Cofair: hrp_economic_activity
Cymhwysedd: Person
Math: Deillio newidyn

Diffiniad

Mae pobl 16 oed a throsodd yn weithgar yn economaidd os, rhwng 15 Mawrth a 21 Mawrth 2021, roeddent:

  • mewn gwaith (gweithiwr cyflogedig neu'n hunangyflogedig)
  • yn ddi-waith, ond yn chwilio am waith ac yn gallu dechrau o fewn pythefnos
  • yn ddi-waith, ond yn aros i ddechrau swydd a oedd wedi'i chynnig a'i derbyn

Mae'n ffordd o fesur a oedd unigolyn yn rhan weithredol o'r farchnad lafur yn ystod y cyfnod hwn ai peidio. Pobl anweithgar yn economaidd yw'r bobl 16 oed a throsodd rhai nad oedd ganddynt swydd rhwng 15 Mawrth a 21 Mawrth 2021 ac nad oeddent wedi chwilio am waith rhwng 22 Chwefror a 21 Mawrth 2021 neu na allent ddechrau gweithio o fewn pythefnos.

Mae diffiniad y cyfrifiad yn wahanol i ddiffiniad y Sefydliad Llafur Rhyngwladol a ddefnyddir yn yr Arolwg o'r Llafurlu, felly nid oes modd cymharu'r amcangyfrifon yn uniongyrchol.

Mae’r dosbarthiad yma yn rhannu myfyrwyr amser llawn oddi wrth y rhai sydd yn fyfyrwyr rhan-amser pan fyddant yn gyflogedig neu yn ddi-waith. Argymhellir ywchwanegi rhain gydai’n gilydd i edrych ar bob un o’r rheini sydd mewn cyflogaeth neu yn ddi-waith, neu i defnyddio’r dosbarthiad farchnad lafur pedwar categori, os ydych am edrych ar bawb sydd â statws marchnad lafur arbennig.

Dosbarthiad

Cyfanswm nifer y categorïau: 10

Cod Enw
1 Person Cyswllt y Cartref: Yn weithgar yn economaidd (heb gynnwys myfyrwyr amser llawn): Mewn gwaith
2 Person Cyswllt y Cartref: Yn weithgar yn economaidd (heb gynnwys myfyrwyr amser llawn): Di-waith: Yn chwilio am waith neu'n aros i ddechrau swydd a gafwyd eisoes: Ar gael i ddechrau gweithio o fewn pythefnos
3 Person Cyswllt y Cartref: Yn weithgar yn economaidd ac yn fyfyriwr amser llawn: Mewn gwaith
4 Person Cyswllt y Cartref: Yn weithgar yn economaidd ac yn fyfyriwr amser llawn: Di-waith: Yn chwilio am waith neu'n aros i ddechrau swydd a gafwyd eisoes: Ar gael i ddechrau gweithio o fewn pythefnos
5 Person Cyswllt y Cartref: Yn anweithgar yn economaidd: Wedi ymddeol
6 Person Cyswllt y Cartref: Yn anweithgar yn economaidd: Myfyriwr
7 Person Cyswllt y Cartref: Yn anweithgar yn economaidd: Yn gofalu am y cartref neu am y teulu
8 Person Cyswllt y Cartref: Yn anweithgar yn economaidd: Yn anabl neu yn sâl am gyfnod hir
9 Person Cyswllt y Cartref: Yn anweithgar yn economaidd: Arall
-8 Ddim yn gymwys*

*Pobl nad ydynt yn byw mewn cartrefi.

Cefndir

Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cymharedd â Chyfrifiad 2011

Cymaradwy yn fras

Gwnaethom newid y geiriad rywfaint yn holiadur Cyfrifiad 2021 a thynnu allan rai o'r opsiynau y gallai pobl ddewis ohonynt.

Beth yw ystyr cymaradwy yn fras?

Mae newidyn sy’n gymaradwy yn fras yn golygu y gellir ei gymharu’n gyffredinol â’r un newidyn a ddefnyddiwyd yng Nghyfrifiad 2011. Fodd bynnag, efallai bod newidiadau wedi'u gwneud i'r cwestiwn neu'r opsiynau y gallai pobl ddewis ohonynt neu sut mae atebion ysgrifenedig yn cael eu dosbarthu.

Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban

Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).

Data Cyfrifiad 2021 sy’n defnyddio’r newidyn hwn