Cofair: economic_activity_hours_worked
Cymhwysedd: Person
Math: Deillio newidyn
Diffiniad
Mae hyn yn gyfuniad o'r newidynnau gweithgarwch economaidd ac oriau gwaith sy'n categoreiddio pobl sydd mewn gwaith yn ôl nifer yr oriau y maent yn eu gweithio bob wythnos. Mae hefyd yn cynnwys y rheini sy'n ddi-waith neu'n anweithgar yn economaidd.
Dosbarthiad
Cyfanswm nifer y categorïau: 20
Cod | Enw |
---|---|
1 | Yn weithgar yn economaidd (heb gynnwys myfyrwyr amser llawn): Mewn gwaith: Gweithiwr cyflogedig: Rhan-amser: Yn gweithio 15 awr neu lai |
2 | Yn weithgar yn economaidd (heb gynnwys myfyrwyr amser llawn): Mewn gwaith: Gweithiwr cyflogedig: Rhan-amser: Yn gweithio 16 i 30 awr |
3 | Yn weithgar yn economaidd (heb gynnwys myfyrwyr amser llawn): Mewn gwaith: Gweithiwr cyflogedig: Llawn-amser: yn gweithio 31 i 48 awr |
4 | Yn weithgar yn economaidd (heb gynnwys myfyrwyr amser llawn): Mewn gwaith: Gweithiwr cyflogedig: Llawn-amser: Yn gweithio 49 awr neu fwy |
5 | Yn weithgar yn economaidd (heb gynnwys myfyrwyr amser llawn): Mewn gwaith: Hunangyflogedig Rhan-amser: Yn gweithio 15 awr neu lai |
6 | Yn weithgar yn economaidd (heb gynnwys myfyrwyr amser llawn): Mewn gwaith: Hunangyflogedig Rhan-amser: Yn gweithio 16 i 30 awr |
7 | Yn weithgar yn economaidd (heb gynnwys myfyrwyr amser llawn): Mewn gwaith: Hunangyflogedig Llawn-amser: yn gweithio 31 i 48 awr |
8 | Yn weithgar yn economaidd (heb gynnwys myfyrwyr amser llawn): Mewn gwaith: Hunangyflogedig Llawn-amser: Yn gweithio 49 awr neu fwy |
9 | Yn weithgar yn economaidd: Mewn gwaith: Myfyrwyr amser llawn: Rhan-amser: Yn gweithio 15 awr neu lai |
10 | Yn weithgar yn economaidd: Mewn gwaith: Myfyrwyr amser llawn: Rhan-amser: Yn gweithio 16 i 30 awr |
11 | Yn weithgar yn economaidd: Mewn gwaith: Myfyrwyr amser llawn: Llawn-amser: yn gweithio 31 i 48 awr |
12 | Yn weithgar yn economaidd: Mewn gwaith: Myfyrwyr amser llawn: Llawn-amser: Yn gweithio 49 awr neu fwy |
13 | Yn weithgar yn economaidd: Yn ddi-waith: Yn ddi-waith (heb gynnwys myfyrwyr amser llawn) |
14 | Yn weithgar yn economaidd: Yn ddi-waith: Myfyrwyr amser llawn |
15 | Yn anweithgar yn economaidd: Wedi ymddeol |
16 | Yn anweithgar yn economaidd: Myfyriwr |
17 | Yn anweithgar yn economaidd: Yn gofalu am y cartref neu am y teulu |
18 | Yn anweithgar yn economaidd: Yn anabl neu yn sâl am gyfnod hir |
19 | Yn anweithgar yn economaidd: Arall |
-8 | Ddim yn gymwys* |
*Myfyrwyr a phlant ysgol sy’n byw i ffwrdd o'r cartref yn ystod y tymor, a phlant 15 oed neu'n iau.
Ansawdd gwybodaeth
Gan fod Cyfrifiad 2021 yn ystod cyfnod unigryw o newid cyflym, cymerwch ofal wrth ddefnyddio data’r Farchnad Lafur at ddibenion cynllunio.
Cefndir
Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).
Cymharedd â Chyfrifiad 2011
Cymaradwy iawn
Beth yw ystyr cymaradwy iawn?
Mae newidyn sy’n gymaradwy iawn yn golygu y gellir ei gymharu’n uniongyrchol â’r newidyn o Gyfrifiad 2011. Gall y cwestiynau a’r opsiynau y gallai pobl ddewis fod ychydig yn wahanol, er enghraifft efallai bod trefn yr opsiynau wedi’u newid, ond mae’r data a gesglir yr un peth.
Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban
Ddim yn gymaradwy
Nid yw'r newidyn hwn yn gymaradwy am nad yw'r data ar gael ar gyfer pob gwlad.
Beth yw ystyr ddim yn gymaradwy?
Mae newidyn nad yw'n gymaradwy (neu sydd ‘ddim yn gymaradwy’) yn golygu na ellir ei gymharu ar gyfer Cymru, Lloegr, yr Alban na Gogledd Iwerddon.
Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).