cynnwys

9. Dulliau

Ffynhonnell y data

Mae’r wybodaeth a ddefnyddir yn y bwletin hwn yn seiliedig ar y manylion a gesglir pan ardystir ac y cofrestrir marwolaethau. Mae pob marwolaeth yn cael ei chodio gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn ôl y Dosbarthiad Rhyngwladol o Glefydau (ICD) a gynhyrchir gan Sefydliad Iechyd y Byd.

Ers 1993, mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi cadw testun tystysgrifau marwolaeth mewn cronfa ddata, ynghyd â’r holl godau ICD perthynol i’r achosion a nodwyd ar y dystysgrif marwolaeth. Defnyddiwyd y Degfed Adolygiad (ICD-10) i godio marwolaethau yng Nghymru ers 2001.

Y dull a ddefnyddiwyd i ddewis marwolaethau

Cafodd y testun ar dystysgrifau marwolaeth ei ddefnyddio ar y cyd â chodau ICD-10 er mwyn nodi’r rhai sy’n crybwyll MRSA ac S. aureus mewn proses dau gam.

Mae nifer o heintiau yn ymwneud yn benodol ag S. aureus neu rywogaethau eraill Staphylococcus. I ddechrau, echdynnwyd yr holl farwolaethau lle cafodd unrhyw un o’r heintiau hyn eu crybwyll ar y dystysgrif marwolaeth. Echdynnwyd y marwolaethau hyn gan ddefnyddio’r codau ICD-10 a roddir ym Mlwch 1 yn y tabl Cyfeirio . Wedyn, chwiliwyd testun y tystysgrifau marwolaeth, yn electronig ac â llaw, er mwyn dod o hyd i MRSA ac S. aureus.

Ar y llaw arall, mae organebau achosol gwahanol gan rai heintiau ac fe allai rhywogaeth Staphylococcus neu bathogenau eraill eu hachosi. Yr ail gam felly yw echdynnu pob marwolaeth lle crybwyllwyd yr heintiau amhenodol hyn ar y dystysgrif marwolaeth. Rhoddir y codau a ddefnyddir i nodi’r heintiau hyn ym Mlwch 2 yn y tabl cyfeirio. Yna fe chwiliwyd testun y tystysgrifau marwolaeth hyn â llaw er mwyn canfod S. aureus ac MRSA.

Nodwyd marwolaethau lle mai S. aureus oedd yr achos sylfaenol drwy ddewis y marwolaethau hynny a oedd yn crybwyll S. aureus ac a oedd hefyd yn nodi un o’r heintiau a restrir ym Mlwch 1 neu ym Mlwch 2 fel yr achos sylfaenol. Dilynwyd yr un drefn er mwyn nodi marwolaethau oedd ag MRSA fel achos sylfaenol.

Ers 1986, mae ONS wedi defnyddio'r dystysgrif marwolaeth a argymhellir yn rhyngwladol ar gyfer marwolaethau babanod newyddanedig (dan 28 diwrnod oed). Lluniwyd y dystysgrif hon i gofnodi pob cyflwr oedd i’w weld adeg y farwolaeth. Mae hyn yn golygu na ellir pennu achos sylfaenol marwolaeth ar gyfer babanod newyddanedig. Fodd bynnag, gan fod y data yn seiliedig ar farwolaethau lle crybwyllwyd MRSA ac S. aureus ar y dystysgrif marwolaeth, mae babanod newyddanedig wedi cael eu cynnwys. Echdynnwyd marwolaethau babanod newyddanedig yn yr un ffordd ag a ddisgrifiwyd ar gyfer marwolaethau babanod ôl-newyddanedig.

Oedi cyn cofrestru

Mae’r wybodaeth a ddefnyddir i gynhyrchu ystadegau marwolaethau yn seiliedig ar y manylion a gesglir pan gaiff marwolaethau eu hardystio a’u cofrestru. Yng Nghymru, dylid cofrestru marwolaethau cyn pen pum diwrnod wedi iddynt ddigwydd, ond mewn rhai sefyllfaoedd nid yw hynny’n bosibl. Pan ystyrir bod marwolaeth yn annisgwyl, damweiniol neu amheus, caiff ei chyfeirio i sylw crwner. Gall yntau orchymyn bod post-mortem yn cael ei gynnal, neu fe all gynnal cwest llawn er mwyn gwybod beth oedd y rhesymau am y farwolaeth.

Mae’r ystadegau ynghylch marwolaethau lle roedd MRSA ac S. aureus yn ffactor yn cael eu cyflwyno ar sail nifer y marwolaethau a gofrestrwyd ym mhob blwyddyn galendr yn hytrach na nifer y marwolaethau a ddigwyddodd yn y flwyddyn honno. Defnyddir y dull hwn oherwydd ei bod yn ofynnol cyflwyno data cyson, amserol, er ei bod yn bosibl y bydd ansawdd y data yn dioddef os oedir cyn cofrestru rhai marwolaethau.

