Cofair: ce_position_sex_age
Cymhwysedd: Person
Math: Deillio newidyn

Diffiniad

Mae preswylydd arferol mewn sefydliad cymunedol naill ai yn:

  • rhywun sy'n byw yno
  • rhywun sy'n gweithio ac yn byw yno
  • rhywun sy'n aelod o deulu staff sy'n gweithio ac yn byw yno

Mae'r newidyn deilliedig hwn yn dangos y mathau gwahanol o breswylwyr sefydliadau cymunedol ac yn eu categoreiddio yn ôl oedran a rhyw.

Dosbarthiad

Cyfanswm nifer y categorïau: 19

Cod Enw
1 Preswylydd: Gwryw: Yn 0 i 15 oed
2 Preswylydd: Gwryw: Yn 16 i 24 oed
3 Preswylydd: Gwryw: Yn 25 i 34 oed
4 Preswylydd: Gwryw: Yn 35 i 49 oed
5 Preswylydd: Gwryw: Yn 50 i 64 oed
6 Preswylydd: Gwryw: Yn 65 i 74 oed
7 Preswylydd: Gwryw: Yn 75 i 84 oed
8 Preswylydd: Gwryw: Yn 85 oed a throsodd
9 Preswylydd: Benyw: Yn 0 i 15 oed
10 Preswylydd: Benyw: Yn 16 i 24 oed
11 Preswylydd: Benyw: Yn 25 i 34 oed
12 Preswylydd: Benyw: Yn 35 i 49 oed
13 Preswylydd: Benyw: Yn 50 i 64 oed
14 Preswylydd: Benyw: Yn 65 i 74 oed
15 Preswylydd: Benyw: Yn 75 i 84 oed
16 Preswylydd: Benyw: Yn 85 oed a throsodd
17 Aelod o staff neu berchennog
18 Perthynas neu bartner i'r perchennog neu i aelod o'r staff
19 Aros dros dro (heb gyfeiriad arferol yn y Deyrnas Unedig)

Cefndir

Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cymharedd â Chyfrifiad 2011

Cymaradwy iawn

Beth yw ystyr cymaradwy iawn?

Mae newidyn sy’n gymaradwy iawn yn golygu y gellir ei gymharu’n uniongyrchol â’r newidyn o Gyfrifiad 2011. Gall y cwestiynau a’r opsiynau y gallai pobl ddewis fod ychydig yn wahanol, er enghraifft efallai bod trefn yr opsiynau wedi’u newid, ond mae’r data a gesglir yr un peth.

Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban

Ddim yn gymaradwy

Nid yw'r newidyn hwn yn gymaradwy am nad yw'r data ar gael ar gyfer pob gwlad.

Beth yw ystyr ddim yn gymaradwy?

Mae newidyn nad yw'n gymaradwy (neu sydd ‘ddim yn gymaradwy’) yn golygu na ellir ei gymharu ar gyfer Cymru, Lloegr, yr Alban na Gogledd Iwerddon.

Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).

Data Cyfrifiad 2021 sy’n defnyddio’r newidyn hwn

Rydym yn defnyddio newidynnau o ddata Cyfrifiad 2021 i ddangos canfyddiadau mewn gwahanol ffyrdd.

Gallwch chi: