Cofair: dwelling_hmo_unrelated
Cymhwysedd: Annedd
Math: Deillio newidyn

Diffiniad

Bydd annedd lle mae tenantiaid nad ydynt yn perthyn i'w gilydd yn rhentu eu cartref gan landlord preifat yn dŷ amlfeddiannaeth os bydd y ddau beth canlynol yn gymwys:

  • mae o leiaf 3 unigolyn nad ydynt yn perthyn i'w gilydd yn byw yno, gan ffurfio mwy nag un cartref
  • caiff cyfleusterau toiled, ystafell ymolchi neu gegin eu rhannu â thenantiaid eraill

Caiff tŷ amlfeddiannaeth bach ei rannu gan 3 neu 4 tenant nad ydynt yn perthyn i'w gilydd. Caiff tŷ amlfeddiannaeth mawr ei rannu gan 5 neu fwy o denantiaid nad ydynt yn perthyn i'w gilydd.

Dosbarthiad

Cyfanswm nifer y categorïau: 3

Cod Enw
1 Yn dŷ amlfeddiannaeth bach
2 Yn dŷ amlfeddiannaeth mawr
-8 Ddim yn gymwys*

*Anheddau nad ydynt yn dai amlfeddiannaeth, neu gartrefi nad ydynt yn dai amlfeddiannaeth.

Ansawdd gwybodaeth

Roedd gwelliannau i ffrâm cyfeiriadau’r Cyfrifiad yn ein galluogi i restru nifer o ofodau cartref yn yr un adeilad yn gywir. Mae hyn yn golygu bod y data’n cael eu cyfrif yn amlach fel cartrefi gwahanol o fewn anheddau ar wahân sy’n adlewyrchu trefniadau byw.

Darllenwch fwy yn ein methodoleg ar wybodaeth am ansawdd data am dai o Gyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cefndir

Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cymharedd â Chyfrifiad 2011

Ddim yn gymaradwy

Mae'r newidyn hwn yn newydd ar gyfer Cyfrifiad 2021 ac felly ni ellir cymharu â Chyfrifiad 2011.

Beth yw ystyr ddim yn gymaradwy?

Mae newidyn sydd ddim yn gymaradwy yn golygu na ellir ei gymharu â newidyn o Gyfrifiad 2011.

Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban

Ddim yn gymaradwy

Nid yw'r newidyn hwn yn gymaradwy am nad yw'r data ar gael ar gyfer pob gwlad.

Beth yw ystyr ddim yn gymaradwy?

Mae newidyn nad yw'n gymaradwy (neu sydd ‘ddim yn gymaradwy’) yn golygu na ellir ei gymharu ar gyfer Cymru, Lloegr, yr Alban na Gogledd Iwerddon.

Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).

Data Cyfrifiad 2021 sy’n defnyddio’r newidyn hwn