Cofair: hh_spaces_shared_dwelling
Cymhwysedd: Annedd
Math: Deillio newidyn

Diffiniad

Nifer y lleoedd cartref mewn anheddau sy'n cael eu rhannu.

Dosbarthiad

Cyfanswm nifer y categorïau: 3

Cod Enw
1 Annedd sy'n cael ei rhannu: Dau le cartref
2 Annedd sy'n cael ei rhannu: Tri neu fwy o leoedd cartref
3 Annedd heb ei rhannu

*Anheddau heb eu rhannu a chartrefi sydd ynddynt.

Ansawdd gwybodaeth

Roedd gwelliannau i ffrâm cyfeiriadau’r Cyfrifiad yn ein galluogi i restru nifer o ofodau cartref yn yr un adeilad yn gywir. Mae hyn yn golygu bod y data’n cael eu cyfrif yn amlach fel cartrefi gwahanol o fewn anheddau ar wahân sy’n adlewyrchu trefniadau byw.

Darllenwch fwy yn ein methodoleg ar wybodaeth am ansawdd data am dai o Gyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cefndir

Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cymharedd â Chyfrifiad 2011

Cymaradwy yn fras

Yng Nghyfrifiad 2021, gwnaethom welliannau i’r rhestr cyfeiriadau a ddefnyddiwyd ar gyfer casglu data’r cyfrifiad a helpodd i nodi gofodau mewn cartrefi yn well. Mae hyn yn golygu bod data’n cael eu cyfrif fel anheddau ar wahân yn amlach nag yr oeddent yn 2011 ac mae’n adlewyrchiad gwell o drefniadau byw pobl o gymharu â Chyfrifiad 2011.

Ar gyfer Cyfrifiad 2021, gwnaethom gyfrif nifer yr anheddau nad oeddent yn cynnwys preswylwyr arferol. Fel yng Nghyfrifiad 2011, gwnaethom gyfrifo hyn o nifer yr ymatebion a nododd bod lle cartref heb ei feddiannu neu'n cael ei feddiannu gan breswylwyr byrdymor yn unig. Fodd bynnag, yn 2021, gallem hefyd gynnwys yr anheddau hynny na chawsom unrhyw ymateb ganddynt ac y penderfynwyd eu bod yn wag.

Beth yw ystyr cymaradwy yn fras?

Mae newidyn sy’n gymaradwy yn fras yn golygu y gellir ei gymharu’n gyffredinol â’r un newidyn a ddefnyddiwyd yng Nghyfrifiad 2011. Fodd bynnag, efallai bod newidiadau wedi'u gwneud i'r cwestiwn neu'r opsiynau y gallai pobl ddewis ohonynt neu sut mae atebion ysgrifenedig yn cael eu dosbarthu.

Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban

Ddim yn gymaradwy

Nid yw'r newidyn hwn yn gymaradwy am nad yw'r data ar gael ar gyfer pob gwlad.

Beth yw ystyr ddim yn gymaradwy?

Mae newidyn nad yw'n gymaradwy (neu sydd ‘ddim yn gymaradwy’) yn golygu na ellir ei gymharu ar gyfer Cymru, Lloegr, yr Alban na Gogledd Iwerddon.

Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).

Data Cyfrifiad 2021 sy’n defnyddio’r newidyn hwn