Cynnwys
- Pwyntiau allweddol
- Crynodeb
- Nifer y marwolaethau lle roedd C. difficile yn ffactor
- Cyfraddau wedi’u safoni yn ôl oedran ar gyfer marwolaethau lle roedd C. difficile yn ffactor
- Cyfraddau marwolaethau oed-benodol ar gyfer marwolaethau lle roedd C. difficile yn ffactor
- Lleoliad marwolaeth
- Oedi cyn cofrestru
- Canlyniadau ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol
- Dulliau
- Ystadegau Clostridium difficile ar gyfer gwledydd eraill y DU
- Cyfeiriadau
- Nodiadau cefndirol
- Methodoleg
1. Pwyntiau allweddol
Yn 2014, cafwyd 111 o dystysgrifau marwolaeth yng Nghymru lle crybwyllwyd Clostridium difficile (C. difficile) sef 66 yn llai nag yn 2013 (177 marwolaeth).
Yn 2014, cafwyd 111 o dystysgrifau marwolaeth yng Nghymru lle crybwyllwyd Clostridium difficile (C. difficile) sef 66 yn llai nag yn 2013 (177 marwolaeth).
Cynyddodd y gyfradd wedi’i safoni yn ôl oedran ar gyfer marwolaethau lle roedd C. difficile yn ffactor, o 22.6 i 164.8 marwolaeth am bob miliwn o boblogaeth, rhwng 1999 a 2008. Oddi ar hynny mae’r gyfradd wedi gostwng yn sylweddol o 78% i 35.8 am bob miliwn yn 2014.
Fe gynyddodd nifer y marwolaethau lle roedd C. difficile yn ffactor gydag oedran. Yn y cyfnod o 2012 i 2014 roedd y gyfradd marwolaethau oed-benodol ar gyfer pobl 85 oed a hŷn yn 995.3 am bob miliwn o boblogaeth o’i chymharu ag 1.0 am bob miliwn o boblogaeth ar gyfer y rhai dan 55 oed.
Yn 2014, digwyddodd dros 95% o’r marwolaethau lle roedd C. difficile yn ffactor mewn ysbytai.
2. Crynodeb
Mae’r bwletin hwn yn rhoi’r ffigurau diweddaraf ar gyfer marwolaethau yng Nghymru lle crybwyllwyd C. difficile neu lle pennwyd mai dyna oedd achos sylfaenol y farwolaeth ar dystysgrifau marwolaeth. Dadansoddir y ffigurau yn ôl rhyw, oedran a lleoliad y farwolaeth. Gwneir cymariaethau rhwng data ar gyfer 2014 a data a gyhoeddwyd o’r blaen o’r flwyddyn 1999 ymlaen. Rhoddir gwybodaeth am gyd-destun ystadegau a’r defnydd a wneir ohonynt a pha ddulliau a ddefnyddiwyd er mwyn eu cynhyrchu.
Mae’r ffigurau yn seiliedig ar y marwolaethau a gofrestrwyd ym mhob blwyddyn, yn hytrach na’r rhai a ddigwyddodd ym mhob blwyddyn, ond gan fod mwyafrif y marwolaethau C. difficile a gofrestrwyd yn 2014 hefyd wedi digwydd yn y flwyddyn honno, nid yw oedi cyn cofrestru yn debygol o fod wedi effeithio ar ein canfyddiadau. Am wybodaeth bellach, gweler yr adran ynglŷn ag oedi cyn cofrestru.
Cefndir
Math o facteria sy’n bresennol yn naturiol yng ngholuddion 2 o bob 3 o blant a 3 o bob 100 o oedolion yw C. difficile, ond nid yw’n achosi unrhyw niwed i bobl iach am fod ei dwf yn cael ei reoli gan facteria eraill yn y corff. Fodd bynnag, gall rhai gwrthfiotigau ymyrryd â chydbwysedd naturiol y coluddyn drwy ddinistrio’r bacteria sydd fel arfer yn rhwystro C.difficile rhag lluosogi (Bupa, 2015). Os digwydd hynny, gall bacteria C.difficile gynyddu nes cyrraedd lefelau anarferol o uchel a chynhyrchu tocsinau sy’n ymosod ar y coluddion. Mae rhai pobl yn cael eu heffeithio gan C. difficile heb iddynt ddangos unrhyw symptomau; bydd eraill yn cael dolur rhydd, gwres uchel a chramp yn eu bol. Mewn achosion eithafol, gall achosi llid y coluddyn a hynny’n gallu peryglu bywyd y claf (NHS, 2014).
Mae bacteria C. difficile yn ffurfio sborau sy’n dod allan o’r corff yng ngharthion y sawl a heintiwyd. Mae’r sborau hyn yn gallu gwrthsefyll yr amodau sydd yn bodoli y tu allan i’r corff ac yn gallu llygru toiledau, croen a dillad. Gallant ymledu’n rhwydd drwy’r aer neu pan ddaw dwylo pobl i gysylltiad â chleifion a heintiwyd neu arwynebau a lygrwyd. Dim ond trwy lanhau trylwyr iawn y gellir cael gwared â hwy. Felly gall y bacteria ymledu’n hawdd (NHS, 2014).
Ers Ionawr 2005 mae’n ofynnol i bob Bwrdd Iechyd yng Nghymru arolygu nifer yr achosion o heintio â C. difficile sy’n digwydd yn eu hysbytai. Rheolir y gwaith arolygu hwn gan Raglen Heintiau sy'n Gysylltiedig â Gofal Iechyd Cymru (WHAIP), sy’n rhan o Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae’r ffigurau diweddaraf ar gyfer Ebrill 2014 hyd Fai 2015 yn dangos bod 847 o achosion o heintio â C. difficile wedi’u gwneud yn hysbys ymhlith cleifion preswyl mewn ysbytai. Mae hyn yn ostyngiad o 22% pan gymharir â’r 1,089 achos a gofnodwyd rhwng Ebrill 2013 a Mai 2014.
Nôl i'r tabl cynnwys3. Nifer y marwolaethau lle roedd C. difficile yn ffactor
Yn 2014, cofnodwyd 111 o farwolaethau yng Nghymru lle roedd C. difficile yn ffactor, sef gostyngiad o 37% o’i gymharu â’r nifer a gofnodwyd yn 2013 (177) a’r nifer isaf ers 2005. Mae hefyd yn cynrychioli gostyngiad o 76% o’i gymharu â’r flwyddyn 2008 pan gofrestrwyd y nifer uchaf o farwolaethau (461).
Bu gostyngiad yn nifer y marwolaethau ymhlith gwrywod, o 69 yn 2013 i 52 yn 2014; yn yr un cyfnod bu gostyngiad yn nifer y marwolaethau ymhlith benywod o 108 i 59.
Gall C. difficile gyfrannu i farwolaeth ond weithiau hefyd mae’n uniongyrchol gyfrifol am achosi marwolaeth. Yn 2014, o’r 111 tystysgrif marwolaeth a grybwyllai C. difficile, dywedai 42 (38%) hefyd mai dyna oedd achos sylfaenol marwolaeth yr unigolyn hwnnw. Gwelwyd gostyngiad o 54% yn nifer y marwolaethau lle mai C. difficile oedd yr achos sylfaenol, o 91 i 42, rhwng 2013 a 2014.
O’r 52 tystysgrif marwolaeth a grybwyllai C. difficile ymhlith gwrywod, roedd 18 yn cofnodi mai dyna oedd achos sylfaenol y farwolaeth. O’r 59 marwolaeth ymhlith benywod lle crybwyllwyd C. difficile, cofnodai 24 hefyd mai dyna oedd achos sylfaenol y farwolaeth.
Tabl 1: Nifer y tystysgrifau marwolaeth lle crybwyllwyd Clostridium difficile a'r nifer lle mai dyna oedd achos sylfaenol marwolaeth
Cymru | ||||||||||||||||
1999 | 2000 | 2001 | 2002 | 2003 | 2004 | 2005 | 2006 | 2007 | 2008 | 2009 | 2010 | 2011 | 2012 | 2013 | 2014 | |
Tystysgrifau lle crybwyllwyd C. difficile | 56 | - | 64 | 89 | 83 | 88 | 104 | 170 | 399 | 461 | 381 | 368 | 236 | 155 | 177 | 111 |
Tystysgrifau lle mai C. difficile oedd achos sylfaenol marwolaeth | 31 | - | 29 | 47 | 46 | 54 | 61 | 93 | 177 | 203 | 201 | 184 | 118 | 82 | 91 | 42 |
Canran yr achosion lle crybwyllwyd C. difficile lle mai dyna a ddetholwyd fel achos sylfaenol y farwolaeth | 55.4 | - | 45.3 | 52.8 | 55.4 | 61.4 | 58.7 | 54.7 | 44.4 | 44 | 52.8 | 50.0 | 50.0 | 52.9 | 51.4 | 37.8 |
Ffynhonnell y Tabl: Y Swyddfa Ystadegau Gwladol | ||||||||||||||||
Nodiadau'r Tabl: | ||||||||||||||||
