Marwolaethau lle roedd Clostridium difficile yn ffactor, Cymru: 2013

Marwolaethau Clostridium difficile yng Nghymru yn 2013, wedi'u dadansoddi yn ôl rhyw, grŵp oedran a lleoliad y farwolaeth.

This is not the latest release. View latest release

This is an accredited national statistic.

Cyswllt:
Email Andrew Tooley

Dyddiad y datganiad:
3 September 2014

Cyhoeddiad nesaf:
3 Medi 2015

1. Pwyntiau Allweddol

  • Yn 2013, cafwyd 177 o farwolaethau yng Nghymru lle roedd Clostridium difficile (C. difficile) yn ffactor, 22 yn fwy nag yn 2012 (155 marwolaeth).

  • O’r 177 marwolaeth lle roedd C. Difficile yn ffactor, dyna hefyd oedd achos sylfaenol y farwolaeth mewn 91 achos; sef cynnydd o 11% oddi ar 2012 (82 marwolaeth).

  • Mae’r gyfradd marwolaethau wedi’i safoni yn ôl oedran ar gyfer marwolaethau lle roedd C. difficile yn ffactor sef 58.4 am bob miliwn o boblogaeth yn 2013, yn gynnydd sylweddol o’i chymharu â 1999 (22.6 am bob miliwn o boblogaeth), sef dechrau’r gyfres amser. Fodd bynnag, mae’n ostyngiad sylweddol ers y brig a welwyd yn 2008 (164.8 am bob miliwn o boblogaeth).

  • Mae nifer y marwolaethau o C. difficile yn cynyddu gydag oedran ac roedd y nifer mwyaf o achosion ymhlith pobl 85 oed a hŷn. Yn ystod 2011–13 roedd y gyfradd marwolaethau oed-benodol ar gyfer pobl 85 oed a hŷn yn 1,467.4 am bob miliwn o boblogaeth ar gyfer gwrywod a 1,157.9 am bob miliwn o boblogaeth ar gyfer benywod.

  • Mae nifer y marwolaethau lle roedd C. difficile yn ffactor wedi parhau yn gyson uwch ar gyfer benywod nag ar gyfer gwrywod ers 1999.

Nôl i'r tabl cynnwys

2. Crynodeb

Mae’r bwletin hwn yn rhoi’r ffigurau diweddaraf ar gyfer marwolaethau lle crybwyllwyd C. difficile neu lle pennwyd mai dyna oedd achos sylfaenol y farwolaeth, neu un achos a gyfrannodd ati, ar dystysgrifau marwolaeth. Cyflwynir y ffigurau ar gyfer Cymru ac fe’u dadansoddir yn ôl rhyw, oedran a lleoliad y farwolaeth. Gwneir cymariaethau rhwng data ar gyfer 2013 a data a gyhoeddwyd o’r blaen o’r flwyddyn 1999 ymlaen. Rhoddir gwybodaeth am gyd-destun ystadegau a’r defnydd a wneir ohonynt a pha ddulliau a ddefnyddiwyd er mwyn eu cynhyrchu.

Mae’r ffigurau yn seiliedig ar y marwolaethau a gofrestrwyd ym mhob blwyddyn galendr, yn hytrach na’r rhai a ddigwyddodd ym mhob blwyddyn. Gan fod mwyafrif y marwolaethau a gofrestrwyd yn 2013 lle roedd C. difficile yn ffactor hefyd wedi digwydd yn yr un flwyddyn, nid yw oedi cyn cofrestru yn debygol o fod wedi effeithio ar y canfyddiadau. Am wybodaeth bellach, gweler yr adran ynglŷn ag oedi cyn cofrestru.

Gwnaed dau newid pwysig i ddull y Swyddfa Ystadegau Gwladol o adrodd ar farwolaethau o C. difficile. Yn gyntaf, mae cwmpas y bwletin blynyddol wedi cael ei leihau. Gan ddechrau gyda 2013, bydd y bwletin yn cynnwys Cymru yn unig ac nid Cymru a Lloegr a bydd costau ei gynhyrchu yn cael eu hysgwyddo ar y cyd gan Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn dilyn yr ymateb i Ymgynghoriad y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar doriadau arfaethedig, a ystyriodd nifer yr allbynnau ystadegol, sef yr hyn y bu’n rhaid ei wneud wrth i’r cyllid gael ei dorri. Newid methodolegol yw’r ail newid, lle defnyddir Poblogaeth Safonol Ewropeaidd 2013, a roddwyd ar waith yn ddiweddar (PSE 2013) i gyfrifo cyfraddau wedi’u safoni yn ôl oedran. Mae’r boblogaeth safonol newydd hon yn disodli PSE 1976 nad yw mwyach yn adlewyrchu dosbarthiad oedran poblogaeth Ewrop. Gosodwyd sail newydd ar gyfer data hanesyddol am y blynyddoedd o 1999 ymlaen gan ddilyn PSE 2013. Mae gwybodaeth bellach am y newid hwn i’w gweld yn yr adran ‘Effaith Poblogaeth Safonol Ewropeaidd 2013’.

