Cofair: approx_social_grade
Cymhwysedd: Person
Math: Deillio newidyn

Diffiniad

Caiff y dosbarthiad economaidd-gymdeithasol hwn ei ddefnyddio gan ddiwydiannau ymchwil i'r farchnad a marchnata i ddadansoddi arferion gwario ac agweddau defnyddwyr. Nid oes modd neilltuo gradd gymdeithasol yn fanwl gywir o Gyfrifiad 2021, er bod dull y Gymdeithas Ymchwil i'r Farchnad yn rhoi bras amcan da.

Dosbarthiad

Cyfanswm nifer y categorïau: 5

Cod Enw
1 AB Galwedigaethau rheoli/gweinyddol/proffesiynol uwch a chanolradd
2 C1 Galwedigaethau rheoli/gweinyddol/proffesiynol ar lefel goruchwylio, clercol ac iau
3 C2 Galwedigaethau llaw medrus
4 DE Galwedigaethau llaw rhannol fedrus a heb sgiliau di-waith a galwedigaethau ar y radd isaf
-8 Ddim yn gymwys*

*Personau Cyswllt y Cartref 15 oed neu'n iau, a Phersonau Cyswllt y Cartref 65 oed a throsodd.

Ansawdd gwybodaeth

Gan fod Cyfrifiad 2021 yn ystod cyfnod unigryw o newid cyflym, cymerwch ofal wrth ddefnyddio data’r Farchnad Lafur at ddibenion cynllunio.

Darllenwch fwy yn ein methodoleg ar wybodaeth am ansawdd data’r farchnad lafur o Gyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cefndir

Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cymharedd â Chyfrifiad 2011

Cymaradwy yn fras

Yn 2021, defnyddiwyd dull methodolegol gwell i greu’r newidyn hwn. Fodd bynnag, gan fod gradd gymdeithasol wedi’i modelu gan ddefnyddio gwahanol algorithmau a newidynnau yn 2011 a 2021, byddai’n gamarweiniol defnyddio allbynnau’r cyfrifiad i archwilio tueddiadau dros y cyfnod hwn.

Beth yw ystyr cymaradwy yn fras?

Mae newidyn sy’n gymaradwy yn fras yn golygu y gellir ei gymharu’n gyffredinol â’r un newidyn a ddefnyddiwyd yng Nghyfrifiad 2011. Fodd bynnag, efallai bod newidiadau wedi'u gwneud i'r cwestiwn neu'r opsiynau y gallai pobl ddewis ohonynt neu sut mae atebion ysgrifenedig yn cael eu dosbarthu.

Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban

Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).

Data Cyfrifiad 2021 sy’n defnyddio’r newidyn hwn