Cofair: in_full_time_education
Cymhwysedd: Person
Math: Newidyn safonol

Diffiniad

Mae'r newidyn hwn yn nodi a ddywedodd ymatebydd 5 oed a throsodd ei fod mewn addysg amser llawn ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, 21 Mawrth 2021. Mae hyn yn cynnwys plant ysgol a myfyrwyr sy'n oedolion mewn addysg amser llawn.

Caiff plant ysgol a myfyrwyr mewn addysg amser llawn sy'n astudio i ffwrdd o'r cartref eu hystyried fel pe baent yn byw fel arfer yn eu cyfeiriad yn ystod y tymor.

Dosbarthiad

Cyfanswm nifer y categorïau: 3

Cod Enw
1 Myfyriwr
2 Ddim yn fyfyriwr
-8 Ddim yn gymwys*

*Mae’r categori “Ddim yn gymwys” yn cynnwys plant 4 oed ac iau.

Cwestiwn a ofynnwyd

Ydych chi’n blentyn ysgol neu’n fyfyriwr mewn addysg amser llawn?

  • Ydw
  • Nac ydw

Roedd y cwestiwn a'r opsiynau y gallai pobl ddewis ohonynt yr un peth yng Nghyfrifiad 2021 ac yng Nghyfrifiad 2011.

Cefndir

Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Pam rydym ni’n gofyn y cwestiwn hwn

Mae'r ateb yn helpu cymunedau drwy alluogi llywodraeth leol a chanolog i gynllunio gwasanaethau a neilltuo adnoddau ar gyfer eu hardal. Maent yn seilio eu cynlluniau ar nifer y bobl sy'n byw yn eu hardal, felly mae'n bwysig eu bod nhw'n gwybod faint o blant ysgol a myfyrwyr sydd yn y gymuned leol.

Dechreuodd y cyfrifiad ofyn y cwestiwn hwn yn 1851.

Cymharedd â Chyfrifiad 2011

Cymaradwy yn fras

Rydym wedi tynnu'r categori “Plentyn ysgol neu fyfyriwr amser llawn” ar gyfer Cyfrifiad 2021 a defnyddio “Myfyriwr” yn ei le. Yng Nghyfrifiad 2011, gofynnwyd i bobl 4 oed a throsodd ateb y cwestiwn. Yng Nghyfrifiad 2021, gofynnwyd i bobl 5 oed a throsodd ateb y cwestiwn.

Beth yw ystyr cymaradwy yn fras?

Mae newidyn sy’n gymaradwy yn fras yn golygu y gellir ei gymharu’n gyffredinol â’r un newidyn a ddefnyddiwyd yng Nghyfrifiad 2011. Fodd bynnag, efallai bod newidiadau wedi'u gwneud i'r cwestiwn neu'r opsiynau y gallai pobl ddewis ohonynt neu sut mae atebion ysgrifenedig yn cael eu dosbarthu.

Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban

Cymaradwy yn fras

Yn y newidyn a gynhyrchwyd ar gyfer Cymru a Lloegr, gofynnwyd i bobl pump oed a throsodd ateb y cwestiwn. Yng Ngogledd Iwerddon a'r Alban, gofynnwyd i bobl pedair oed a throsodd ateb y cwestiwn. 

Beth yw ystyr cymaradwy yn fras?

Mae newidyn sy'n gymaradwy yn fras yn golygu y gall allbynnau o Gyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr gael eu cymharu'n gyffredinol â'r Alban a Gogledd Iwerddon. Gall gwahaniaethau o ran y ffordd y cafodd y data eu casglu neu eu cyflwyno olygu bod llai o allu i gysoni allbynnau yn llawn, ond byddem yn disgwyl gallu eu cysoni rywfaint o hyd.

Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).

Data Cyfrifiad 2021 sy’n defnyddio’r newidyn hwn

Rydym yn defnyddio newidynnau o ddata Cyfrifiad 2021 i ddangos canfyddiadau mewn gwahanol ffyrdd.

Gallwch chi:

Setiau data eraill sy’n defnyddio’r newidyn hwn