Nôl i'r tabl cynnwys

3. Effaith Poblogaeth Safonol Ewropeaidd 2013

Mae PSE bellach yn safon fethodolegol a dderbynnir mewn ystadegau iechyd yn y DU a gweddill Ewrop ac fe’i defnyddir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, adrannau eraill y llywodraeth, y GIG ac academyddion sy’n ymchwilio i faterion iechyd, i gyfrifo cyfraddau sydd wedi’u safoni yn ôl oedran. Ym 1976 cyflwynwyd gyntaf y Boblogaeth Safonol Ewropeaidd a ddefnyddiwyd wrth gynhyrchu ystadegau C. difficile o’r blaen, ond nid yw mwyach yn gynrychioliadol o strwythur oedran poblogaeth Aelod-wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd. Gan hynny, rhoddodd Eurostat fersiwn newydd o'r PSE ar waith yn 2013. At hynny, mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol, ar ran Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth, wedi cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar sut i roi’r PSE newydd ar waith yn y DU.

Mae PSE 2013 yn cymryd i ystyriaeth newidiadau ym mhoblogaeth yr UE ac mae’n darparu sail fwy cyfredol, sy’n gadarn o safbwynt methodoleg ac sy’n cael ei derbyn yn eang ar gyfer cyfrifo cyfraddau wedi’u safoni yn ôl oedran (Eurostat, 2013). Mae dau wahaniaeth rhwng PSE 1976 a PSE 2013. I ddechrau, mae PSE 2013 y rhoi mwy o bwysoliad i boblogaethau grwpiau oedran hŷn nag a wna PSE 1976. Yn ail, 85 a hŷn yw’r oed hynaf pan ddosbarthir oedrannau yn PSE 1976 ond mae PSE 2013 yn cynnwys yr oedrannau 85-89, 90-94 a 95+.

Mewn Adroddiad gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn edrych ar effaith y newid yn y PSE ar ddata marwolaethau, dangoswyd bod cyfraddau rhyw-benodol ar gyfer achosion lle mae’r marwolaethau’n digwydd ymhlith oedrannau hŷn yn bennaf, yn sylweddol uwch o dan PSE 2013, o’u cymharu â PSE 1976. Y rheswm am hyn yw bod y nifer uwch o bobl hŷn yn PSE 2013 yn cael mwy o ddylanwad ar y cyfraddau hyn nag a welir gyda PSE 1976. Gan mai ymhlith pobl hŷn y mae’r rhan fwyaf o farwolaethau yn digwydd lle mae C. difficile yn ffactor, mae’r cyfraddau a welir yma yn uwch na’r rhai a gyhoeddwyd o’r blaen gan ddefnyddio PSE 1976 ar gyfer yr un cyfnodau. Fodd bynnag, mae’n bwysig nodi mai methodolegol yn unig yw’r gwahaniaeth rhwng cyfraddau marwolaeth yn seiliedig ar yr hen PSE a’r PSE newydd. Nid yw’n golygu bod cynnydd gwirioneddol yn y niferoedd o farwolaethau neu’r cyfraddau marwolaeth a gyhoeddwyd o’r blaen.

Nôl i'r tabl cynnwys

4. Cefndir

Bacteriwm anaerobig sy’n ffurfio sborau yw Clostridium difficile (C. difficile), a ddisgrifiwyd gyntaf yn y 1930au (Hall ac O’Toole, 1935). Mae’n bresennol yng ngholuddion hyd at 3% o oedolion iach ond yn anaml y bydd yn achosi unrhyw niwed (Iechyd Cyhoeddus Cymru, 2010).

Gall C. difficile achosi salwch neu beryglu bywyd pan fydd rhai gwrthfiotigau yn tarfu ar gydbwysedd bacteria yn y coluddion. Os yw’n tyfu’n ormodol yn y coluddion, gall y tocsinau a gynhyrchir ganddo achosi salwch, yn amrywio o beidio â bod ag unrhyw symptomau i ddolur rhydd o ddifrifoldeb amrywiol, hyd at lid difrifol y coluddyn sy’n rhoi bywyd yn y fantol. Gall y dolur rhydd sy’n gysylltiedig â C. difficile wella cyn gynted ag y bydd dioddefwyr yn rhoi’r gorau i driniaeth wrthfiotig. Mae mwy o berygl i bobl dros 65 oed ddal C. difficile. Yr oedran hwn sy’n cyfrif am dros 80% o’r achosion a gaiff eu hysbysu (Iechyd Cyhoeddus Cymru, 2010).

Cyfeirir yn aml at C. difficile fel haint sy’n gysylltiedig â gofal iechyd. Gall heintiau o’r fath ddatblygu naill ai o ganlyniad uniongyrchol i ymyriadau gofal iechyd (er enghraifft, triniaeth feddygol neu lawfeddygol) neu o ganlyniad i fod mewn cysylltiad â lleoliad gofal iechyd neu gymdeithasol (gan gynnwys gofal iechyd a roddir yn y gymuned). Mae hefyd yn bosibl dal haint sy’n gysylltiedig â gofal iechyd y tu allan i leoliad gofal iechyd a gall cleifion, staff neu ymwelwyr ddod â’r haint i mewn i leoliad a’i drosglwyddo i eraill (Y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, 2014).

Yng Nghymru, cedwir golwg ar C. difficile drwy Raglen Heintiau sy'n Gysylltiedig â Gofal Iechyd Cymru (WHAIP), sydd yn rhan o Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae’r ffigurau diweddaraf ar gyfer Ebrill 2013 hyd Fawrth 2014 (2013/14) yn dangos bod 1,577 o achosion wedi’u gwneud yn hysbys ymhlith cleifion preswyl ysbytai Cymru (Iechyd Cyhoeddus Cymru, 2010). Mae hyn yn ostyngiad o 23% pan gymharir â’r 1,934 achos a wnaed yn hysbys yn 2012/13.

Nôl i'r tabl cynnwys

5. Canlyniadau

Mae’r tablau yn y bwletin hwn yn cynnwys data am y cyfnodau diweddaraf er hwyluso cyflwyno’r wybodaeth. Fodd bynnag, fe archwilir tueddiadau dros amser, o 1999 ymlaen.

Nôl i'r tabl cynnwys

6. Marwolaethau lle roedd C. difficile yn ffactor

Yn 2013, cafwyd 177 marwolaeth lle roedd C. difficile yn ffactor, sef cynnydd o 14% (155 marwolaeth) o’i gymharu â 2012. Dyma’r cynnydd cyntaf ers 2008, pan welwyd brig yn nifer y marwolaethau, sef 461. Cyn 2008, bu cynnydd cyson yn nifer y marwolaethau, fyth oddi ar 1999. Ar gyfer gwrywod ni fu unrhyw newid gan mai 69 marwolaeth a gofrestrwyd yn 2012 a 69 hefyd yn 2013. Ar gyfer benywod, bu cynnydd o 26% yn nifer y marwolaethau lle crybwyllwyd C. difficile, o 86 yn 2012 i 108 yn 2013.

Gall C. difficile gyfrannu i farwolaeth ond weithiau hefyd gall fod yn uniongyrchol gyfrifol am achosi marwolaeth. Yn 2013, o’r 177 tystysgrif marwolaeth a grybwyllai C. difficile, dywedai 91 (51%) hefyd mai dyna oedd achos sylfaenol marwolaeth yr unigolyn hwnnw. Bu cynnydd o 11% yn nifer y marwolaethau a achoswyd gan C. difficile rhwng 2012 a 2013, sef o 82 i 91. O’r 69 tystysgrif marwolaeth a grybwyllai C. difficile ymhlith gwrywod, roedd 34 (49%) yn cofnodi mai dyna oedd achos sylfaenol y farwolaeth. O’r 108 marwolaeth ymhlith benywod lle crybwyllwyd C. difficile, cofnodai 57 (53%) mai dyna oedd achos sylfaenol y farwolaeth.

Roedd mwy o farwolaethau ymhlith benywod lle roedd C. difficile yn ffactor (gan gynnwys rhai lle mai dyna oedd yr achos sylfaenol) nag o farwolaethau ymhlith gwrywod ym mhob blwyddyn rhwng 1999 a 2013 (gweler Tabl Cyfeirio 1).

Nôl i'r tabl cynnwys

7. Cyfraddau marwolaethau oed-benodol ar gyfer marwolaethau lle roedd C. difficile yn ffactor

Mae mwyafrif y marwolaethau lle roedd C. difficile yn ffactor ymhlith pobl hŷn. Dengys Tabl 2 fod y gyfradd marwolaethau oed-benodol yn cynyddu gydag oedran. Ar gyfer y cyfnod 2011–13, ymhlith y rhai 85 oed a hŷn y gwelwyd y cyfraddau marwolaeth uchaf, gyda’r cyfraddau isaf ymhlith y rhai dan 55 oed. Roedd y cyfraddau oed-benodol yn 1,258.9 and 1.4 am bob miliwn o boblogaeth ar gyfer y naill garfan ac yn 1.4 am bob miliwn o boblogaeth ar gyfer y llall.

Mae pobl hŷn yn fwy tebygol o gael eu heintio â C. difficile gan eu bod yn debygol o fod â systemau imiwnedd gwannach na phobl iau ac yn debygol o fod â phroblemau eraill. Maent hefyd yn fwy tebygol o fod mewn ysbyty, mewn cyfleusterau gofal hirdymor neu ar wrthfiotigau, sy’n golygu eu bod yn fwy tebygol o gael eu heintio. (Owens ac eraill, 2008).

Ar gyfer gwrywod 85 oed a hŷn, roedd y gyfradd marwolaethau oed-benodol yn 1,467.4 am bob miliwn o boblogaeth. Ar gyfer benywod, roedd yn 1,157.9 am bob miliwn o boblogaeth. Ar y llaw arall, cafwyd y cyfraddau oed-benodol isaf ymhlith y rhai dan 55 oed, sef 1.6 am bob miliwn o boblogaeth ymhlith gwrywod ac 1.3 am bob miliwn o boblogaeth ar gyfer benywod. Os cymharir â 2008-10, roedd y cyfraddau oed-benodol yn sylweddol is yn 2011-13, ymhlith y rhai 85 oed a hŷn. Roedd y cyfraddau oed-benodol ar gyfer pobl dros 85 oed yn 2008-10 yn 2,581.8 am bob miliwn o boblogaeth ar gyfer gwrywod a 2,777.1 am bob miliwn o boblogaeth ar gyfer benywod.