1. Diffinnir marwolaethau lle mae C. difficile yn ffactor gan ddefnyddio cyfuniad o unrhyw grybwylliad o godau A04.7, A05.8, A41.4, A48.0, A49.8 a P36.5 yn Negfed Adolygiad y Dosbarthiad Rhyngwladol o Glefydau (ICD 10) unrhyw le ar y dystysgrif marwolaeth a chrybwyll C. difficile neu gyflyrau cysylltiedig yn nhestun y dystysgrif marwolaeth. Mae manylion pellach i'w gweld yn yr adran Dulliau yn y bwletin. | ||||||||||||||||
2. Cyfrifwyd cyfraddau marwolaethau wedi’u safoni yn ôl oedran am bob miliwn o boblogaeth gan ddefnyddio Poblogaeth Safonol Ewropeaidd 2013. Mae cyfraddau wedi'u safoni yn ôl oedran yn ein galluogi i gymharu poblogaethau â gwahanol adeileddau oedran | ||||||||||||||||
3. Mae'r ffigurau yn seiliedig ar ffiniau daearyddol ym mis Mai 2015 ac yn eithrio marwolaethau pobl o'r tu allan. | ||||||||||||||||
4. Yn 2014 nifer cyfartalog y diwrnodau rhwng dyddiad marwolaeth a dyddiad cofrestru oedd 3 diwrnod ar gyfer C. difficile | ||||||||||||||||
5. Dim ond lle mae achosion y farwolaethau wedi'u codio gan ddefnyddio Degfed Adolygiad y Dosbarthiad Rhyngwladol o Glefydau y mae data ar gael. Defnyddiwyd hwn gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ym 1999 fel rhan o astudiaeth arbennig i gymharu dau Adolygiad y Dosbarthiad Rhyngwladol o Glefydau ac o 2001 ymlaen. Felly nid yw data ar gyfer 2000 ar gael. |
Download this table Tabl 1: Nifer y tystysgrifau marwolaeth lle crybwyllwyd Clostridium difficile a'r nifer lle mai dyna oedd achos sylfaenol marwolaeth
.xls (29.7 kB)4. Cyfraddau wedi’u safoni yn ôl oedran ar gyfer marwolaethau lle roedd C. difficile yn ffactor
Mae’r cyfraddau wedi’u safoni yn ôl oedran ar gyfer marwolaethau lle roedd C. difficile yn ffactor yn tueddu i godi a gostwng o flwyddyn i flwyddyn. Ar gyfer pawb, cynyddodd y cyfraddau o 22.6 marwolaeth am bob miliwn o boblogaeth ym 1999 i 164.8 marwolaeth am bob miliwn yn 2008. Bu gostyngiad cyson yn y cyfraddau, i 35.8 marwolaeth am bob miliwn o boblogaeth yn 2014, sef y gyfradd isaf ers 2005.
Mae cyfraddau marwolaethau ymhlith gwrywod a benywod yn dilyn y patrwm hwn. Ar gyfer gwrywod, fe gynyddodd y cyfraddau o 18.8 am bob miliwn yn 1999 gan gyrraedd brig sef 177.2 marwolaeth yn 2008. Ar ôl hynny, gostyngodd y cyfraddau i 41.7 marwolaeth am bob miliwn o boblogaeth yn 2014. Roedd y cynnydd yn y cyfraddau rhwng 2006 a 2008 yn fwy sydyn o lawer na’r hyn a welwyd rhwng 1999 a 2005.
Gwelwyd tuedd debyg ar gyfer menywod: cynyddodd y cyfraddau o 24.4 am bob miliwn o fenywod yn 1999 i 157.9 am bob miliwn yn 2008, yna disgyn i 31.2 am bob miliwn yn 2014. Fel gyda gwrywod, roedd y cynnydd a welwyd yn y cyfraddau yn fwy sydyn o lawer rhwng 2006 a 2008 nag yn y blynyddoedd blaenorol. Yn 2014 nid oedd y gwahaniaeth rhwng cyfraddau marwolaeth ar gyfer gwrywod a benywod yn arwyddocaol yn ystadegol (gweler Ffigur 1).
Ffigur 1: Cyfraddau marwolaeth ar gyfer marwolaethau lle roedd Clostridium difficile yn ffactor yn ôl rhyw
Cymru, marwolaethau a gofrestrwyd rhwng 1999 a 2014
Source: Y Swyddfa Ystadegau Gwladol
Notes:
- Diffinnir marwolaethau lle mae C. difficile yn ffactor gan ddefnyddio cyfuniad o unrhyw grybwylliad o godau A04.7, A05.8, A41.4, A48.0, A49.8 a P36.5 yn Negfed Adolygiad y Dosbarthiad Rhyngwladol o Glefydau (ICD 10) unrhyw le ar y dystysgrif marwolaeth a chrybwyll C. difficile neu gyflyrau cysylltiedig yn nhestun y dystysgrif marwolaeth. Mae manylion pellach i'w gweld yn adran Dulliau.
- Cyfrifwyd cyfraddau marwolaethau wedi’u safoni yn ôl oedran am bob miliwn o boblogaeth gan ddefnyddio Poblogaeth Safonol Ewropeaidd 2013. Mae cyfraddau wedi'u safoni yn ôl oedran yn ein galluogi i gymharu poblogaethau â gwahanol adeileddau oedran
- Mae'r ffigurau yn seiliedig ar ffiniau daearyddol ym mis Mai 2015 ac yn eithrio marwolaethau pobl o'r tu allan.
- Yn 2014 nifer cyfartalog y diwrnodau rhwng dyddiad marwolaeth a dyddiad cofrestru oedd 3 diwrnod ar gyfer C. difficile.
- Dim ond lle mae achosion y farwolaethau wedi'u codio gan ddefnyddio Degfed Adolygiad y Dosbarthiad Rhyngwladol o Glefydau y mae data ar gael. Defnyddiwyd hwn gan Y Swyddfa Ystadegau Gwladol ym 1999 fel rhan o astudiaeth arbennig i gymharu dau Adolygiad y Dosbarthiad Rhyngwladol o Glefydau ac o 2001 ymlaen. Felly nid yw data ar gyfer 2000 ar gael.
Download this image Ffigur 1: Cyfraddau marwolaeth ar gyfer marwolaethau lle roedd Clostridium difficile yn ffactor yn ôl rhyw
.png (29.0 kB) .xls (29.7 kB)5. Cyfraddau marwolaethau oed-benodol ar gyfer marwolaethau lle roedd C. difficile yn ffactor
Mae mwyafrif y marwolaethau lle crybwyllwyd C. difficile ar y dystysgrif marwolaeth ymhlith pobl oedrannus. Wrth i bobl heneiddio, maent yn fwy tebygol o wynebu pethau sy’n cynyddu eu risg o gael eu heintio â C. difficile, megis dioddef problemau iechyd sylfaenol gan gynnwys canser neu glefydau cronig yr arennau, aros yn yr ysbyty am gyfnodau hwy a defnyddio gwrthfiotigau (NICE 2013).
Yn y cyfnod o 2012 i 2014, roedd y gyfradd marwolaethau oed-benodol ar gyfer pawb oedd yn 85 oed neu’n hŷn yn 995.3 am bob miliwn o boblogaeth, o’i chymharu ag 1.0 am bob miliwn o boblogaeth ar gyfer pobl o dan 55 oed. Ni fu unrhyw newid ystadegol arwyddocaol yn y cyfraddau ar gyfer pobl mewn grwpiau oedran iau na 65 oed dros gyfnod o amser. Ar gyfer y rhai yn y grwpiau oedran hŷn na 64 oed, bu newidiadau ystadegol arwyddocaol. Cynyddodd y cyfraddau i ddechrau a chyrraedd brig tua diwedd y 2000au, yna gostwng. Mae’r un peth yn wir pan edrychir ar y ffigurau ar gyfer gwrywod yn unig ac ar gyfer benywod yn unig.
Ar gyfer gwrywod, gwelwyd y gyfradd uchaf yn y cyfnod o 2007 i 2009, ar gyfer y rhai oedd yn 85 oed neu’n hŷn (2,634.3 am bob miliwn o wrywod). Roedd hyn deirgwaith yn uwch na’r gyfradd ar gyfer y rhai oedd rhwng 75 ac 84 oed yn yr un cyfnod. Yn y cyfnod o 2008 i 2010 y gwelwyd y gyfradd uchaf ar gyfer benywod (2,777.1 am bob miliwn o boblogaeth) ac roedd hynny bron i 4 gwaith yn uwch na’r gyfradd ar gyfer y rhai oedd rhwng 75 ac 84 oed yn yr un cyfnod (gweler Ffigurau 2 a 3).
Ffigure 2: Cyfraddau marwolaeth ar gyfer marwolaethau gwrywod lle crybwyllwyd Clostridium difficile ar y dystysgrif marwolaeth, yn ôl oedran
Cymru, marwolaethau a gofrestrwyd rhwng 2001 i 2003 a 2012 i 2014
Source: Y Swyddfa Ystadegau Gwladol
Notes:
- Diffinnir marwolaethau lle mae C. difficile yn ffactor gan ddefnyddio cyfuniad o unrhyw grybwylliad o godau A04.7, A05.8, A41.4, A48.0, A49.8 a P36.5 yn Negfed Adolygiad y Dosbarthiad Rhyngwladol o Glefydau (ICD 10) unrhyw le ar y dystysgrif marwolaeth a chrybwyll C. difficile neu gyflyrau cysylltiedig yn nhestun y dystysgrif marwolaeth. Mae manylion pellach i'w gweld yn adran Dulliau.
- Mynegir cyfraddau marwolaethau oed-benodol am bob miliwn o boblogaeth.
- Mae'r ffigurau yn seiliedig ar ffiniau daearyddol ym mis Mai 2015 ac yn eithrio marwolaethau pobl o'r tu allan.
