Cofair: nat_id_cornish
Cymhwysedd: Person
Math: Deillio newidyn

Diffiniad

Hunaniaeth genedlaethol Gernywaidd

Dosbarthiad

Cyfanswm nifer y categorïau: 5

Cod Enw
1 Hunaniaeth Gernyweg yn unig
2 Hunaniaeth Gernyweg a Phrydeinig yn unig
3 Hunaniaeth Gernyweg ac o leiaf un o blith hunaniaethau Cymreig, Seisnig, Albanaidd neu Wyddelig Gogledd Iwerddon (gyda neu heb hunaniaeth Brydeinig)
4 Dim hunaniaeth Gernyweg
-8 Ddim yn gymwys*

*Myfyrwyr a phlant ysgol sy’n byw i ffwrdd o'r cartref yn ystod y tymor.

Cefndir

Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cymharedd â Chyfrifiad 2011

Cymaradwy iawn

Beth yw ystyr cymaradwy iawn?

Mae newidyn sy’n gymaradwy iawn yn golygu y gellir ei gymharu’n uniongyrchol â’r newidyn o Gyfrifiad 2011. Gall y cwestiynau a’r opsiynau y gallai pobl ddewis fod ychydig yn wahanol, er enghraifft efallai bod trefn yr opsiynau wedi’u newid, ond mae’r data a gesglir yr un peth.

Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban

Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).

Data Cyfrifiad 2021 sy’n defnyddio’r newidyn hwn