Cofair: ce_management_type
Cymhwysedd: Sefydliad cymunedol
Math: Deillio newidyn

Diffiniad

Lleoliad yw sefydliad cymunedol wedi'i reoli lle caiff y llety preswyl ei oruchwylio drwy’r amser neu am ran o’r amser.

Mae enghreifftiau yn cynnwys:

  • neuaddau preswyl prifysgolion ac ysgolion preswyl
  • cartrefi gofal, ysbytai, hosbisau ac unedau mamolaeth
  • gwestai, tai llety, hostelau a llety gwely a brecwast, y mae gan bob un ohonynt lety preswyl i saith gwestai neu fwy
  • carchardai a chyfleusterau diogel eraill
  • Llety Byw Unigol mewn canolfannau milwrol
  • llety i staff
  • sefydliadau crefyddol

Nid yw'n cynnwys llety gwarchod, fflatiau a wasanaethir, llety nyrsys, na thai a gaiff eu rhentu i fyfyrwyr gan landlordiaid preifat. Cartrefi yw'r rhain.

Dosbarthiad

Cyfanswm nifer y categorïau: 26

Cod Enw
1 Sefydliad meddygol a gofal: Y GIG: Ysbyty cyffredinol
2 Sefydliad meddygol a gofal: Y GIG: Ysbyty neu uned iechyd meddwl (gan gynnwys unedau diogel)
3 Sefydliad meddygol a gofal: Y GIG: Ysbyty arall
4 Sefydliad meddygol a gofal: Awdurdod Lleol: Cartref plant (gan gynnwys unedau diogel)
5 Sefydliad meddygol a gofal: Awdurdod Lleol: Cartref gofal â nyrsio
6 Sefydliad meddygol a gofal: Awdurdod Lleol: Cartref gofal heb nyrsio
7 Sefydliad meddygol a gofal: Awdurdod Lleol: Cartref arall
8 Sefydliad meddygol a gofal: Landlord Cymdeithasol Cofrestredig neu Gymdeithas Dai: Cartref neu hostel
9 Sefydliad meddygol a gofal: Arall: Cartref gofal â nyrsio
10 Sefydliad meddygol a gofal: Arall: Cartref gofal heb nyrsio
11 Sefydliad meddygol a gofal: Arall: Cartref plant (gan gynnwys unedau diogel)
12 Sefydliad meddygol a gofal: Arall: Ysbyty neu uned iechyd meddwl (gan gynnwys unedau diogel)
13 Sefydliad meddygol a gofal: Arall: Ysbyty arall
14 Sefydliad meddygol a gofal: Arall: Sefydliad arall
15 Sefydliad arall: Amddiffyn
16 Sefydliad arall: Y gwasanaeth carchardai
17 Sefydliad arall: Safle a gymeradwywyd (hostel prawf neu fechnïaeth)
18 Sefydliad arall: Canolfannau cadw a math arall o sefydliad cadw
19 Sefydliad arall: Addysg
20 Sefydliad arall: Gwesty, tŷ llety, gwely a brecwast neu hostel ieuenctid
21 Sefydliad arall: Hostel neu loches dros dro i bobl ddigartref
22 Sefydliad arall: Llety gwyliau
23 Sefydliad arall: Math arall o lety dros dro neu wrth deithio
24 Sefydliad arall: Crefyddol
25 Sefydliad arall: Llety i staff neu weithwyr yn unig neu Arall
-8 Sefydliad heb ei nodi

*Sefydliadau cymunedol lle na chafodd y math o reolaeth ei nodi.

Ansawdd gwybodaeth

Rydym wedi gwneud newidiadau i ddiffiniadau tai ers Cyfrifiad 2021. Cymerwch ofal os byddwch yn cymharu canlyniadau Cyfrifiad 2021 â chanlyniadau Cyfrifiad 2011 ar gyfer y pwnc hwn.

Darllenwch fwy yn ein methodoleg ar wybodaeth am ansawdd data am dai o Gyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cefndir

Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cymharedd â Chyfrifiad 2011

Cymaradwy yn fras

Rydym wedi dileu'r categori “sefydliad meddygol a gofal: Landlord Cymdeithasol Cofrestredig/cymdeithas Dai: Tai gwarchod yn unig” o'r newidyn hwn. Y rheswm dros hyn yw ei fod y cael ei gyfrif fel cartref bellach yn hytrach na sefydliad cymunedol.

Beth yw ystyr cymaradwy yn fras?

Mae newidyn sy’n gymaradwy yn fras yn golygu y gellir ei gymharu’n gyffredinol â’r un newidyn a ddefnyddiwyd yng Nghyfrifiad 2011. Fodd bynnag, efallai bod newidiadau wedi'u gwneud i'r cwestiwn neu'r opsiynau y gallai pobl ddewis ohonynt neu sut mae atebion ysgrifenedig yn cael eu dosbarthu.

Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban

Cymaradwy iawn

Beth yw ystyr cymaradwy iawn?

Mae newidyn sy'n gymaradwy iawn yn golygu y gellir ei gymharu'n uniongyrchol â'r newidyn o'r Alban a Gogledd Iwerddon. Efallai fod y cwestiynau a'r opsiynau y gallai pobl ddewis ohonynt ychydig yn wahanol, er enghraifft gall yr opsiynau fod mewn trefn wahanol, ond mae'r data a gaiff eu casglu yr un peth.

Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).

Data Cyfrifiad 2021 sy’n defnyddio’r newidyn hwn

Rydym yn defnyddio newidynnau o ddata Cyfrifiad 2021 i ddangos canfyddiadau mewn gwahanol ffyrdd.

Gallwch chi:

Setiau data eraill sy’n defnyddio’r newidyn hwn