- Yn 2014 nifer cyfartalog y diwrnodau rhwng dyddiad marwolaeth a dyddiad cofrestru oedd 3 diwrnod ar gyfer C. difficile
Download this image Ffigure 2: Cyfraddau marwolaeth ar gyfer marwolaethau gwrywod lle crybwyllwyd Clostridium difficile ar y dystysgrif marwolaeth, yn ôl oedran
.png (46.4 kB) .xls (31.2 kB)
Ffigure 3: Cyfraddau marwolaeth ar gyfer marwolaethau benywod lle crybwyllwyd Clostridium difficile ar y dystysgrif marwolaeth, yn ôl oedran
Cymru, marwolaethau a gofrestrwyd rhwng 2001 i 2003 a 2012 i 2014
Source: Y Swyddfa Ystadegau Gwladol
Notes:
- Diffinnir marwolaethau lle mae C. difficile yn ffactor gan ddefnyddio cyfuniad o unrhyw grybwylliad o godau A04.7, A05.8, A41.4, A48.0, A49.8 a P36.5 yn Negfed Adolygiad y Dosbarthiad Rhyngwladol o Glefydau (ICD 10) unrhyw le ar y dystysgrif marwolaeth a chrybwyll C. difficile neu gyflyrau cysylltiedig yn nhestun y dystysgrif marwolaeth. Mae manylion pellach i'w gweld yn adran Dulliau.
- Mynegir cyfraddau marwolaethau oed-benodol am bob miliwn o boblogaeth.
- Mae'r ffigurau yn seiliedig ar ffiniau daearyddol ym mis Mai 2015 ac yn eithrio marwolaethau pobl o'r tu allan.
- Yn 2014 nifer cyfartalog y diwrnodau rhwng dyddiad marwolaeth a dyddiad cofrestru oedd 3 diwrnod ar gyfer C. difficile
Download this image Ffigure 3: Cyfraddau marwolaeth ar gyfer marwolaethau benywod lle crybwyllwyd Clostridium difficile ar y dystysgrif marwolaeth, yn ôl oedran
.png (50.4 kB) .xls (31.2 kB)6. Lleoliad marwolaeth
Roedd marwolaethau lle roedd C. difficile yn ffactor yn cyfrif am 0.5% o’r holl farwolaethau a gofrestrwyd yng Nghymru yn y cyfnod o 2012 i 2014.
O ddadansoddi yn ôl lleoliad marwolaeth, gwelir bod 96% o’r marwolaethau lle roedd C. difficile yn ffactor yng Nghymru wedi digwydd yn ysbytai’r GIG. Mae marwolaethau hyn yn cynrychioli 0.8% o’r holl farwolaethau yn ysbytai’r GIG yn y cyfnod hwn. Gwelwyd patrwm tebyg ym mhob cyfnod rhwng 2001 i 2003 a 2012 i 2014. Mae’r rhan fwyaf o farwolaethau yn digwydd yn ysbytai’r GIG ac felly mae disgwyl i gyfrannau’r marwolaethau lle roedd C. difficile yn ffactor fod yn uwch yn ysbytai’r GIG nag mewn mathau eraill o sefydliadau.
Er bod y niferoedd mewn cartrefi gofal yn fach o’u cymharu ag ysbytai’r GIG, cartrefi gofal oedd â’r ganran uchaf ond un o farwolaethau lle roedd C. difficile yn ffactor a hynny’n gyson dros amser (gweler Tabl 2).