Yn 2014, nifer cyfartalog (canolrifol) y diwrnodau rhwng dyddiad y farwolaeth a dyddiad ei chofrestru, ar gyfer cofrestru marwolaethau lle crybwyllwyd MRSA neu lle cafodd ei enwi fel achos sylfaenol y farwolaeth oedd pedwar diwrnod. Cafodd mwyafrif y marwolaethau lle crybwyllwyd MRSA ar y dystysgrif marwolaeth (80%) a mwyafrif y marwolaethau a achoswyd ganddo (75%) eu cofrestru cyn pen 5 diwrnod. Cafodd pob marwolaeth a achoswyd yn uniongyrchol gan MRSA a 92% o’r rhai lle cafodd ei grybwyll ar dystysgrifau marwolaeth eu cofrestru cyn pen 30 diwrnod.

Digwyddodd mwyafrif y marwolaethau lle roedd MRSA yn ffactor ac a gofrestrwyd yn 2014 (23 allan o 25 neu 92%) a phob un o’r marwolaethau lle nodwyd mai dyna oedd yr achos sylfaenol, yn yr un flwyddyn. Gan hynny nid yw oedi cyn cofrestru yn debygol o fod wedi effeithio ar y tueddiadau a gofnodir yn y bwletin hwn.

Nôl i'r tabl cynnwys

10. Canlyniadau ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol

Mae ffigurau ar gyfer marwolaethau lle roedd MRSA ac S. aureus yn ffactor o 1993 i 2014 i’w cael yn y tabl cyfeirio ar ein gwefan. Mae’r llawlyfr hwn mewn (144 Kb Excel sheet) Excel yn cynnwys nifer y marwolaethau ym mhob blwyddyn, cyfraddau wedi’u safoni yn ôl oedran, cyfraddau oed-benodol a dadansoddiad yn ôl lleoliad y farwolaeth.

Nôl i'r tabl cynnwys

11 .Cyfeiriadau

Y Ganolfan Rheoli ac Atal Clefydau (2015). Methicillin-resistant Staphylococcus aureus (MRSA) Infections [gwelwyd 24 Gorffennaf 2015].

Herold B, Immergluck L, Maranan M, Lauderdale D, Gaskin R, Boyle-Vavra S, Leitch C, Daum R (1998) Community-acquired Methicillin-Resistant Staphylococcus aureus in children with no identified predisposing risk. Journal of the American Medical Association, 279(8).tt 593-598 [gwelwyd 24 Gorffennaf 2015].

Public Health England (2014) Staphylococcus aureus: guidance, data and analysis [gwelwyd 24 Gorffennaf 2015].

Iechyd Cyhoeddus Cymru (2011) Staphylococcus aureus (MRSA) [gwelwyd 27 Gorffennaf 2015].

Iechyd Cyhoeddus Cymru (2013) Staphylococcus aureus bacteraemia blood stream infection surveillance [gwelwyd 27 Gorffennaf 2015].

Iechyd Cyhoeddus Cymru (2015) All Wales: Top Ten Blood Stream Infections [gwelwyd 24 Gorffennaf 2015].

Salmenlinna S, Lyytikäinen O, a Vuopio-Varkila J (2002) Community-acquired Methicillin-Resistant Staphylococcus aureus, Finland. Emerging Infectious Disease Journal [e-gyfnodolyn], 8(6), Mehefin [gwelwyd 24 Gorffennaf 2015].

Llywodraeth Cymru (2004) Healthcare Associated Infections – A Strategy for Hospitals in Wales. [gwelwyd 24 Gorffennaf 2015].

Nôl i'r tabl cynnwys

12 .Nodiadau cefndirol

  1. Mae’r ffigurau ar gyfer marwolaethau a gofrestrwyd ym mhob blwyddyn galendr, a’r cyfraddau yn seiliedig ar amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn fel enwadur.

  2. Mae gwybodaeth am y data sylfaenol ar farwolaethau, gan gynnwys manylion am sut y caiff y data eu casglu a’u codio, ar gael yn y metadata marwolaethau (2.46 Mb Pdf) .

