Cofair: jewish_ind
Cymhwysedd: Person
Math: Deillio newidyn
Diffiniad
Mae hyn yn nodi a wnaeth person a ymatebodd i Gyfrifiad 2021 roi Iddewig fel grŵp ethnig, crefydd neu'r ddau.
Dosbarthiad
Cyfanswm nifer y categorïau: 5
Cod | Enw |
---|---|
0 | Nid oes gan y person hunaniaeth Iddewig |
1 | Mae gan y person hunaniaeth Iddewig: Grŵp ethnig yn unig |
2 | Mae gan y person hunaniaeth Iddewig: Crefydd yn unig |
3 | Mae gan y person hunaniaeth Iddewig: Grŵp ethnig a chrefydd |
-8 | Ddim yn gymwys* |
*Myfyrwyr a phlant ysgol sy’n byw i ffwrdd o'r cartref yn ystod y tymor.
Cefndir
Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).
Cymharedd â Chyfrifiad 2011
Ddim yn gymaradwy
Mae'r newidyn hwn yn newydd ar gyfer Cyfrifiad 2021 ac felly ni ellir cymharu â Chyfrifiad 2011.
Beth yw ystyr ddim yn gymaradwy?
Mae newidyn sydd ddim yn gymaradwy yn golygu na ellir ei gymharu â newidyn o Gyfrifiad 2011.
Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban
Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).