Nôl i'r tabl cynnwys

8. Cyfraddau wedi’u safoni yn ôl oedran ar gyfer marwolaethau lle roedd C. difficile yn ffactor

Rhwng 1999 a 2008, gwelwyd cynnydd cyson yn y cyfraddau wedi’u safoni yn ôl oedran ar gyfer gwrywod. Cynyddodd y gyfradd o 18.8 am bob miliwn o boblogaeth i 177.2 am bob miliwn o boblogaeth rhwng 1999 a 2008. Roedd hynny’n debyg i’r cyfraddau ar gyfer benywod, sef 24.2 am bob miliwn o boblogaeth ym 1999 a chan gyrraedd brig o 157.9 am bob miliwn o boblogaeth yn 2008.

Ers 2008 gwelwyd gostyngiad cyson yn y cyfraddau wedi’u safoni yn ôl oedran. Yn 2013 roedd y gyfradd yn 63.3 am bob miliwn o boblogaeth ar gyfer gwrywod a 57.3 ar gyfer benywod.

Ar gyfer yr holl boblogaeth, y gyfradd marwolaethau wedi’i safoni yn ôl oedran ar gyfer marwolaethau lle roedd C. difficile yn ffactor oedd 58.4 am bob miliwn o boblogaeth yn 2013. Mae hyn yn arwyddocaol uwch na’r gyfradd ym 1999 (22.6 am bob miliwn o boblogaeth), sef dechrau’r gyfres amser. Fodd bynnag, mae’n ostyngiad arwyddocaol ers y brig yn 2008 (164.8 am bob miliwn o boblogaeth) (gweler Ffigur 2).

Nôl i'r tabl cynnwys

9. Lleoliad marwolaeth

Yn y cyfnod 2011–13, roedd marwolaethau lle roedd C. difficile yn ffactor yn cyfrif am 0.6% o’r holl farwolaethau a gofrestrwyd yng Nghymru.

O ddadansoddi yn ôl lleoliad marwolaeth, gwelir bod 94% o’r marwolaethau lle roedd C. difficile yn ffactor yng Nghymru wedi digwydd yn ysbytai’r GIG. Mae marwolaethau lle roedd C. difficile yn ffactor yn cynrychioli 1% o’r holl farwolaethau yn ysbytai’r GIG.

Gan fod mwyafrif y marwolaethau yng Nghymru yn digwydd yn ysbytai’r GIG, mae disgwyl i gyfrannau’r marwolaethau lle roedd C. difficile yn ffactor fod yn uwch yn y rhain nag mewn mathau eraill o sefydliadau.

Yn gyffredinol, cartrefi gofal oedd â’r canran uchaf ond un (4%) o’r holl farwolaethau lle roedd C. difficile yn ffactor. Gwelwyd cynnydd yma, o 2% yn 2008–10 i 4% yn 2011–13. Digwyddodd mwyafrif y marwolaethau hyn mewn cartrefi gofal nad oedd yn cael eu gweinyddu gan awdurdodau lleol.

Nôl i'r tabl cynnwys

10. Oedi cyn cofrestru

Mae’r wybodaeth a ddefnyddir i gynhyrchu ystadegau marwolaethau yn seiliedig ar y manylion a gesglir pan gaiff marwolaethau eu hardystio a’u cofrestru. Yng Nghymru, dylid cofrestru marwolaethau cyn pen pum diwrnod wedi iddynt ddigwydd, ond o dan rai amgylchiadau gall oedi ddigwydd. Pan ystyrir bod marwolaeth yn annisgwyl, damweiniol neu amheus, caiff ei chyfeirio i sylw’r crwner. Gall yntau orchymyn bod post-mortem yn cael ei gynnal, neu fe all gynnal cwest llawn er mwyn gwybod beth oedd y rhesymau am y farwolaeth.

Mae’r ystadegau ynghylch marwolaethau lle roedd C. difficile yn ffactor yn cael eu cyflwyno ar sail nifer y marwolaethau a gofrestrwyd ym mhob blwyddyn galendr yn hytrach na nifer y marwolaethau a ddigwyddodd yn y flwyddyn honno. Defnyddir y dull hwn oherwydd ei bod yn ofynnol cyflwyno data cyson, amserol, er ei bod yn bosibl y bydd ansawdd y data yn dioddef os oedir cyn cofrestru rhai marwolaethau.

Yn 2013, y cyfnod cyfartalog (canolrifol) ar gyfer cofrestru marwolaeth lle crybwyllir C. difficile a lle cafodd ei enwi fel achos sylfaenol y farwolaeth oedd tri diwrnod. Cafodd mwyafrif y marwolaethau lle crybwyllir C. difficile a’r rhai lle cafodd ei enwi fel achos sylfaenol y farwolaeth eu cofrestru cyn pen pum diwrnod (77% a 70% yn ôl eu trefn), ac roedd 88% ac 86% wedi cael eu cofrestru cyn pen 30 diwrnod.

Gan fod mwyafrif y marwolaethau hynny a gofrestrwyd yn 2013 lle roedd C. difficile yn ffactor (90%) hefyd wedi digwydd yn yr un flwyddyn, nid yw’n debygol fod oedi cyn cofrestru yn effeithio ar ganfyddiadau’r bwletin hwn.

Nôl i'r tabl cynnwys

11. Canlyniadau ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol

Mae ffigurau ar gyfer marwolaethau lle roedd C. difficile yn ffactor o 1999 i 2013 i’w cael yn y tabl cyfeirio ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Mae’r llawlyfr hwn mewn Excel yn cynnwys y canlyniadau a ganlyn ar gyfer Cymru:

  • Nifer y tystysgrifau marwolaeth lle crybwyllwyd Clostridium difficile a chan ddweud mai dyna achos sylfaenol y farwolaeth, Cymru, marwolaethau a gofrestrwyd rhwng 1999 a 2013.

  • Cyfraddau marwolaethau wedi’u safoni yn ôl oedran (gyda ffiniau hyder 95%) ar gyfer marwolaethau lle crybwyllwyd Clostridium difficile ar y dystysgrif marwolaeth, fesul rhyw, Cymru, marwolaethau a gofrestrwyd rhwng 1999 a 2013.

  • Nifer y marwolaethau lle crybwyllwyd Clostridium difficile ar y dystysgrif marwolaeth yn ôl lleoliad y farwolaeth, Cymru, marwolaethau a gofrestrwyd yn 2008–10 a 2011–13.

  • Cyfraddau marwolaeth oed-benodol (gyda ffiniau hyder 95%) ar gyfer marwolaethau lle crybwyllwyd Clostridium difficile ar y dystysgrif marwolaeth, fesul oed a rhyw, Cymru, marwolaethau a gofrestrwyd yn 2008–10 a 2011–13.

Nôl i'r tabl cynnwys

12. Dulliau

Mae’r wybodaeth a ddefnyddir yn y bwletin hwn yn seiliedig ar y manylion a gesglir pan ardystir ac y cofrestrir marwolaethau. Mae pob marwolaeth yn cael ei chodio gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn ôl y Dosbarthiad Rhyngwladol o Glefydau (ICD) a gynhyrchir gan Sefydliad Iechyd y Byd. Yn y Degfed Adolygiad (ICD-10), mae cod penodol i’w gael (A04.7) ar gyfer ‘Enterocolitis i’w briodoli i Clostridium difficile’. Er bod y cod hwn yn cynnwys mwyafrif llethol y marwolaethau lle roedd C. difficile yn ffactor, ceir nifer fechan o farwolaethau yn gysylltiedig â C. difficile nad yw’r cod hwn ar ei ben ei hun yn gallu eu cynnwys.

Ers 1993, mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi cadw testun tystysgrifau marwolaeth mewn cronfa ddata, ynghyd â’r holl godau ICD perthynol i’r achosion a nodwyd ar y dystysgrif marwolaeth. Golyga hyn ei bod yn bosibl canfod y cofnodion hynny lle crybwyllir C. difficile ond lle nad yw wedi ei godio o dan god penodol ICD-10. Defnyddiwyd Degfed Adolygiad yr ICD (ICD-10) i godio marwolaethau yng Nghymru ers 2001.

Yn ogystal ag echdynnu’r holl farwolaethau cysylltiedig â chod penodol A04.7 ICD-10, echdynnwyd hefyd y marwolaethau lle crybwyllir codau eraill y gellid codio afiechydon gan gynnwys C. difficile iddynt hefyd. Cafodd testun y tystysgrifau marwolaeth hyn ei chwilio â llaw i weld a grybwyllwyd Clostridium difficile, C. difficile neu golitis ffug-bilennog. Mae'r codau ICD–10 a ddefnyddiwyd i ddethol marwolaethau er mwyn eu chwilio â llaw i'w gweld ym Mlwch 1.

Cafodd marwolaethau a gofrestrwyd ym 1999 eu codio i ICD–9 a hefyd i ICD–10 fel rhan o astudiaeth arbennig i gymharu'r ddau ddiwygiad i'r ICD ac felly maent wedi cael eu defnyddio i roi blwyddyn ychwanegol o ddata ar farwolaethau lle roedd C. difficile yn ffactor.

Adnabuwyd marwolaethau lle mai C. difficile oedd achos sylfaenol marwolaeth trwy ddethol y marwolaethau hynny lle crybwyllwyd C. difficile ac oedd hefyd yn nodi achos sylfaenol o blith un o'r codau ICD-10 canlynol: A04.7, A41.4 ac A49.8. Cymerwyd bod tystysgrifau marwolaeth sy'n crybwyll C. difficile ac yn cofnodi'r cod A09 (dolur rhydd a gastroenteritis y tybiwyd eu bod wedi deillio o haint) fel achos sylfaenol marwolaeth, hefyd yn dangos mai C. difficile oedd achos sylfaenol marwolaeth.

Ers 1986, mae ONS wedi defnyddio'r dystysgrif marwolaeth a argymhellir yn rhyngwladol ar gyfer marwolaethau babanod newyddanedig (dan 28 diwrnod oed). Lluniwyd y dystysgrif hon i gofnodi pob cyflwr oedd i’w weld adeg y farwolaeth. Mae hyn yn golygu na ellir pennu achos sylfaenol marwolaeth ar gyfer babanod newyddanedig. Fodd bynnag, gan fod y data yn seiliedig ar farwolaethau lle crybwyllwyd C. difficile neu golitis ffug-bilennog ar y dystysgrif marwolaeth, mae babanod newyddanedig wedi cael eu cynnwys. Echdynnwyd marwolaethau babanod newyddanedig yn yr un ffordd ag a ddisgrifiwyd uchod.

