Cofair: religion
Cymhwysedd: Person
Math: Newidyn safonol

Diffiniad

Y grefydd y mae pobl yn cysylltu neu'n uniaethu â hi (eu hymlyniad crefyddol), p'un a ydynt yn ei harfer neu'n credu ynddi ai peidio.

Roedd y cwestiwn hwn yn wirfoddol ac mae'r newidyn yn cynnwys pobl a atebodd y cwestiwn, gan gynnwys "Dim crefydd", ochr yn ochr â'r rhai a ddewisodd beidio ag ateb y cwestiwn hwn.

Mae'r newidyn hwn yn dosbarthu pobl i'r 8 opsiwn ymateb â blwch ticio. Caiff ymatebion ysgrifenedig eu dosbarthu yn ôl eu hymlyniad crefyddol "gwreiddiol", gan gynnwys ‘Dim crefydd’, pan fo'n gymwys.

Dosbarthiad

Cyfanswm nifer y categorïau: 58

Cod Enw
1 Cristnogaeth
2 Bwdhaeth
3 Hindŵaeth
4 Iddewiaeth
5 Islam
6 Siciaeth
7 Crefydd arall: Alevi
8 Dim crefydd: Agnostig
9 Dim crefydd: Anffyddiwr
10 Dim crefydd: Meddyliwr Rhydd
11 Dim crefydd: Dyneiddiwr
12 Dim crefydd: Dim crefydd
13 Dim crefydd: Realydd
14 Crefydd arall: Animistiaeth
15 Crefydd arall: Baha'i
16 Crefydd arall: Credu mewn Duw
17 Crefydd arall: Brahma Kumari
18 Crefydd arall: Crefydd Tsieineaidd
19 Crefydd arall: Eglwys Pob Crefydd
20 Crefydd arall: Conffiwsiad
21 Crefydd arall: Deist
22 Crefydd arall: Derwydd
23 Crefydd arall: Druze
24 Crefydd arall: Eckankar
25 Crefydd arall: Anghred
26 Crefydd arall: Jain
27 Crefydd arall: Crefydd Cymysg
28 Crefydd arall: Cyfriniaeth
29 Crefydd arall: Eglwys Americanaidd Frodorol
30 Crefydd arall: Yr Oes Newydd
31 Crefydd arall: Yr Ocwlt
32 Crefydd arall: Crefyddau eraill
33 Crefydd arall: System Hunan-Gred
34 Crefydd arall: Pagan
35 Crefydd arall: Holl-dduwiaeth
36 Crefydd arall: Rastaffariad
37 Crefydd arall: Ravidassia
38 Crefydd arall: Adferwr
39 Crefydd arall: Sataniaeth
40 Crefydd arall: Seientoleg
41 Crefydd arall: Siamaniaeth
42 Crefydd arall: Shintoaeth
43 Crefydd arall: Ysbrydol
44 Crefydd arall: Ysbrydegydd
45 Crefydd arall: Taöydd
46 Crefydd arall: Theistiaeth
47 Crefydd arall: Thelemiad
48 Crefydd arall: Crefydd Affricanaidd Draddodiadol
49 Crefydd arall: Eglwys Uniad
50 Crefydd arall: Cyffredinolwr
51 Crefydd arall: Valmiki
52 Crefydd arall: Vodun
53 Crefydd arall: Wicca
54 Crefydd arall: Dewiniaeth
55 Crefydd arall: Yazidi
56 Crefydd arall: Zoroastriad
57 Heb ateb
-8 Ddim yn gymwys*

*Myfyrwyr a phlant ysgol sy’n byw i ffwrdd o'r cartref yn ystod y tymor.

Gweld pob dosbarthiad crefydd (manwl).

Ansawdd gwybodaeth

Mae rhai materion ansawdd yn y data a allai effeithio ar sut rydych chi’n defnyddio’r data.

Cwestiwn a ofynnwyd

Beth yw eich crefydd?

  • Dim crefydd
  • Cristnogaeth (pob enwad)
  • Bwdhaeth
  • Hindŵaeth
  • Iddewiaeth
  • Islam
  • Siciaeth
  • Unrhyw grefydd arall, nodwch

Roedd y cwestiwn a'r opsiynau y gallai pobl ddewis ohonynt yr un peth yng Nghyfrifiad 2021 ac yng Nghyfrifiad 2011.

Cefndir

Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Pam rydym ni’n gofyn y cwestiwn hwn

Mae'r ateb yn helpu cymunedau drwy alluogi llywodraeth leol a chanolog i gynllunio gwasanaethau yn well a neilltuo adnoddau ar gyfer eu hardal.

Gall y GIG ac awdurdodau lleol ddefnyddio'r wybodaeth hon i helpu i gynllunio a monitro gwasanaethau i bobl leol o amrywiaeth eang o gefndiroedd crefyddol. Gallai hyn gynnwys polisïau am gaplaniaid ysbytai a gwybodaeth i'r cyhoedd.

Bydd yr ateb yn helpu cyrff cyhoeddus i drin pawb yn deg, yn unol â'u dyletswyddau cyfreithiol ynghylch cydraddoldeb, a nodi achosion o wahaniaethu neu allgáu cymdeithasol ar sail crefydd a gweithio i'w hatal rhag digwydd.

Dechreuodd y cyfrifiad ofyn y cwestiwn hwn yn 2001.

Cymharedd â Chyfrifiad 2011

Cymaradwy yn fras

Rydym wedi ychwanegu'r categorïau Crefydd arall: Alevi, Crefydd arall: Valmiki a Crefydd arall: Yazidi at y newidyn deilliedig hwn.

Mae'r ddau gategori Dim crefydd: Marchog Jedi a Dim crefydd: Metel Trwm wedi'u cynnwys yn y rhiant-gategori Dim crefydd.

Beth yw ystyr cymaradwy yn fras?

Mae newidyn sy’n gymaradwy yn fras yn golygu y gellir ei gymharu’n gyffredinol â’r un newidyn a ddefnyddiwyd yng Nghyfrifiad 2011. Fodd bynnag, efallai bod newidiadau wedi'u gwneud i'r cwestiwn neu'r opsiynau y gallai pobl ddewis ohonynt neu sut mae atebion ysgrifenedig yn cael eu dosbarthu.

Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban

Ddim yn gymaradwy

Nid yw'r newidyn hwn yn gymaradwy am nad yw'r data ar gael ar gyfer pob gwlad.

Beth yw ystyr ddim yn gymaradwy?

Mae newidyn nad yw'n gymaradwy (neu sydd ‘ddim yn gymaradwy’) yn golygu na ellir ei gymharu ar gyfer Cymru, Lloegr, yr Alban na Gogledd Iwerddon.

Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).

Data Cyfrifiad 2021 sy’n defnyddio’r newidyn hwn

Rydym yn defnyddio newidynnau o ddata Cyfrifiad 2021 i ddangos canfyddiadau mewn gwahanol ffyrdd.

Gallwch chi: