Cofair: economic_category
Cymhwysedd: Person
Math: Deillio newidyn

Diffiniad

P'un a oedd person 16 oed a throsodd yn gweithio (amser llawn neu ran-amser) yr wythnos cyn Diwrnod y Cyfrifiad, sef 21 Mawrth 2021.

Mae'n cyfuno pobl a oedd yn gweithio p'un a oeddent yn fyfyrwyr amser llawn ai peidio, y rhai a oedd yn ddi-waith p'un a oeddent yn fyfyrwyr amser llawn ai peidio a'r rhai a oedd yn anweithgar yn economaidd yn ôl p'un a ydynt wedi ymddeol neu yn ôl rheswm arall.

Dosbarthiad

Cyfanswm nifer y categorïau: 9

Cod Enw
1 Yn gweithio'n llawn-amser: Ddim yn fyfyriwr amser llawn
2 Yn gweithio'n llawn-amser: Myfyriwr amser llawn
3 Yn gweithio'n rhan-amser: Ddim yn fyfyriwr amser llawn
4 Yn gweithio'n rhan-amser: Myfyriwr amser llawn
5 Yn ddi-waith: Ddim yn fyfyriwr amser llawn
6 Yn ddi-waith: Myfyriwr amser llawn
7 Yn anweithgar yn economaidd: Wedi ymddeol
8 Yn anweithgar yn economaidd: Arall
-8 Ddim yn gymwys*

*Myfyrwyr a phlant ysgol sy’n byw i ffwrdd o'r cartref yn ystod y tymor, a phlant 15 oed neu'n iau.

Cefndir

Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cymharedd â Chyfrifiad 2011

Cymaradwy yn fras

Gwnaethom newid y geiriad rywfaint yn holiadur Cyfrifiad 2021 a thynnu allan rai o'r opsiynau y gallai pobl ddewis ohonynt.

Beth yw ystyr cymaradwy yn fras?

Mae newidyn sy’n gymaradwy yn fras yn golygu y gellir ei gymharu’n gyffredinol â’r un newidyn a ddefnyddiwyd yng Nghyfrifiad 2011. Fodd bynnag, efallai bod newidiadau wedi'u gwneud i'r cwestiwn neu'r opsiynau y gallai pobl ddewis ohonynt neu sut mae atebion ysgrifenedig yn cael eu dosbarthu.

Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban

Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).

Data Cyfrifiad 2021 sy’n defnyddio’r newidyn hwn