Nôl i'r tabl cynnwys

13. Addasiadau i gyfrifiadau cyfeiliornad safonol a chyfwng hyder

Nid yw’r data marwolaethau yn y cyhoeddiad hwn yn destun amrywiadau samplu gan na chafwyd y data o sampl. Er hynny, mae’n bosibl bod hap-amrywiad yn effeithio arnynt, yn enwedig lle bo nifer y marwolaethau neu’r tebygolrwydd o farw yn fach. I helpu i asesu amrywioldeb y cyfraddau, maent wedi cael eu cyflwyno ynghyd â chyfyngau hyder 95%.

Yn draddodiadol, defnyddiwyd dull amcangyfrif normal i gyfrifo cyfyngau hyder, ar y rhagdybiaeth fod marwolaethau C. difficile yn dangos gwasgariad normal. Fodd bynnag, mae nifer blynyddol y marwolaethau lle mae C. difficile yn ffactor yn gymharol fach (llai na 100 fel rheol), a gellir rhagdybio eu bod yn dilyn dosraniad tebygolrwydd Poisson. Mewn achosion o’r fath, mae’n fwy priodol defnyddio’r ffactorau ffin hyder o dabl dosraniad Poisson er mwyn cyfrifo’r cyfyngau hyder, yn lle’r dull amcangyfrif normal.

Ar gyfer cyfraddau wedi’u safoni yn ôl oedran, cynigiwyd y dull a ddefnyddir i gyfrifo cyfyngau hyder ar gyfer cyfraddau yn seiliedig ar lai na 100 o farwolaethau gan Dobson ac eraill (1991) yn unol â’r hyn a ddisgrifir yn APHO, (2008). Ar gyfer cyfraddau oed-benodol, defnyddiwyd union ffactor ffin Poisson ar gyfer y nifer oed-benodol o farwolaethau er mwyn cyfrifo cyfyngau hyder 95% lle roedd llai na 100 o farwolaethau mewn oedran penodol.

Ar y llaw arall, ar gyfer y cyfraddau wedi’u safoni yn ôl oedran a hefyd y cyfraddau oed-benodol, defnyddiwyd dulliau amcangyfrif normal er mwyn cyfrifo cyfyngau hyder 95% lle roedd 100 neu fwy o farwolaethau.

Cyhoeddir manylion llawn yr holl newidiadau methodolegol yn y bwletin hwn yn ddiweddarach yn Quality and Methodology information note for ‘Deaths involving Clostridium difficile’ (404.6 Kb Pdf).

Nôl i'r tabl cynnwys

14 .Cyfeiriadau

Cymdeithas Arsyllfeydd Iechyd y Cyhoedd (2008). Technical Briefing 3: Commonly Used Public Health Statistics and their Confidence Intervals. [gwelwyd 4 Awst 2014].

Yr Adran Iechyd (2005) CMO Update, Issue 42, Haf 2005. [gwelwyd 4 Awst 2013].

Department of Health and Public Health England (2009) Clostridium difficile infection: how to deal with the problem. [gwelwyd 4 Awst 2014].

Dobson A, Kuulasmaa K, Eberle E a Scherer J (1991). Confidence intervals for weighted sums of Poisson parameters. Stat Med., 10:457-62. [gwelwyd 4 Awst 2014].

Hall, I.C ac O’Toole, E. (1935) ‘Intestinal flora in new-born infants: with a description of a new pathogenic anaerobe, Bacillus difficilus’, American Journal of Diseases in Childhood 49 tt 390–402.

National Institute for Health and Care excellence (2013) Prevention and control of healthcare associated infections: Quality improvement guide. [gwelwyd 4 Awst 2014].

National Records of Scotland (2014). Clostridium difficile Deaths, gwelwyd. [14 Awst 2014].

Northern Ireland Statistics and Research Agency (2013). Deaths Registered with Clostridium Difficile Mentioned on the Death Certificate. [gwelwyd 15 Awst 2014].

Owens RC, Donskey CJ, Gaynes RP, Loo VG a Muto, CA. (2008). Antimicrobial-Associated Risk Factors for Clostridium difficile Infection. Clinical Infectious Diseases 46: S19-S31. [gwelwyd 9 Awst 2014].

Iechyd Cyhoeddus Cymru (2010) Clostridium difficile. [gwelwyd 9 Awst 2014].

Iechyd Cyhoeddus Cymru (2013) All Wales clostridium difficile surveillance reports. [gwelwyd 9 Awst 2014].

Nôl i'r tabl cynnwys

15 .Nodiadau cefndirol

  1. Metadata Marwolaethau

    Paratoir ystadegau ar farwolaethau gan ddefnyddio’r wybodaeth a ddarperir pan ardystir ac y cofrestrir marwolaethau. Mae gwybodaeth am y data sylfaenol ar farwolaethau, gan gynnwys manylion am sut y caiff y data eu casglu a’u codio, ar gael yn y metadata marwolaethau (mortality metadata (2.46 Mb Pdf) ). Mae gwybodaeth bellach am y dulliau ac am ansawdd yr ystadegau hyn i’w chael yn yr adroddiadau Gwybodaeth Ansawdd a Methodoleg ar gyfer Ystadegau Marwolaethau a Marwolaethau lle mae Clostridium difficile yn ffactor yng Nghymru, sydd ar gael ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

