Cofair: intention_to_stay
Cymhwysedd: Person
Math: Newidyn safonol

Diffiniad

Am ba hyd mae person na chafodd ei eni yn y Deyrnas Unedig a gyrhaeddodd ddiweddaraf ar 21 Mawrth 2021, neu ar ôl hynny, yn bwriadu aros. Mae hyn yn cynnwys yr amser y mae wedi’i dreulio yn y Deyrnas Unedig yn barod.

Dosbarthiad

Cyfanswm nifer y categorïau: 3

Cod Enw
1 Arhosir yn y Deyrnas Unedig am lai na 12 mis
2 Arhosir yn y Deyrnas Unedig am fwy na 12 mis
-8 Ddim yn gymwys*

*Myfyrwyr a phlant ysgol sy’n byw i ffwrdd o'r cartref yn ystod y tymor.

Cwestiwn a ofynnwyd

Gan gynnwys yr amser rydych chi wedi’i dreulio yma’n barod, am faint ydych chi’n bwriadu aros yn y Deyrnas Unedig?

  • Llai na 12 mis
  • 12 mis neu fwy

Yng Nghyfrifiad 2021, tynnwyd “6 i 12 mis” o'r rhestr o opsiynau y gallai pobl ddewis ohonynt.

Cefndir

Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Pam rydym ni’n gofyn y cwestiwn hwn

Mae'r atebion yn helpu awdurdodau lleol i gyfrifo nifer y bobl sy'n byw yn eu hardal dros dymor byr neu'n hirdymor. Gallant ddefnyddio'r wybodaeth hon i wneud yn siŵr eu bod yn darparu'r gwasanaethau cywir ar gyfer cymunedau.

Gall faint o amser mae person yn bwriadu ei dreulio yn byw yn y Deyrnas Unedig effeithio ar sut mae'n byw o fewn ei gymuned. Mae hyn yn cynnwys sut mae aelodau cymuned yn rhyngweithio â'i gilydd. Gall awdurdodau lleol ddefnyddio'r wybodaeth hon i asesu anghenion mudwyr sy'n byw yn eu hardal. Gall anghenion pobl am bethau fel gwasanaeth, swyddi neu hyfforddiant newid yn dibynnu am ba hyd maen nhw'n byw yn y wlad.

Dechreuodd y cyfrifiad ofyn y cwestiwn hwn yn 2011.

Cymharedd â Chyfrifiad 2011

Cymaradwy yn fras

Rydym wedi newid yr opsiynau y gallai pobl ddewis ohonynt yn yr holiadur. Mae hyn yn golygu nad yw'n bosibl gwahaniaethu rhwng “Preswylwyr byrdymor rhwng 2 a 5 mis” a “Preswylwyr byrdymor rhwng 6 ac 11 mis” wrth gymharu â data o Gyfrifiad 2011.

Beth yw ystyr cymaradwy yn fras?

Mae newidyn sy’n gymaradwy yn fras yn golygu y gellir ei gymharu’n gyffredinol â’r un newidyn a ddefnyddiwyd yng Nghyfrifiad 2011. Fodd bynnag, efallai bod newidiadau wedi'u gwneud i'r cwestiwn neu'r opsiynau y gallai pobl ddewis ohonynt neu sut mae atebion ysgrifenedig yn cael eu dosbarthu.

Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban

Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).

Data Cyfrifiad 2021 sy’n defnyddio’r newidyn hwn