  3. Mae’n anodd amcangyfrif nifer y marwolaethau sydd o ganlyniad i MRSA. Fel rheol bydd tueddiadau mewn marwolaethau yn cael eu monitro gan ddefnyddio achos sylfaenol y farwolaeth (y clefyd a gychwynnodd y gadwyn o ddigwyddiadau a arweiniodd yn uniongyrchol at farwolaeth). Fodd bynnag, nid MRSA (na heintiau eraill sy’n gysylltiedig â gofal iechyd) yn aml yw achos sylfaenol y farwolaeth. Fel rheol, mae’r rhai sy’n marw gydag MRSA yn gleifion a oedd eisoes yn wael iawn, a’r clefyd oedd arnynt eisoes, yn hytrach nag MRSA, sydd yn aml yn cael ei roi fel achos sylfaenol y farwolaeth. Felly mae diddordeb gan bobl yn nifer y marwolaethau lle cyfrannodd MRSA i’r farwolaeth – ni ddylid cofnodi ar y dystysgrif marwolaeth unrhyw gyflyrau heblaw’r rhai sy’n cyfrannu’n uniongyrchol i’r farwolaeth honno. Mae’r canlyniadau a gyflwynir yn y bwletin hwn yn adnabod marwolaethau lle mai’r achos sylfaenol oedd MRSA a hefyd lle crybwyllwyd MRSA fel achos sylfaenol y farwolaeth neu ffactor a gyfrannodd iddi.

  4. Er y gelwir MRSA yn aml yn haint cysylltiedig â gofal iechyd, nid yw’n bosibl dweud oddi wrth yr wybodaeth ar dystysgrif marwolaeth lle cafodd rhywun yr haint ac ni ellir gwneud rhagdybiaethau chwaith ynghylch ansawdd gofal. Bydd pobl yn aml yn cael eu trosglwyddo rhwng ysbytai, cartrefi gofal a sefydliadau eraill a gallant ddal heintiau yn rhywle heblaw’r man lle byddant farw.

  5. Diwygiedig y canllawiau ar ardystio marwolaethau i feddygon ym mis Gorffennaf 2010, gan gyfeirio’n benodol at heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd. Yn dilyn hynny anfonwyd neges gan y Prif Swyddog Meddygol at bob meddyg i’w hatgoffa o’u cyfrifoldebau mewn perthynas ag ardystio marwolaethau ac i dynnu eu sylw at y canllawiau (Department of Health, 2005).

  6. Adroddir ar ddau fath o gyfradd yn y bwletin hwn sef cyfradd oed-benodol a chyfradd wedi’i safoni yn ôl oedran. Mae’n bosibl cyfrifo cyfraddau oed-benodol ar gyfer grwpiau oedran penodol ac mae’r rhain yn cael eu diffinio fel nifer y marwolaethau yn y grŵp oedran hwnnw am bob miliwn (neu fil) o boblogaeth yn yr un grŵp oedran. Er bod modd cymharu’r cyfraddau hyn rhwng gwahanol amserau, lleoedd ac is-boblogaethau, mae’r tablau sy’n eu cynnwys yn rhai mawr, gan amlaf, a gall fod yn anodd eu cymathu. At hynny, os mai ychydig iawn o farwolaethau sydd, ni fydd y cyfraddau hyn yn fanwl gywir ac efallai y bydd yn anodd eu dehongli. Mae cyfraddau sydd wedi’u safoni yn ôl oedran yn caniatáu ar gyfer gwahaniaethau yn strwythur oedran y boblogaeth, dros amser a rhwng y ddau ryw. Mae’r cyfraddau a gyflwynir yma wedi’u safoni yn ôl oedran gan ddefnyddio’r dull safoni uniongyrchol (93.5 Kb Excel sheet) . Y gyfradd wedi’i safoni yn ôl oedran ar gyfer clefyd penodol yw’r gyfradd a fuasai wedi digwydd petai’r cyfraddau oed-benodol a welwyd ar gyfer y clefyd hwnnw wedi bod yn ddilys yn y boblogaeth safonol dan sylw. Yn y bwletin hwn fe ddefnyddiwyd Poblogaeth Safonol Ewropeaidd 2013. Safon poblogaeth ddamcaniaethol yw hon, sydd yr un fath ar gyfer gwrywod a benywod, fel y gellir cymharu cyfraddau a safonwyd dros gyfnod o amser a rhwng y ddau ryw.

  7. Ni chyfrifwyd cyfraddau oed-benodol lle roedd llai na thair marwolaeth mewn grŵp oedran. Yn yr un modd, ni chyfrifwyd cyfraddau wedi’u safoni yn ôl oedran lle roedd llai na 10 marwolaeth mewn cyfnod penodol, ac efallai na fydd y rhai a gyfrifwyd gan ddefnyddio 10 i 19 marwolaeth yn ddibynadwy iawn ac felly cânt eu marcio ag (u). Lle na chafodd cyfradd ei chyfrifo oherwydd niferoedd isel, sef yr hyn a ddisgrifir uchod, gadawyd y gell yn wag a’i marcio ag (u) er mwyn dangos na chafodd y gyfradd ei chyfrifo oherwydd nad oedd yr wybodaeth yn ddigon dibynadwy.