  2. Marwolaethau lle mae C. Difficile yn ffactor

    Mae’n anodd amcangyfrif nifer y marwolaethau sydd o ganlyniad i C. difficile. Fel rheol bydd tueddiadau mewn marwolaethau yn cael eu monitro gan ddefnyddio achos sylfaenol y farwolaeth (y clefyd a gychwynnodd y gadwyn o ddigwyddiadau a arweiniodd yn uniongyrchol at farwolaeth). Fodd bynnag, nid C. difficile (na heintiau eraill sy’n gysylltiedig â gofal iechyd) yn aml yw achos sylfaenol y farwolaeth. Fel rheol, mae’r rhai sy’n marw gyda C. difficile yn gleifion a oedd eisoes yn wael iawn, a’r clefyd oedd arnynt eisoes sydd yn aml yn cael ei roi fel achos sylfaenol y farwolaeth. Mae diddordeb gan bobl yn nifer y marwolaethau lle cyfrannodd C. Difficile i’r farwolaeth – ni ddylid cofnodi ar y dystysgrif marwolaeth unrhyw gyflyrau heblaw’r rhai sy’n cyfrannu’n uniongyrchol i’r farwolaeth honno. Mae’r canlyniadau a gyflwynir yn y bwletin hwn yn adnabod marwolaethau lle mai’r achos sylfaenol oedd C. difficile a hefyd lle crybwyllwyd C. difficile fel achos sylfaenol y farwolaeth neu ffactor a gyfrannodd iddi.

  3. Heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd

    Er y gelwir C. difficile yn aml yn haint cysylltiedig â gofal iechyd, nid yw’n bosibl dweud oddi wrth yr wybodaeth ar dystysgrif marwolaeth lle cafodd rhywun yr haint ac ni ellir gwneud rhagdybiaethau chwaith ynghylch ansawdd gofal. Bydd pobl yn aml yn cael eu trosglwyddo rhwng ysbytai, cartrefi gofal a sefydliadau eraill a gallant ddal heintiau yn rhywle heblaw’r man lle byddant farw.

  4. Ardystio marwolaethau

    Rhoddwyd canllawiau i feddygon ym Mai 2005 (a’u hadolygu yn 2010) ar ardystio marwolaethau, gan gyfeirio’n benodol at heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd. Yn dilyn hynny anfonwyd neges gan y Prif Swyddog Meddygol at bob meddyg i’w hatgoffa o’u cyfrifoldebau mewn perthynas ag ardystio marwolaethau ac i dynnu eu sylw at y canllawiau (Adran Iechyd, 2005). Yn fwy diweddar, cyhoeddwyd adroddiad gan yr Adran Iechyd ac Iechyd Cyhoeddus Lloegr (2013) gyda manylion am yr arferion da sydd i’w dilyn ac argymhellion ar gwblhau tystysgrifau marwolaeth ar gyfer marwolaethau lle roedd C. difficile yn ffactor.

  5. Poblogaeth Safonol Ewropeaidd

    Mae’r bwletin hwn yn cyflwyno cyfraddau wedi’u safoni yn ôl oedran (a elwir hefyd yn rhai wedi’u safoni’n uniongyrchol), wedi’u safoni gan ddefnyddio’r Boblogaeth Safonol Ewropeaidd. Mae’r cyfraddau’n caniatáu ar gyfer gwahaniaethau yn strwythur oedran y boblogaeth, dros amser a rhwng y ddau ryw. Y gyfradd wedi’i safoni yn ôl oedran ar gyfer rhyw achos marwolaeth penodol yw’r gyfradd a fuasai wedi digwydd petai’r cyfraddau oed-benodol a welwyd ar gyfer yr achos hwnnw wedi bod yn ddilys yn y boblogaeth safonol dan sylw. Mae templed sy’n dangos sut y cyfrifir cyfraddau wedi’u safoni yn ôl oedran ar gael ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyfrifwyd y cyfraddau marwolaethau wedi’u safoni yn ôl oedran a welir yn y bwletin hwn gan ddefnyddio Poblogaeth Safonol Ewropeaidd 2013. Ym 1976 cyflwynwyd gyntaf y Boblogaeth Safonol Ewropeaidd a ddefnyddiwyd wrth gynhyrchu ystadegau C. difficile o’r blaen, ond nid yw mwyach yn gynrychioliadol o strwythur oedran poblogaeth Aelod-wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd. Gan hynny, rhoddodd Eurostat fersiwn newydd or PSE ar waith yn 2013. Ailgyfrifwyd data hanesyddol hefyd am y blynyddoedd o 1999 ymlaen gan ddilyn PSE 2013.

  6. Poblogaethau

    Cyfrifir cyfraddau gan ddefnyddio amcangyfrifon poblogaeth canol-blwyddyn. Adolygwyd y cyfraddau marwolaethau ar gyfer 1999 i 2013 a gyflwynwyd yn y bwletin hwn gan ddefnyddio Poblogaeth Safonol Ewropeaidd newydd 2013 ac felly byddant yn wahanol i’r cyfraddau a gyhoeddwyd o’r blaen.