Tabl 2: Cyfran y marwolaethau lle mae Clostridium difficile yn ffactor sy'n digwydd mewn sefydliadau cymunol dethol
Cymru | Canrannau | |||||||||||
2001-03 | 2002-04 | 2003-05 | 2004-06 | 2005-07 | 2006-08 | 2007-09 | 2008-10 | 2009-11 | 2010-12 | 2011-13 | 2012-14 | |
Pob marwolaeth a achoswyd gan C. Difficile | 100 | 100 | 100 | 100 | 100 | 100 | 100 | 100 | 100 | 100 | 100 | 100 |
Ysbyty (GIG) | 94.9 | 95 | 94.5 | 94.5 | 95.2 | 95.5 | 96.1 | 95.3 | 94.6 | 93.7 | 94.4 | 95.7 |
Cartref gofal | 3.8 | 3.8 | 3.6 | 4.1 | 3 | 2.5 | 1.7 | 2.2 | 2.8 | 3.6 | 3.5 | 2.7 |
Cartref yr Ymadawedig | 0 | 0 | 0.4 | 0.3 | 0.9 | 1.3 | 1.6 | 1.9 | 1.9 | 1.8 | 1.2 | 0.9 |
Hosbis | 0.4 | 0.4 | 0.4 | 0 | 0.1 | 0.1 | 0.2 | 0.2 | 0.5 | 0.8 | 0.7 | 0.5 |
Arall | 0.8 | 0.8 | 1.1 | 1.1 | 0.7 | 0.6 | 0.4 | 0.3 | 0.1 | 0.1 | 0.2 | 0.2 |
Ffynhonnell y Tabl: Y Swyddfa Ystadegau Gwladol | ||||||||||||
Nodiadau'r Tabl: | ||||||||||||
1. Diffinnir marwolaethau lle mae C. difficile yn ffactor gan ddefnyddio cyfuniad o unrhyw grybwylliad o godau A04.7, A05.8, A41.4, A48.0, A49.8 neu P36.5 yn Negfed Adolygiad y Dosbarthiad Rhyngwladol o Glefydau (ICD 10) unrhyw le ar y dystysgrif marwolaeth a chrybwyll C. difficile neu gyflyrau cysylltiedig yn nhestun y dystysgrif marwolaeth. Mae manylion pellach i'w gweld yn yr adran Dulliau yn y bwletin. | ||||||||||||
2. Mae'r ffigurau yn eithrio marwolaethau pobl o'r tu allan. | ||||||||||||
3. Yn 2014 nifer cyfartalog y diwrnodau rhwng dyddiad marwolaeth a dyddiad cofrestru oedd 3 diwrnod ar gyfer C. difficile. | ||||||||||||
4. Mae cartref yr ymadawedig yn golygu marwolaethau yng nghartref arferol yr ymadawedig (yn ôl yr hysbyswr)‚ lle nad yw hyn yn sefydliad cymunol. | ||||||||||||
5. Mae cartrefi gofal yn cynnwys cartrefi i'r rhai â salwch cronig; cartrefi nyrsio; cartrefi i bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl a safleoedd amlddefnydd nad ydynt yn rhan o'r GIG. | ||||||||||||
6. Mae ysbytai'r GIG yn cynnwys safleoedd amlddefnydd ac ysbytai milwrol ac yn eithrio ysbytai seiciatrig. | ||||||||||||
7. Mae hosbis yn cynnwys pob hosbis yn y GIG a thu allan. | ||||||||||||
8. Mae arall yn cynnwys ysgolion i bobl ag anabledd dysgu, ysbytai nad ydynt yn rhan o'r GIG, cartrefi gwyliau a gwestai, lletyau cyffredin, llety i'r henoed, canolfannau asesu, ysgolion, lleiandai a mynachlogydd, cartrefi nyrsys, neuaddau preswyl prifysgolion a cholegau, sefydliadau troseddwyr ifanc, canolfannau hyfforddi diogel, canolfannau cadw, carchardai a chartrefi remánd. | ||||||||||||
9. Mae arall hefyd yn cynnwys pob man na nodwyd uchod fel marwolaethau ar draffordd, ar y traeth, wrth ddringo mynydd, wrth gerdded i lawr y stryd, mewn sinema, mewn gêm pêl-droed, allan yn siopa neu yng nghartref rhywun arall. Mae'r categori hwn hefyd yn cynnwys pobl y nodwyd eu bod yn farw wrth gyrraedd ysbyty. |
Download this table Tabl 2: Cyfran y marwolaethau lle mae Clostridium difficile yn ffactor sy'n digwydd mewn sefydliadau cymunol dethol
.xls (31.2 kB)7. Oedi cyn cofrestru
Mae’r wybodaeth a ddefnyddir i gynhyrchu ystadegau marwolaethau yn seiliedig ar y manylion a gesglir pan gaiff marwolaethau eu hardystio a’u cofrestru. Yng Nghymru, dylid cofrestru marwolaethau cyn pen pum diwrnod wedi iddynt ddigwydd, ond mewn rhai sefyllfaoedd nid yw hynny’n bosibl. Pan ystyrir bod marwolaeth yn annisgwyl, damweiniol neu amheus, caiff ei chyfeirio i sylw crwner. Gall yntau orchymyn bod post-mortem yn cael ei gynnal, neu fe all gynnal cwest llawn er mwyn gwybod beth oedd y rhesymau am y farwolaeth.
Mae’r ystadegau ynghylch marwolaethau lle roedd C. difficile yn ffactor yn cael eu cyflwyno ar sail nifer y marwolaethau a gofrestrwyd ym mhob blwyddyn galendr yn hytrach na nifer y marwolaethau a ddigwyddodd yn y flwyddyn honno. Defnyddir y dull hwn oherwydd ei bod yn ofynnol cyflwyno data cyson, amserol, er ei bod yn bosibl y bydd ansawdd y data yn dioddef os oedir cyn cofrestru rhai marwolaethau.