  8. Yn y bwletin hwn, pan ddisgrifir gwahaniaeth fel un ‘arwyddocaol yn ystadegol’, mae wedi cael ei asesu gan ddefnyddio cyfyngau hyder. Mesur yw cyfyngau hyder o fanwl gywirdeb ystadegol amcangyfrif ac maent yn dangos faint o ansicrwydd sydd o’i amgylch. Mae cyfrifiadau sy’n seiliedig ar niferoedd bach o ddigwyddiadau yn aml yn dangos hap-amrywiadau. Caiff arwyddocâd ei bennu ar sail cyfyngau hyder nad ydynt yn gorgyffwrdd. Er bod dulliau mwy ffurfiol a manwl gywir ar gael i brofi arwyddocâd, defnyddir y dull cyfyngau hyder nad ydynt yn gorgyffwrdd am ei fod yn hawdd ei gyfrifo a’i ddeall. Yn gyffredinol, os bydd cyfwng hyder un amcangyfrif yn gorgyffwrdd â chyfwng amcangyfrif arall, nid oes gwahaniaeth arwyddocaol rhwng y ddau amcangyfrif.

  9. Gellir archebu echdyniadau arbennig a thablau o ddata marwolaethau lle roedd MRSA yn ffactor yng Nghymru am dâl (yn amodol ar fframweithiau cyfreithiol, rheolaeth ar ddatgelu, adnoddau a chytuno ar gostau, lle bo’n briodol). Dylid gwneud ceisiadau neu ymholiadau i:

    Tîm Dadansoddi Marwolaethau, Is-adran Digwyddiadau Bywyd a Ffynonellau Poblogaeth
    Y Swyddfa Ystadegau Gwladol
    Adeiladau’r Llywodraeth
    Heol Caerdydd
    Casnewydd
    NP10 8XG
    Ffôn: +44 (0) 1633 456736
    Ebost: mortality@ons.gsi.gov.uk

  10. Mae polisi’r Swyddfa Ystadegau Gwladol ar godi tâl i’w weld ar ein gwefan.

  11. Byddem yn croesawu adborth ar gynnwys, ffurf a pherthnasedd y cyhoeddiad hwn. Anfonwch eich adborth i’r cyfeiriad post neu e-bost uchod os gwelwch yn dda.

  12. Mae gwybodaeth am y dimensiynau ansawdd amrywiol, ynghyd â chrynodeb o’r dulliau a ddefnyddiwyd i lunio’r adroddiad hwn ar gael yn y Quality and Methodology Information notes (QMI).

  13. Y Swyddfa Ystadegau Gwladol sy’n cynhyrchu ystadegau am MRSA ar gyfer Cymru. National Records of Scotland (NRS), sef Swyddfa Gofrestru Gyffredinol yr Alban gynt, sy’n cynhyrchu ystadegau ar gyfer yr Alban a Northern Ireland Statistics and Research Agency (NISRA) ar gyfer Gogledd Iwerddon.

  14. Mae rhestr o enwau’r rhai sy’n cael gweld yr ystadegau a’r sylwadau ysgrifenedig cyn eu cyhoeddi ar gael yn y rhestr mynediad cyn cyhoeddi at Farwolaethau lle mae MRSA yn ffactor. Mae’r rheolau a’r egwyddorion sy’n pennu mynediad cyn cyhoeddi yn cael eu cynnwys yng Ngorchymyn Gweld Ystadegau Swyddogol cyn eu Rhyddhau 2008.

  15. Cynhyrchir Ystadegau Gwladol yn unol â’r safonau proffesiynol uchel a nodir yn y Cod Ymarfer ar Ystadegau Gwladol. Cynhelir adolygiadau sicrhau ansawdd rheolaidd er mwyn sicrhau eu bod yn diwallu anghenion cwsmeriaid. Fe’u cynhyrchir heb unrhyw ymyrraeth wleidyddol.

  16. Mae manylion y polisi ar ryddhau data newydd ar gael yn www.statisticsauthority.gov.uk/assessment/code-of-practice/index.html neu drwy anfon e-bost at y Swyddfa Cysylltiadau â'r Cyfryngau: media.relations@ons.gsi.gov.uk

    Caiff yr Ystadegau Gwladol hyn eu cynhyrchu yn unol â safonau proffesiynol uchel a'u rhyddhau yn unol â'r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau'r DU.

Nôl i'r tabl cynnwys

13 . Methodology

Manylion cyswllt ar gyfer y Bwletin ystadegol

Olugbenga Olatunde
mortality@ons.gsi.gov.uk
Ffôn: +44 (0)1633 456491