  7. Cyfraddau yn seiliedig ar niferoedd bach

    Ni chyfrifwyd cyfraddau oed-benodol lle roedd llai na thair marwolaeth mewn cell. Yn yr un modd, ni chyfrifwyd cyfraddau wedi’u safoni yn ôl oedran lle roedd llai na 10 marwolaeth mewn blwyddyn. Defnyddir ‘••’ i ddynodi’r cyfraddau hyn. Dan drefn y Swyddfa Ystadegau Gwladol ni chaiff y rhain eu cyfrifo gan fod cyfraddau yn seiliedig ar niferoedd mor isel â hyn yn dueddol o gael eu dehongli’n anghywir. Rhoddir cyfraddau wedi’u safoni yn ôl oedran a gyfrifwyd gan ddefnyddio 10-19 marwolaeth mewn italig er mwyn rhybuddio defnyddwyr y gall y ffaith mai nifer bach o ddigwyddiadau sydd dan sylw, effeithio ar eu dibynadwyedd fel mesur.

  8. Cyfyngau hyder

    Yn y bwletin hwn, pan ddisgrifir gwahaniaeth fel un ‘arwyddocaol yn ystadegol’, mae wedi cael ei asesu gan ddefnyddio cyfyngau hyder 95%. Mesur yw cyfyngau hyder o fanwl gywirdeb ystadegol amcangyfrif ac maent yn dangos faint o ansicrwydd sydd o’i amgylch. Mae cyfrifiadau sy’n seiliedig ar niferoedd bach o ddigwyddiadau yn aml yn dangos hap-amrywiadau. Fel rheol gyffredinol, os yw’r cyfwng hyder o amgylch ffigur yn gorgyffwrdd â’r cyfwng o amgylch un arall, nid oes gwahaniaeth arwyddocaol rhwng y ddau amcangyfrif.

  9. Echdyniadau arbennig o ddata

    Gellir archebu echdyniadau arbennig a thablau o ddata marwolaethau lle roedd C. difficile yn ffactor yng Nghymru am dâl (yn amodol ar fframweithiau cyfreithiol, rheolaeth ar ddatgelu, adnoddau a chytuno ar gostau, lle bo’n briodol). Dylid gwneud ceisiadau neu ymholiadau i:

    Tîm Dadansoddi Marwolaethau
    Is-adran Digwyddiadau Bywyd a Ffynonellau Poblogaeth
    Y Swyddfa Ystadegau Gwladol
    Adeiladau’r Llywodraeth
    Heol Caerdydd
    Casnewydd
    Gwent NP10 8XG
    Ffôn: +44 (0) 1633 456736
    E-bost: mortality@ons.gov.uk

    Mae polisi’r Swyddfa Ystadegau Gwladol ar godi tâl i’w weld ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

  10. Cynllun ar gyfer Allbynnau Marwolaethau

    Amlinellir newidiadau sydd i’w gwneud i allbynnau marwolaethau yn y cynllun ar gyfer allbynnau marwolaethau sydd ar gael ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

  11. Adborth

    Rydym yn croesawu adborth ar gynnwys, ffurf a pherthnasedd y cyhoeddiad hwn. Anfonwch eich adborth i’r cyfeiriad post neu e-bost uchod os gwelwch yn dda.

  12. Mynediad cyn cyhoeddi

    Mae rhestr o enwau’r rhai sy’n cael gweld yr ystadegau a’r sylwadau ysgrifenedig cyn eu cyhoeddi ar gael yn y rhestr mynediad cyn cyhoeddi at Farwolaethau lle mae Clostridium difficile yn ffactor. Mae’r rheolau a’r egwyddorion sy’n pennu mynediad cyn cyhoeddi yn cael eu cynnwys yng Ngorchymyn Gweld Ystadegau Swyddogol cyn eu Rhyddhau 2008.

  13. Adolygiadau

    Mae polisi adolygiadau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gael ar ein gwefan.

  14. Ystadegau Gwladol

    Cynhyrchir Ystadegau Gwladol yn unol â’r safonau proffesiynol uchel a nodir yn y Cod Ymarfer ar Ystadegau Gwladol. Cynhelir adolygiadau sicrhau ansawdd rheolaidd er mwyn sicrhau eu bod yn diwallu anghenion cwsmeriaid. Fe’u cynhyrchir heb unrhyw ymyrraeth wleidyddol Hawlfraint y Goron 2014.

  15. Amodau a Thelerau

    Cewch ddefnyddio neu ailddefnyddio’r wybodaeth hon (ac eithrio’r logos) yn ddi-dâl mewn unrhyw ffurf neu gyfrwng, o dan delerau’r Drwydded Llywodraeth Agored. I weld y drwydded hon, ewch i wefan yr Archifau Cenedlaethol, ysgrifennwch at: The Information Policy Team, The National Archives, Kew, London TW9 4DU, neu e-bostiwch: psi@nationalarchives.gsi.gov.uk.

  16. Mae manylion y polisi ar ryddhau data newydd ar gael yn www.statisticsauthority.gov.uk/assessment/code-of-practice/index.html neu drwy anfon e-bost at y Swyddfa Cysylltiadau â'r Cyfryngau: media.relations@ons.gov.uk

    Caiff yr Ystadegau Gwladol hyn eu cynhyrchu yn unol â safonau proffesiynol uchel a'u rhyddhau yn unol â'r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau'r DU.

Nôl i'r tabl cynnwys

16 . Methodology

Manylion cyswllt ar gyfer y Bwletin ystadegol

Andrew Tooley
mortality@ons.gov.uk
Ffôn: +44 (0)1633 455397