Cofair: families_and_children_welsh_speaker_parents
Cymhwysedd: Teulu
Math: Deillio newidyn

Diffiniad

Yn dosbarthu'r math o deulu (priod neu bartneriaeth sifil, cyd-fyw neu un rhiant) ac yn eu categoreiddio yn ôl p'un a all unrhyw oedolion yn y teulu hwnnw siarad Cymraeg. Dim ond teuluoedd yng Nghymru a gaiff eu cynnwys yn y dosbarthiad hwn.

Dosbarthiad

Cyfanswm nifer y categorïau: 9

Cod Enw
1 Pâr priod neu gwpwl partneriaeth sifil: Mae'r ddau aelod o'r cwpwl yn gallu siarad Cymraeg
2 Pâr priod neu gwpwl partneriaeth sifil: Mae un aelod o'r cwpwl yn gallu siarad Cymraeg
3 Pâr priod neu gwpwl partneriaeth sifil: Nid yw'r naill aelod o'r cwpwl na'r llall yn gallu siarad Cymraeg
4 Cwpwl sy'n cyd-fyw: Mae'r ddau aelod o'r cwpwl yn gallu siarad Cymraeg
5 Cwpwl sy'n cyd-fyw: Mae un aelod o'r cwpwl yn gallu siarad Cymraeg
6 Cwpwl sy'n cyd-fyw: Nid yw'r naill aelod o'r cwpwl na'r llall yn gallu siarad Cymraeg
7 Teulu un rhiant: Mae'r rhiant yn gallu siarad Cymraeg
8 Teulu un rhiant: Nid yw'r rhiant yn gallu siarad Cymraeg
-8 Ddim yn gymwys*

*Myfyrwyr a phlant ysgol sy’n byw i ffwrdd o'r cartref yn ystod y tymor, mudwyr byrdymor, pobl nad ydynt yn byw yng Nghymru a phobl nad ydynt yn byw mewn teulu cwpwl neu deulu rhiant-plentyn.

Cefndir

Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cymharedd â Chyfrifiad 2011

Cymaradwy iawn

Beth yw ystyr cymaradwy iawn?

Mae newidyn sy’n gymaradwy iawn yn golygu y gellir ei gymharu’n uniongyrchol â’r newidyn o Gyfrifiad 2011. Gall y cwestiynau a’r opsiynau y gallai pobl ddewis fod ychydig yn wahanol, er enghraifft efallai bod trefn yr opsiynau wedi’u newid, ond mae’r data a gesglir yr un peth.

Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban

Gwlad-benodol

Beth yw ystyr gwlad-benodol?

Dim ond ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr y mae'r newidyn hwn wedi cael ei gynhyrchu.

Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).

Data Cyfrifiad 2021 sy’n defnyddio’r newidyn hwn