Yn 2014, y cyfnod cyfartalog (canolrifol) rhwng dyddiad y farwolaeth a dyddiad ei chofrestru ar gyfer marwolaethau lle crybwyllwyd C. difficile a lle cafodd ei enwi fel achos sylfaenol y farwolaeth oedd tri diwrnod. Cafodd mwyafrif y marwolaethau lle crybwyllwyd C. difficile a’r rhai lle cafodd ei enwi fel achos sylfaenol y farwolaeth eu cofrestru cyn pen pum diwrnod (84% a 76% yn ôl eu trefn), ac roedd 94% ac 90% wedi cael eu cofrestru cyn pen 30 diwrnod.
Tabl 3: Cyfnod cofrestru ar gyfer marwolaethau C. difficile a marwolaethau o bob achos
Cymru, marwolaethau a gofrestrwyd yn 2014 | ||||||||||||||||||||||||
Achos | Marwolaethau a gofrestrwyd yn 2014 | Cyfran marwolaethau a gofrestrwyd (y cant) | ||||||||||||||||||||||
Cyn pen 5 diwrnod | Chwe diwrnod i un mis (6-30 diwrnod) | Un i dri mis (31 - 91 diwrnod) | Tri i chwe mis (92 - 183 diwrnod) | Chwe mis i un flwyddyn (184 - 365 diwrnod) | Dros 1 flwyddyn (dros 365 diwrnod) | |||||||||||||||||||
C. difficile oedd yr achos sylfaenol | 42 | 76.2% | 14.3% | 2.4% | 2.4% | 2.4% | 2.4% | |||||||||||||||||
Crybwyllwyd C. difficile | 111 | 83.8% | 9.9% | 0.9% | 3.6% | 0.9% | 0.9% | |||||||||||||||||
Pob achos | 31,438 | 80.0% | 13.9% | 1.4% | 3.0% | 1.2% | 0.4% | |||||||||||||||||
Ffynhonnell y Tabl: Y Swyddfa Ystadegau Gwladol | ||||||||||||||||||||||||
Nodiadau'r Tabl: | ||||||||||||||||||||||||
1. Diffinnir marwolaethau lle mae C. difficile yn ffactor gan ddefnyddio cyfuniad o unrhyw grybwylliad o godau A04.7, A05.8, A41.4, A48.0, A49.8 neu P36.5 yn Negfed Adolygiad y Dosbarthiad Rhyngwladol o Glefydau (ICD 10) unrhyw le ar y dystysgrif marwolaeth a chrybwyll C. difficile neu gyflyrau cysylltiedig yn nhestun y dystysgrif marwolaeth. Mae manylion pellach i'w gweld yn yr adran Dulliau yn y bwletin. | ||||||||||||||||||||||||
2. Mae'r ffigurau yn eithrio marwolaethau pobl o'r tu allan. | ||||||||||||||||||||||||
3. Ni chynhwyswyd marwolaethau lle na nodwyd dydd a/neu fis y farwolaeth. |
Download this table Tabl 3: Cyfnod cofrestru ar gyfer marwolaethau C. difficile a marwolaethau o bob achos
.xls (29.7 kB)8. Canlyniadau ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol
Mae ffigurau ar gyfer marwolaethau lle roedd C. difficile yn ffactor o 1999 i 2014 i’w cael yn y tabl cyfeirio ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Mae’r llawlyfr hwn mewn Excel yn cynnwys y canlyniadau a ganlyn ar gyfer Cymru:
nifer y tystysgrifau marwolaeth lle crybwyllwyd Clostridium difficile ac fel achos sylfaenol marwolaeth, Cymru, marwolaethau a gofrestrwyd rhwng 1999 a 2014
cyfraddau marwolaethau wedi’u safoni yn ôl oedran (gyda ffiniau hyder 95%) ar gyfer marwolaethau lle crybwyllwyd Clostridium difficile ar y dystysgrif marwolaeth, yn ôl rhyw, Cymru, marwolaethau a gofrestrwyd rhwng 1999 a 2014
nifer y marwolaethau lle crybwyllwyd Clostridium difficile ar y dystysgrif marwolaeth yn ôl lleoliad marwolaeth, Cymru, marwolaethau a gofrestrwyd rhwng 2001-2003 a 2012-2014
cyfraddau marwolaeth oed-benodol (gyda ffiniau hyder 95%) ar gyfer marwolaethau lle crybwyllwyd Clostridium difficile ar y dystysgrif marwolaeth, yn ôl oedran a rhyw, Cymru, marwolaethau a gofrestrwyd yn 2001–03 a 2012–14
9. Dulliau
Mae’r wybodaeth a ddefnyddir yn y bwletin hwn yn seiliedig ar y manylion a gesglir pan ardystir ac y cofrestrir marwolaethau. Mae pob marwolaeth yn cael ei chodio gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn ôl y Dosbarthiad Rhyngwladol o Glefydau (ICD) a gynhyrchir gan Sefydliad Iechyd y Byd. Yn y Degfed Adolygiad (ICD-10), mae cod penodol i’w gael (A04.7) ar gyfer ‘Enterocolitis i’w briodoli i Clostridium difficile’. Er bod y cod hwn yn cynnwys mwyafrif llethol y marwolaethau lle roedd C. difficile yn ffactor, ceir nifer fechan o farwolaethau yn gysylltiedig â C. difficile nad yw’r cod hwn ar ei ben ei hun yn gallu eu cynnwys.
Ers 1993, mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi cadw testun tystysgrifau marwolaeth mewn cronfa ddata, ynghyd â’r holl godau ICD perthynol i’r achosion a nodwyd ar y dystysgrif marwolaeth. Golyga hyn ei bod yn bosibl canfod y cofnodion hynny lle crybwyllir C. difficile ond lle nad yw wedi ei godio o dan god penodol ICD-10. Defnyddiwyd Degfed Adolygiad yr ICD (ICD-10) i godio marwolaethau yng Nghymru ers 2001.
Yn ogystal ag echdynnu’r holl farwolaethau cysylltiedig â chod penodol A04.7 ICD-10, echdynnwyd hefyd y marwolaethau lle crybwyllir codau eraill y gellid codio afiechydon gan gynnwys C. difficile iddynt hefyd. Cafodd testun y tystysgrifau marwolaeth hyn ei chwilio â llaw i weld a grybwyllwyd Clostridium difficile, C. difficile neu golitis ffug-bilennog. Mae'r codau ICD–10 a ddefnyddiwyd i ddethol marwolaethau er mwyn eu chwilio â llaw i'w gweld ym Mlwch 1.
Cafodd marwolaethau a gofrestrwyd ym 1999 eu codio i ICD–9 a hefyd i ICD–10 fel rhan o astudiaeth arbennig i gymharu'r ddau ddiwygiad i'r ICD.
Blwch 1 Codau ICD-10 penodol ac amhenodol cysylltiedig â C. difficile
Codau penodol1 | Codau heb fod yn benodol1 |
A04.7 (Enterocolitis i’w briodoli i Clostridium difficile) | A05.8 (Achosion eraill penodol o wenwyno gan facteria mewn bwyd) A41.4 (Septicaemia oherwydd anaerobau, heb gynnwys madredd nwyog) A48.0 (Madredd nwyog: Clostridial; llid yr isgroen, myonecrosis) A49.8 (Heintiau bacteriol eraill lle na nodwyd y safle) P36.5 (Sepsis babanod newydd-anedig oherwydd anaerobau) |
Download this table Blwch 1 Codau ICD-10 penodol ac amhenodol cysylltiedig â C. difficile
.xls (26.1 kB)- Codau a ddefnyddiwyd i adnabod marwolaethau lle mai C. difficile oedd achos sylfaenol marwolaeth (o blith marwolaethau lle crybwyllwyd C. difficile): A04.7, A09, A41.4 ac A49.8.
Adnabuwyd marwolaethau lle mai C. difficile oedd achos sylfaenol marwolaeth trwy ddethol y marwolaethau hynny lle crybwyllwyd C. difficile ac oedd hefyd yn nodi achos sylfaenol o blith un o'r codau ICD-10 canlynol: A04.7, A41.4 ac A49.8. Cymerwyd bod tystysgrifau marwolaeth sy'n crybwyll C. difficile ac yn cofnodi'r cod A09 (dolur rhydd a gastro-enteritis y tybiwyd eu bod wedi deillio o haint) fel achos sylfaenol marwolaeth, hefyd yn dangos mai C. difficile oedd achos sylfaenol marwolaeth.
Ers 1986, mae ONS wedi defnyddio'r dystysgrif marwolaeth a argymhellir yn rhyngwladol ar gyfer marwolaethau babanod newyddanedig (dan 28 diwrnod oed). Lluniwyd y dystysgrif hon i gofnodi pob cyflwr oedd i’w weld adeg y farwolaeth. Mae hyn yn golygu na ellir pennu achos sylfaenol marwolaeth ar gyfer babanod newyddanedig. Fodd bynnag, gan fod y data yn seiliedig ar farwolaethau lle crybwyllwyd C. difficile neu golitis ffug-bilennog ar y dystysgrif marwolaeth, mae babanod newyddanedig wedi cael eu cynnwys. Echdynnwyd marwolaethau babanod newyddanedig yn yr un ffordd ag a ddisgrifiwyd ar gyfer marwolaethau babanod ôl-newyddanedig.
Nôl i'r tabl cynnwys10. Ystadegau Clostridium difficile ar gyfer gwledydd eraill y DU
Cyhoeddir marwolaethau C. difficile yn yr Alban gan National Records of Scotland a chyhoeddir ffigurau ar gyfer Gogledd Iwerddon gan y Northern Ireland Statistics and Research Agency.
Nôl i'r tabl cynnwys